Pwyllgor Safonau dogfennau , 14 Rhagfyr 2010

Pwyllgor Safonau
Dydd Mawrth, 14eg Rhagfyr, 2010

Ynglyn â

Dydd Mawrth 14 Rhagfyr 2010 am 6pm. Siambr y Cyngor Sir, Swyddfeydd y Cyngor, Llangefni.

Noder: Oherwydd natur rhai o'r dogfennau isod, nid yw pob un yn hollol ddwyieithog nac yn hollol hygyrch i bobl gydag amhariadau gweledol, ac ni fydd modd defnyddio 'darllenwr sgrin' i ddarllen y dogfennau hyn.

Aelodau

Aelodau Lleyg

Mr Jeffrey Cotterell
Mrs Pamela Moore
Mr Robert Hugh Gray Morris
Ms Sue Morris
Prof  Robin Grove-White

Cynrychiolydd y Cynghorau Tref / Cymuned

Cynghorydd Raymond Evans

Cynrychiolwyr o Aelodau'r Cyngor Sir

Cynghorydd J  Arwel Roberts
Cynghorydd Ieuan Williams
Cynghorydd Trefor Lloyd Hughes

Rhaglen

1. Datganiad o ddiddordeb

Derbyn unrhyw ddatganiad o ddiddordeb gan unrhyw Aelod neu Swyddog mewn perthynas ag unrhyw eitem o fusnes.

2. Cofnodion

Cyflwyno i'w cadarnhau, cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 8 Mehefin 2010.
(Papur 'A').

3. Adolygiad o Reolau Gweithdrefn Materion Cynllunio

Cyflwyno adroddiad gan y Rheolwr Gwasanaethau Cyfreithiol a'r Pennaeth Gwasanaeth (Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd) ynglyn â'r rheolau diwygiedig arfaethedig.
(Papur B)

4. Protocol Gwybodaeth Drafft

Derbyn adroddiad a chyflwyniad gan y Swyddog Gwybodaeth Gorfforaethol.
(Papur 'C').

5. Polisi Drafft ar gyfer Gwiriadau Swyddfa Cofnodiadau Troseddol

Derbyn adroddiad a chyflwyniad gan Rhys Hughes (Uchel Gyfreithiwr / Gofal Plant) (Papur 'CH')

6. Cwynion ynghylch Ymddygiad i'r Ombwdsmon

Derbyn adroddiad, er gwybodaeth, gan y Swyddog Gofal Cwsmer.
(Papur 'D') - aros am ddogfen

7. Adroddiad yr Ombwdsmon a'r Panel Dyfarnu ynghylch: Y Cyn Gynghorydd Phil Fowlie

Derbyn, er gwybodaeth, copi o adroddiad yr Omdwdsmon, ynghyd â chrynodeb o'r prif ddarganfyddiadau, a copi o lythyr i Rheolwr Gyfarwyddwr Dros Dro i “ITV Wales This Week” dyddiedig 12 Tachwedd 2010.
(Papur 'DD')

8. Cynllun Hyfforddi a Datblygu Newydd ar gyfer Aelodau

Derbyn, er gwybodaeth, gopi o adroddiad a gyflwynwyd i'r Cyngor ar 9 Rhagfyr 2010 gan y Pencampwr Datblygu Aelodau / Cadeirydd y Gweithgor Datblygu Aelodau. (Papur 'E')

9. Adroddiadau gan Gadeirydd y Pwyllgor Safonau

Derbyn adroddiadau llafar ynghylch:

9.1 Cyflwyniad y Cadeirydd i Gynhadledd Pwyllgorau Safonau Cymru Gyfan a gynhaliwyd ar 14 Hydref 2010.
(Papur 'F')

9.2 Canlyniad adroddiad y Cadeirydd i'r Cyngor llawn ar 9 Rhagfyr 2010 mewn perthynas â'r trothwy ynghylch Aelodau yn derbyn rhoddion.
(Papur FF)

9.3 Trafod cyflwyniad y Cadeirydd i Gynghorau Tref a Chymuned ar 12 Ionawr 2011 ynghylch eu hanghenion hyfforddi.

9. Dyddiadau cyfarfodydd

Cadarnhau dyddiadau ar gyfer cyfarfodydd ffurfiol ac anffurfiol y Pwyllgor Safonau yn 2011 a chytuno ar eitemau ar gyfer rhaglen y cyfarfod anffurfiol cyntaf. Mae copi o Rhaglen Waith y Pwyllgor Safonau ynghlwm. Awgrym o'r eitemau ar gyfer y cyfarfod nesaf wedi eu amlygu.
(Papur 'G')