Pwyllgor Safonau dogfennau , 8 Mehefin 2011

Pwyllgor Safonau
Dydd Mercher, 8fed Mehefin, 2011

Ynglyn â

Dydd Mercher 8 Mehefin 2011 am 6pm.
Siambr y Cyngor, Swyddfeydd y Cyngor, Llangefni.

Noder: Oherwydd natur rhai o'r dogfennau isod, nid yw pob un yn hollol ddwyieithog nac yn hollol hygyrch i bobl gydag amhariadau gweledol, ac ni fydd modd defnyddio 'darllenwr sgrin' i ddarllen y dogfennau hyn.

Rhaglen

1. Datganiad o ddiddordeb

2. Cofnodion y cyfarfod

Cadarnhau cofnodion y cyfarfod gynhaliwyd ar 9 Mawrth 2011.
(Papur A)

3. Cwynion am ymddygiad i'r Ombwdsmon

Bydd matrics wedi'i ddiweddaru yn cael ei ddarparu i sylw'r Pwyllgor gan Beryl Jones, Swyddog Gofal Cwsmer.
(Papur B) - aros am ddogfen

4. Hyfforddiant i aelodau - Cynllun Datblygu Aelodau - aelodaeth o'r Gweithgor Datblygu Aelodau

Adroddiad a chyflwyniad gan Miriam Williams, Uchel Swyddog Datblygu.
(Papur C)

5. Cyflwyno Adroddiad Blynyddol y Pwyllgor Safonau i'r Cyngor Sir - gohiriwyd o gyfarfod Mis Mawrth

Mr R H Gray Morris yn rhoi cyflwyniad llafar.

6. Rhaglen Waith

Copi o'r Rhaglen Waith am 2011/2012 a gymeradwywyd gan y Cyngor Sir ar 8 Mawrth 2011. Er gwybodaeth yn unig.
(Papur CH)

7. Adrodd yn ôl a darparu gwybodaeth ar ganlyniadau materion yn y Rhaglen Waith

Adroddiad diweddaru gan y Cyfreithiwr i'r Swyddog Monitro ynglŷn â Rhoddion a Lletygarwch, Indemniadau, Rheolau Gweithdrefn Materion Cynllunio (siarad cyhoeddus ac adolygu), Protocol Gwybodaeth i Aelodau, Hawliau Mynediad a materion Diogelu Data, Polisi CRB, Hyfforddiant i Gynghorau Cymuned a Thref a Phrotocolau Rheolaeth Wleidyddol.
(Papur D)

8. Recriwtio'r Pwyllgor Safonau newydd ac aelodaeth y Pwyllgor Safonau newydd

Adroddiad gan y Cyfreithiwr i'r Swyddog Monitro.
(Papur DD)

9. Adolygu'r cofrestrau

Anfonwyd llythyr yn atgoffa'r Aelodau ym mis Mai (yn unol â Rhaglen Waith y Pwyllgor Safonau) a chynhelir yr adolygiad ym mis Medi. Mae copi o'r llythyr anfonwyd i'r aelodau wedi'i ddarparu er gwybodaeth.
(Papur E)

10. Pwyllgorau Safonau Gogledd Cymru - cyfarfod nesaf 10/06/2011

Cyflwyniad o adroddiad llafar gan Ms Sue Morris ynglŷn â'r cyfarfod ar 15 Ebrill ac i drafod Rhaglen y cyfarfod nesaf (bydd copiau o'r Cofnodion a'r Rhaglen perthnasol yn cael eu cylchredeg pan ddont i law).

11. Cyfarwyddyd y Gweinidog 16/03/11 - Penodi Comisiynwyr

Copi o Femorandwm a Chyfarwyddyd y Gweinidog 16/03/2011. Er gwybodaeth yn unig.
(Papur F)

12. Eitemau i'w rhoi ar raglen cyfarfod 14 Medi 2011































Cysylltiadau

  • Gwasanaeth Cyfreithiol a Phwyllgorau

    Adran y Rheolwr Gyfarwyddwr

    Swyddfeydd y Cyngor

    Llangefni

    Ynys Môn

    LL77 7TW

    Tel: (01248) 752 568

    Fax: 01248) 752 132

    Email: cyfraithpolisi@ynysmon.gov.uk

    Â