Pwyllgor Safonau dogfennau , 25 Gorffennaf 2012

Pwyllgor Safonau
Dydd Mercher, 25ain Gorffennaf, 2012

Ynglyn â

Dydd Mercher, 25 Gorffennaf, 2012 am 2pm.
Ystafell Bwyllgor 1, Swyddfeydd y Cyngor, Llangefni.

Noder: Oherwydd natur rhai o'r dogfennau isod, nid yw pob un yn hollol ddwyieithog nac yn hollol hygyrch i bobl gydag amhariadau gweledol, ac ni fydd modd defnyddio 'darllenwr sgrin' i ddarllen y dogfennau hyn.

Aelodau

Aelodau Lleyg

Ms Denise Harris Edwards
Mr Islwyn Jones
Mr Lewlie Lord
Mrs Dilys Shaw
Mr Michael Wilson

Cynrychiolydd y Cynghorau Tref / Cymuned

Cynghorydd Raymond Evans
Cynghorydd John Roberts

Cynrychiolwyr o Aelodau'r Cyngor Sir

Cynghorydd Ieuan Williams
Cynghorydd Trefor Lloyd Hughes

Rhaglen

1. Datganiad o ddiddordeb

2. Cofnodion

Cadarnhau Cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 12 Mehefin, 2012.
(Papur A)

3. Sefyllfa gyfredol ynglŷn â chyhoeddi cofrestrau statudol ar lein

Adroddiad diweddaru gan Rheolwr We Corfforaethol a Gwybodaeth ynglÅ·n ag ymestyn cyhoeddi ar lein Datganiadau Diddordeb Aelodau i gynnwys ffurflenni datgan rhoddion a lletygarwch a hefyd ffurflenni datgan diddordeb mewn cyfarfodydd, ac i alluogi ffurflenni rhoddion a lletygarwch a hefyd Cofrestrau Sefydlog i gael eu diweddaru'n rhyngweithiol.
(Papur B)

4. Prosiect rheoli cwynion

Adroddiad diweddaru gan y Swyddog Gwybodaeth Corfforaethol i gynghori'r Pwyllgor ynglŷn â Prosiect Rheoli Cwynion i gynnwys Gofal y Cwsmer/Dangos y ffordd.
(Papur C)

5. Cwynion am ymddygiad i'r ombwdsman

5a Mae adroddiad gan y Swyddog Gofal Cwsmer mewn ffurf matrics wedi ei ddiweddaru yn cael ei ddarparu i sylw'r Pwyllgor. Er gwybodaeth a chwestiynau.
(Papur CH)

5b Mae adroddiad gan y Swyddog Gofal Cwsmer mewn ffurf matrics i Gynghorau Tref a Chymuned wedi ei ddiweddaru yn cael ei ddarparu i sylw'r Pwyllgor. Er gwybodaeth a chwestiynau.
(Papur D)

6. Crynodeb o benderfyniadau panel dyfarnu cymru

Adroddiad gan y Swyddog Gofal Cwsmer.
(Papur DD)

7a Statws Cynllun Datblygu Aelodau

Adroddiad diweddaru gan y Prif Swyddog Datblygu ar faterion yn codi o'r Cynllun Datblygu Aelodau ac o'r Grŵp Datblygu Aelodau.

7b Cyflwyno Adolygiadau Datblygu personol ar gyfer aelodau

Adroddiad diweddaru gan y Prif Swyddog Datblygu ar Adolygiadau Datblygu Personol ar gyfer Aelodau.
(Papur E)

8. Fforwm Pwyllgorau Safonau Gogledd Cymru

CC-015794-LB/145114 Page 2

Nodiadau'r Swyddog Monitro ar gyfarfod y Fforwm Pwyllgor Safonau gyda'r Ombwdsmon ar 24 Ebrill 2012.
(Papur F)

9. Adroddiad y Cadeirydd i'r Cyngor at 10 Mai 2012

Adroddiad Blynyddol Cadeirydd y Pwyllgor Safonau i'r Cyngor Sir yn amlinellu gwaith y Pwyllgor yn 2011/12 ac yn cyflwyno ei Raglen Waith am 2012/13.
(Papur FF)

10. Papur Gwyn

Adroddiad gan y Pennaeth Adnoddau - Cyfreithiol a Gweinyddol / Swyddog Monitro i'r Pwyllgor ystyried Papur Gwyn y Llywodraeth ar hyrwyddo democratiaeth leol.
(Papur G)