Pwyllgor Safonau dogfennau , 31 Hydref 2012

Pwyllgor Safonau
Dydd Mercher, 31ain Hydref, 2012

Ynglyn â

Dydd Mercher 31 Hydref, 2012 am 2:00yp
Ystafell Bwyllgor 1, Swyddfeydd y Cyngor, Llangefni

Noder: Oherwydd natur rhai o'r dogfennau isod, nid yw pob un yn hollol ddwyieithog nac yn hollol hygyrch i bobl gydag amhariadau gweledol, ac ni fydd modd defnyddio 'darllenwr sgrin' i ddarllen y dogfennau hyn.

Aelodau

Aelodau Lleyg

Ms Denise Harris Edwards
Mr Islwyn Jones
Mr Lewlie Lord
Mrs Dilys Shaw
Mr Michael Wilson

Cynrychiolydd y Cynghorau Tref / Cymuned

Cynghorydd Raymond Evans
Cynghorydd John Roberts

Cynrychiolwyr o Aelodau'r Cyngor Sir

Cynghorydd Ieuan Williams
Cynghorydd Trefor Lloyd Hughes

Rhaglen

1. Datganiad o ddiddordeb

Derbyn unrhyw ddatganiad o ddirddordeb gan unrhyw Aelod neu Swyddog mewn perthynas ag unrhyw eitem ar y Rhaglen.

2. Cofnodion

I gadarnhau Cofnodion y cyfarfodydd canlynol â gynhaliwyd ar:-

(i) 25 Gorffennaf 2012 am 2 o'r gloch (Papur A)
(ii) 25 Gorffennaf 2012 am 4 o'r gloch Gwrandawiad Gollyngiadau (Papur B)
(iii) 16 Awst 2012 (Papur C)

3. Proses Gosod Tai a rôl Aelodau

Adroddiad diweddariad gan Pennaeth Gwasanaeth (Tai)
(Adroddiad i'r Pwyllgor Safonau ar 14/12/11 a diweddariad 27/3/12)
(Papur CH)

4. Sefyllfa Gyfredol ynglŷn â Cyhoeddi Cofrestrau Statudol ar-lein

Adroddiad diweddaru gan Rhoelwr We Corfforaethol a Gwybodaeth ynglÅ·n ag ymestyn cyhoeddi ar lein Datganiadau Diddordeb Aelodau i gynnwys ffurflenni datgan rhoddion a lletygarwch a hefyd ffurflenni datgan diddordeb mewn cyfarfodydd, ac i alluogi ffurflenni rhoddion a lletygarwch a hefyd Cofrestrau Sefydlog i gael eu diweddaru'n rhyngweithiol.
(Papur D)

5. Prosiect Rheoli Cwynion

Adroddiad diweddaru gan y Swyddog Gofal Cwsmer ynglŷn â Prosiect Rheoli Cwynion.
(Papur DD)

6. Cwynion am Ymddygiad i'r Ombwdsmon

6.A Adroddiad gan y Swyddog Gofal Cwsmer mewn ffurf matrics ar gyfer Cynghorwyr Sir wedi ei ddiweddaru yn cael ei ddarparu i sylw'r Pwyllgor. Er gwybodaeth a chwestiynau.
(Papur E)

6.B Adroddiad gan y Swyddog Gofal Cwsmer mewn ffurf matrics ar gyfer Cymunedau Tref a Chymuned wedi ei ddiweddaru yn cael ei ddarparu i sylw'r Pwyllgor. Er gwybodaeth a chwestiynau.
(Papur F)

6.C Adroddiad Blynyddol yr Ombwdsmon

Adroddiad gan y Swyddog Gofal Cwsmer gan gynnwys crynodeb o faterion sydd yn berthnasol i Gyngor Sir Ynys Môn. Er gwybodaeth a thrafodaeth.
(Papur FF)

7. Crynodeb o benderfyniadau Panel Dyfarnu Cymru

Adroddiad gan y Swyddog Gofal Cwsmer.
(Papur G)

8.A Statws Cynllun Datblygu Aelodau

Adroddiad diweddaru gan y Prif Swyddog Datblygu ar faterion yn codi o'r Cynllun Datblygu Aelodau ac o'r Grŵp Datblygu Aelodau.
(Papur NG)

8.B Cyflwyno Adolygiadau Datblygu Personol ar gyfer Aelodau

Adroddiad gan y Prif Swyddog Datblygu ar Adolygiadau Datblygu Personol ar gyfer Aelodau.
(Papur NG)

9. Fforwm Pwyllgorau Safonau Gogledd Cymru

Rhaglenni cyfarfodydd Fforwm Pwyllgorau Safonau 17 Gorffennaf 2012 a 4 Hydref 2012 a nodiadau y Swyddog Monitro a Chyfreithiwr y Swyddog Monitro.
(Papur H)

10. Newidiadau Arfaethedig i'r Cyfansoddiad

10A Protocol i Aelodau mewn Wardiau Aml-Aelod

Adroddiad gan Gyfreithiwr y Swyddog Monitro yn atodi cymalau amlddewis i'r Pwyllgor gytuno a drafftio protocol mewn parodrwydd i ymgynghoriad efo Aelodau.
(Papur I) - Gweler uchod yn 'Dogfennau i'w lawrlwytho'.

10B Hyfforddiant Aelod

Adroddiad gan Gyfreithiwr y Swyddog Monitro ynglyn â hyfforddiant Aelodau ar y Côd Ymddygiad ac agweddau eraill i gynnwys hyfforddiant gorfodol ar y Côd ac ymrwymo a chofnodi datblygiad proffesiynol parhaus yn flynyddol ac atodi nifer o opsiynau i'r Pwyllgor eu hystyried gyda'r bwriad i ymgynghori hefo Aelodau arnynt.
(Papur L)

11. Adolygiad Blynyddol Cofrestrau Cyhoeddus o Ddiddordebau'r Aelodau ac Aelodau Cyfetholedig

Adroddiad gan Gyfreithiwr y Swyddog Monitro
(Papur LL)

O gyflwyno'r casgliadau o adolygiadau blaenorol ac Adolygiad o'r Cofrestrau - Nodyn o Gyngor Cyffredinol (Hydref 2012), gofynnir i'r Pwyllgor weinyddu eu hadolygiad blynyddol ar y ffurflenni o Ddatgan Diddordeb Aelodau ac Aelodau Cyfetholedig ynglyn â'r “Gofrestr Sefydlog” (gwybodaeth cyn datgan), Datganiadau mewn Cyfarfodydd, Datganiadau o Roddion a Letygarwch a Chyrff Allanol. Gofynnir i'r Pwyllgor ystyried os ydyw'n fodlon fod yna gydymffurfio gyda'r argymhellion a wnaethpwyd mewn adolygiadau blaenorol o'r cofrestrau ac os oes yna faterion cyfredol neu bryderon sy'n codi o'r adolygiad hwn, os ydynt yn gyffredinol neu'n benodol. Gofynnir i'r Pwyllgor hefyd benderfynu sut i gyhoeddi eu casgliadau.

12. Y Cod Ymddygiad - Canllawiau gan Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru

Dyma'r cysylltiad i'r Canllawiau ar wefan yr Ombwdsmon

Adroddiad ar lafar gan y Swyddog Monitro