Pwyllgor Safonau dogfennau , 16 Hydref 2008

Pwyllgor Safonau
Dydd Iau, 16eg Hydref, 2008

PWYLLGOR SAFONAU

 

Cofnodion y gyfarfod gynhaliwyd ar 16 Hydref, 2008

 

YN BRESENNOL:

 

Mr Jeffrey Cotterell (Cadeirydd);

 

Mrs Pamela Moore;

Mr Robert Hugh Gray Morris;

Mrs Susan Morris;

Yr Athro Robin Grove-White;

 

 

 

WRTH LAW:

 

Cyfreithiwr y Swyddog Monitro (RMJ);

Swyddog Pwyllgor (JMA);

 

 

 

___________________________________________________________________________

 

Agorodd Cyfreithiwr y Swyddog Monitro y cyfarfod drwy groesawu yr Aelodau a oedd yn bresennol. Adroddodd fod y broses o ethol unigolyn i gynrychioli Cynghorau Tref a Chymuned ar y Pwyllgor Safonau wedi cychwyn ond nad oedd yr enwebiad gan Llais Cymru wedi ei gadarnhau gan y Cyngor Sir hyd yma. Disgwylir i hyn gymeryd lle o fewn y ddau fis nesaf. Pwysleisiodd fod yn rhaid i Gadeirydd y Pwyllgor Safonau fod yn un o Aelodau Annibynol y Pwyllgor ac estynodd wahoddiad am enwebiadau am y swydd o Gadeirydd y Pwyllgor.

 

1

ETHOL CADEIRYDD

 

Etholwyd Mr Jeffrey Cotterell yn unfrydol fel Cadeirydd y Pwyllgor Safonau am gyfnod o bedair blynedd neu am y cyfnod hwnnw y bydd yn parhau i fod yn aelod o’r Pwyllgor, pa gyfnod bynnag sydd fyrraf o’r ddau, yn unol â Chyfansoddiad y Cyngor yn 2.9.2.6 a’r Rheoliadau.

 

Diolchodd Mr Cotterell i’w gyd Aelodau am eu hyder ynddo ac am y fraint o gael ei ethol fel Cadeirydd.

 

2

DATGANIAD O DDIDDORDEB

 

Ni dderbyniwyd unrhyw ddatganiad o ddiddordeb gan Aelod na Swyddog.

      

3

ETHOL IS GADEIRYDD

 

Etholwyd Mrs Susan Morris yn unfrydol fel Is Gadeirydd y Pwyllgor Safonau am gyfnod o bedair blynedd neu am y cyfnod hwnnw y bydd hi yn parhau i fod yn Aelod o’r Pwyllgor, pa gyfnod bynnag sydd fyrraf o’r ddau, yn unol â Chyfansoddiad y Cyngor yn 2.9.2.6. a’r Rheoliadau.

 

Diolchodd Mrs Morris i’r Aelodau a derbyniodd y Swydd o Is Gadeirydd.

        

 

 

MR JEFFREY COTTERELL

CADEIRYDD