Pwyllgor Safonau dogfennau , 6 Hydref 2009

Pwyllgor Safonau
Dydd Mawrth, 6ed Hydref, 2009

PWYLLGOR SAFONAU

 

Cofnodion y cyfarfod a gafwyd ar 6 Hydref 2009

 

YN BRESENNOL          :     Mr. Jeffrey Cotterell (Cadeirydd);

 

                         Mrs Pamela Moore;

                         Mr Robert Hugh Gray Morris;

                         Mrs Susan Morris;

                         Yr Athro Robin Grove-White.

 

WRTH LAW               :     Swyddog Monitro;

                         Cyfreithiwr i'r Swyddog Monitro (RMJ);

                         Swyddog Pwyllgor (JMA).

 

YMDDIHEURIAD          :     Y Cynghorydd Raymond Evans.

 

 

 

1.     DATGAN DIDDORDEB

 

     Ni chafwyd unrhyw ddatganiad o ddiddordeb.

 

2.     COFNODION

 

Cyflwynwyd a chadarnhawyd fel rhai cywir gofnodion y cyfarfod o'r Pwyllgor Safonau a gafwyd ar 16 Hydref 2008.

 

3.

GOHEBIAETH AT Y GWEINIDOG DROS GYFIAWNDER CYMDEITHASOL A LLYWODRAETH LEOL

 

Cyflwynwyd a nodwyd er gwybodaeth gopi o lythyr y Pwyllgor Safonau at y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol a Llywodraeth Leol dyddiedig 10 Medi 2009.

 

Dywedodd y Cadeirydd iddo yrru'r llythyr er mwyn sicrhau bod y Gweinidog yn cydnabod y problemau yn y Cyngor ac ychwanegodd iddo gael cyfarfod dros ginio gyda'r Bwrdd Adfer a bydd rhagor o gynnydd yn digwydd dros y 10 niwrnod nesaf.

 

PENDERFYNWYD nodi cynnwys y llythyr a'r diweddariad a gyflwynwyd gan y Cadeirydd.

 

4.

CYNGOR I AELODAU'R CYNGOR SIR

 

Cyflwynwyd copi o lythyr y Pwyllgor Safonau ac ynddo gyngor i Aelodau'r Cyngor Sir ar ôl archwilio y Gofrestr Gyhoeddus o Ddiddordebau'r Aelodau.

 

Hefyd nododd y Cadeirydd y bydd arolwg arall yn cael ei gynnal o'r holl gofnodiadau newydd yn y Cofrestri Cyhoeddus o Diddordebau'r Aelodau am y cyfnod hyd at ddiwedd chwarter cyntaf 2010.

 

 

 

 

                                                                     88

Aeth y Cadeirydd ymlaen i nodi mai pwrpas y Pwyllgor Safonau oedd cynorthwyo'r Aelodau pan fo'n bosib ac roedd am gael gwared o bob ensyniad a all fod gan yr Aelodau bod y Pwyllgor wedi ei sefydlu yn unswydd i feirniadu'r aelodau.

 

PENDERFYNWYD bod y Cadeirydd yn ysgrifennu at yr Aelodau a chynnig sicrwydd iddynt ynghylch dwy swyddogaeth y Pwyllgor Safonau.

 

 

5.

MANYLION AM GWYNION YMDDYGIAD

 

Cyflwynwyd - manylion am gwynion a gyflwynwyd i Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru ers Mai 2008.

 

Cafodd y Cadeirydd yr argraff bod yr Ombwdsmon yn tybio bod rhai o'r cwynion o natur flinderus.

 

Cadarnhaodd y Swyddog Monitro fod tair cwyn ar y rhestr yn rhai a gyflwynwyd gan un achwynydd yng nghyswllt yr un cyfarfod.  Roedd un rhan o'r gwyn y cyfeiriwyd ati yn erbyn Cynghorydd unigol a hynny am gamarwain y Pwyllgor, a rhan dau y gwyn yn erbyn Cadeirydd y Pwyllgor am fethu â herio'r Cynghorydd tra oedd rhan tri y gwyn yn erbyn Arweinydd Grwp y Cynghorydd am fethu â rhoddi sylw i ymddygiad y Cynghorydd yn y cyfarfod.

 

 

 

O ran y brif gwyn yn erbyn y Cynghorydd daeth yr Ombwdsmon i'r casgliad nad oedd yma achos i'w ateb ond nid oedd yn y gwyn unrhyw awgrym ei fod o natur flinderus.  Wedyn yng nghyswllt rhan 2 a rhan 3 y gwyn canfu'r Ombwdsmon fod y ddwy ran yn flinderus.  Ychwanegodd fod yr Arweinydd Grwp wedi gwrthod cymryd camau yn erbyn y Cynghorydd a hynny yn sgil cyngor yr oedd hi wedi ei roddi iddo (dim grym ar hyn o bryd); yng nghyswllt yr haeriad fod y Cadeirydd wedi methu â herio'r Cynghorydd cytunai'r Ombwdsmon nad swyddogaeth y Cadeirydd oedd croesholi'r aelodau - ei waith oedd rheoli'r cyfarfod.  

 

 

 

Yma ychwanegodd y Swyddog Monitro y gallasai'r Ombwdsmon dan Adran 69 gymryd camau yn erbyn yr achwynydd trwy gyflwyno cwyn ei hun.  Er ei fod yn cydnabod bod yma dorri gofynion technegol ni chredai bod y rheini o natur a ganiatâi i'r Pwyllgor Safonau gyflwyno cosbau a hynny am nad oeddid wedi cyrraedd y trothwy.  Cadarnhaodd bod yr achwynydd a'r ddau Gynghorydd wedi cael gwybod am sylwadau'r Ombwdsmon a'i benderfyniad.  Mewn ymateb i gwestiwn gan Aelod, eglurodd y Swyddog Monitro fod cwynion blinderus fel arfer yn gwynion a gyflwynir er mwyn achosi gofid/anesmwythyd ac nid oes ynddynt unrhyw rinweddau.

 

 

 

Aeth y Swyddog Monitro ymlaen i gadarnhau na chafwyd cwynion ychwanegol ers cyflwyno'r tabl diwethaf i'r aelodau ac ni chafwyd unrhyw gasgliadau hyd yma - er bod ymchwiliadau yn dal i gael eu cynnal i nifer o gwynion.

 

 

 

PENDERFYNWYD derbyn y Tabl Cwynion a nodi sylwadau'r Swyddog Monitro.

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

                                                                   89

 

6.

CYNHADLEDD Y PWYLLGORAU SAFONAU

 

 

 

Dywedodd y Cadeirydd wrth yr Aelodau y buasai ef, a'r Athro R. Grove White, a'r Swyddog Monitro a'r Cyfreithiwr i'r Swyddog Monitro yn mynychu Cynhadledd Pwyllgorau Safonau Cymru Gyfan yng Nghaerdydd ar 15 Hydref 2009.  Cadarnhaodd y buasai'r Swyddogion yn trefnu i deithio yn y ffordd fwyaf cost effeithiol bosib a threfnu llety felly hefyd.  Ychwanegodd y Cadeirydd iddo dderbyn gwahoddiad i wneud cyflwyniad bychan yn un o'r gweithdai a chafwyd ar ddeall y bydd tri Chadeirydd arall i Bwyllgorau Safonau yng Nghymru yn rhan o'r Gweithdy.

 

 

 

PENDERFYNWYD nodi'r wybodaeth uchod.

 

 

 

 

 

 

 

 

 

MR. JEFFREY COTTERELL

 

CADEIRYDD

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

90