Pwyllgor Safonau dogfennau , 10 Tachwedd 2009

Pwyllgor Safonau
Dydd Mawrth, 10fed Tachwedd, 2009

PWYLLGOR SAFONAU

 

Cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 10 Tachwedd 2009

 

YN BRESENNOL:

 

Mr.  J. Cotterell (Cadeirydd);

 

Aelod Lleyg

Mrs Pamela Moore;

Mr. Robert Hugh Gray Morris;

Ms Sue Morris.

 

 

 

 

WRTH LAW:

 

Swyddog Monitro (LB);

Cyfreithiwr (MJ);

Swyddog Pwyllgor (JMA).

 

HEFYD YN BRESENNOL:

 

Y Cynghorwyr   Robert Lloyd Hughes; Williams I. Hughes; C. McGregor.

 

 

 

 

 

1

DATGAN DIDDORDEB

 

Nid oedd unrhyw ddatganiad o ddiddordeb gan Aelod na Swyddog.

 

2

COFNODION

 

Cyflwynwyd a derbyniwyd fel rhai cywir gofnodion y cyfarfod gynhaliwyd ar 6 Hydref 2009.

 

3

CAIS AM GANIATÂD ARBENNIG

 

Rhoddodd y Cadeirydd gyfle i'r Swyddog Monitro gyfarch y cyfarfod.  Nododd y Swyddog Monitro y papurau oedd ynghlwm i'w hadroddiad oedd wedi'u cyflwyno fel rhan o'r rhaglen i'r cyfarfod.  Cyfeiriodd yn arbennig at y rhannau perthnasol o'r Côd Ymddygiad i Aelodau, ac yn arbennig:-

 

Rhan 3 - Diddordeb

 

10(1) - Ym mhob mater rhaid I chi ystyried a oes gennych fuddiant personol ac a yw’r cod ymddygiad hwn yn ei gwneud yn ofynnol I chi ddatgelu’r buddiant hwnnw.

 

2. Rhaid I chi ystyried bod gennych fuddiant personol mewn unrhyw fusnes y mae a wnelo eich awdurdod ag ef -

 

“pe byddai’n rhesymol I aelod o’r cyhoedd ganfod bod gwrthdaro rhwng eich rôl o ran gwneud penderfyniad ar y busnes hwnnw, ar ran eich awdurdod yn gyfan a’ch rôl o ran cynrychioli buddiant etholwyr yn eich ward neu eich dosbarth etholiadaol neu;

 

 

 

er eich llesiant neu eich sefyllfa ariannol, neu lesiant neu sefyllfa ariannol person yr ydych yn byw gyda ef, neu unrhyw berson y mae gennych gysylltiad personol agos ag ef.”

 

 

 

Yn yr achos arbennig hwn, dywedodd y Swyddog Monitro bod gan Aelodau Rôl Ddeuol yn yr ystyr nad ydynt yn aelodau lleol yn unig ond hefyd yn aelodau o'r Pwyllgor Gwaith ac felly y rhai sy'n gwneud penderfyniadau.  Efallai na fydd angen ceisio caniatâd arbennig bob amser gan y byddai hyn yn dibynnu ar arwyddocad y penderfyniadau i'w gwneud.  Fodd bynnag, roedd y diddordeb yn un rhagfarnol fel y mae Cymal 12(1) o'r Côd yn ei ddweud:

 

 

 

Yn amodol i is-baragraff (2) isod, os bydd gennych fuddiant personolmewn unrhyw fusnes y mae a wnelo eich awdurdod ag ef bydd gennych hefyd fuddiant sy'n rhagfarnu yn y busnes hwnnw os bydd y buddiant yn un y bydd yn rhesymol i aelod o'r cyhoedd sy'n gwybod y ffeithiau perthnasol fod o'r farn ei fod mor arwyddocaol fel y bydd yn debygol o ragfarnu eich barn ynghylch buddiant cyhoeddus.

 

 

 

 

 

 

 

 

 

Tynnodd y Swyddog Monitro sylw at gopi o'r Rheoliadau Caniatâd arbennig oedd hefyd wedi'u cynnwys fel rhan o'r Rhaglen.  Roedd hwn yn rhestru'r seiliau cyfyngedig lle gallai'r Pwyllgor Safonau roi caniatâd arbennig i aelodau.   Mae gan y Pwyllgor bwerau statudol i roi caniatâd arbennig os yw un neu fwy o'r seiliau rhestredig wedi'u sefydlu.  Ystyr caniatâd arbennig yw lle bod gan Aelod diddordeb personol a rhagfarnol a lle mae'r Pwyllgor Safonau wedi'i fodloni bod sail statudol sydd i bob pwrpas yn dileu elfen rhagfarnol y diddordeb fel bod yr aelod yn parhau i fod gyda'r diddordeb hwnnw, a bod yn rhaid iddo'i ddatgelu, ond bod yr elfen o ragfarn wedi cael ei ddileu trwy i'r Pwyllgor Safonau fod wedi'i fodloni bod un neu fwy o'r seiliau wedi'u profi.

 

 

 

Dyfynnodd y Swyddog Monitro'r rhan ganlynol o'r seiliau statudol:

 

 

 

"2(b) os oes gan ddim llai na hanner aelodau gweithrediaeth arweinydd a chabinet y mae'r busnes i gael ei ystyried ganddo fuddiant sy'n berthnasol i'r busnes hwnnw a bod naill ai paragraff (d) neu baragraff (e) hefyd yn gymwys"

 

 

 

Yn yr achos hwn, mae'r sefyllfa yn fater o ffaith ac nid yn fater o farn ac nid yn un y mae'n rhaid i Aelodau'r Pwyllgor Safonau ei thrafod h.y. mae o leiaf hanner y Pwyllgor Gwaith yn gwrthdaro ar y mater.  Mae sail gyntaf 2(b) felly wedi'i phrofi.  Fodd bynnag, mae'r rheswm hwnnw fel sail ar gyfer caniatâd arbennig yn dod gyda chymal sy'n dweud bod yn rhaid nodi un neu ddwy sail ychwanegol.  Mae sail (d) yn berthnasol ac yn allweddol i'r penderfyniad y gofynnir i'r Pwyllgor ei wneud oherwydd:

 

 

 

"2(d) os yw natur buddiant yr aelod yn gyfryw fel na fyddai cyfranogiad yr aelod yn y busnes y mae'r buddiant yn berthnasol iddo yn niweidio hyder y cyhoedd yn y modd y mae busnes yr awdurdod perthnasol yn cael ei gynnal"

 

 

 

Byddai trafodaethau'r Pwyllgor felly'n cael eu cyfyngu i'r mater o hyder y cyhoedd.  Atgoffwyd yr aelodau bod chwe cais am ganiatâd arbennig wedi'u derbyn.  Byddai tri o'r ceisiadau yn cael eu gwrando yn y cyfarfod hwn a dau arall yn y cyfarfod ar 11 Tachwedd.  Rhoddodd y Cadeirydd wahoddiad i'r Cynghorydd McGregor fel Arweinydd y Cyngor i siarad gerbron yr Aelodau.  Dywedodd y Cynghorydd McGregor na fyddai'r Cynghorydd Elwyn Schofield, sef y pedwerydd ymgeisydd i'w glywed yn y cyfarfod hwn, angen caniatâd arbennig bellach oherwydd nad oedd yn aelod o'r Pwyllgor Gwaith.

 

 

 

Dywedodd y Swyddog Monitro bod tri o'r ceisiadau i'w hystyried yn y cyfarfod a bod gan y tri yr un diddordeb personol a rhagfarnol sef eu bod yn cynrychioli wardiau sy'n cynnwys un neu fwy o ysgolion sydd mewn perygl o gael eu cau a'u bod hefyd yn aelodau o'r Pwyllgor Gwaith sydd ar dasg o wneud penderfyniadau o dan Rhaglen Rhesymoli Ysgolion.  Roedd y tri ymgeisydd yn dibynnu ar yr un rhesymau o dan y Côd i chwilio am ganiatâd arbennig, sef bod mwy na hanner y Pwyllgor Gwaith yn gwrthdaro o ran diddordeb ac y byddai hyder y cyhoedd yn eu gallu i wneud penderfyniad yn cael ei danseilio oherwydd eu rhan yn y broses.  Dyna oedd yr elfen o ddisgresiwn oedd gan y Pwyllgor ac roedd hwnnw yn fater o farn yn hytrach na mater o ffaith.

 

 

 

O fewn ei hadroddiad yr oedd y Swyddog Monitro wedi cynnwys nifer o ffactorau y dylid eu hystyried wrth ddod i benderfyniad, yn cynnwys y ffaith:

 

 

 

Fe fydd cyfle i holi'r ymgeiswyr ynglyn â'u penderfyniad yn amodol ar gael caniatâd arbennig, i gynrychioli diddordebau'r Cyngor i gyd (fel rhan o'r Pwyllgor Gwaith) yn hytrach na dim ond diddordebau eu ward unigol (fel aelod lleol).

 

 

 

Byddai angen i'r Pwyllgor fod wedi'i fodloni bod pob un o'r ymgeiswyr wedi rhoi i'r naill ochr y diddordeb yn eu wardiau eu hunain er mwyn gallu cynrychioli diddordeb yr Ynys gyfan.  

 

 

 

At hyn, roedd y Swyddog Monitro yn credu bod y penderfyniadau oedd i'w gwneud gan y Pwyllgor Gwaith yn arwyddocaol a bod iddo oblygiadau mawr i gymunedau'r Ynys.  Hefyd, roedd rheoliadau'r caniatâd arbennig yn rhagweld sefyllfa fel hon ac yn awgrymu nad oedd yn beth da i lai na hanner aelodau'r Pwyllgor Gwaith wneud penderfyniadau o'r fath, er y byddai yno gworwm.  Roedd am atgoffa'r Pwyllgor hefyd bod Côd Ymddygiad yr Aelodau'n darparu caniatâd arbennig awtomatig i'r holl aelodau hynny sy'n Lywodraethwyr Ysgol fel y gallent gymryd rhan mewn trafodaeth a phleidleisio ar faterion yn ymwneud â'u hysgolin.  Mae yna rai pethau sy'n debyg rhwng y sefyllfa honno a sefyllfa lle mae aelod yn Aelod Lleol ac yn un sy'n gwneud penderfyniadau.  Roedd y Swyddog Monitro am awgrymu bod perthynas rhwng Llywodraethwr Ysgol a'u hysgol yn agosach nag un rhwng Aelod a'r cyfan o'u Ward ac roedd hyn yn ffactor berthnasol iawn i'w dwyn mewn cof wrth wneud penderfyniad ar y mater.

 

 

 

Dywedodd y Swyddog Monitro hefyd - er nad yw hwn yn rheswm sy'n cael ei nodi, mae'r rheoliadau caniatâd arbennig yn caniatáu iddynt gael eu rhoi os yw'r mater yn destun Sgriwtini gan y Pwyllgor Sgriwtini perthnasol a lle mae'r diddordeb hwnnw yn un nad yw'n un ariannol.  Nid oedd yr un o'r diddordebau oedd i'w hystyried yn y Pwyllgor yn rhai ariannol ac er nad oes unrhyw warant na fydd penderfyniad y Pwyllgor Gwaith yn cael ei "alw i mewn" i Sgriwtini, mae'n fwy na thebyg y bydd hynny'n digwydd.

 

 

 

Atgoffwyd yr aelodau bod y proses hon yn un parhaol ac yn un hir ac wedi i benderfyniadau cychwynnol gael eu gwneud bydd proses o ymgynghori hir yn dilyn.  Bydd canlyniad yr ymgynghori hwnnw yn cael ei gyflwyno i'r Pwyllgor Gwaith lle gall ei benderfyniad efallai gael ei gadarnhau neu y bydd penderfyniad newydd yn cael ei wneud ac fe fyddai'r broses honno'n parhau am ddau fis (proses ymgynghori statudol).

 

 

 

Rhoddodd y Cadeirydd wahoddiad i Mr. Geraint Ellis, Cydlynydd Strategol (Addysg) i roi trosolwg byr o'r proses Rhesymoli Ysgolion.  Dywedodd y Swyddog nad oedd ganddo unrhyw amheuaeth bod y Pwyllgor yn gwybod bod yr Awdurdod Addysg wedi bod yn trafod y Rhaglen Rhesymoli Ysgolion ac yn y broses flaenorol, roedd rhybuddion wedi'u cyhoeddi i gau dwy ysgol, sef Ysgol Aberffraw ac Ysgol Llanddeusant.  Fodd bynnag, cafodd Cyngor newydd ei ethol yn 2008 ac fe gafodd y cynigion hynny eu tynnu'n ôl.  Fe ailddechreuwyd y broses o'r dechrau, ac yn Chwefror 2009 fe roddwyd awdurdod i swyddogion gan y Pwyllgor Gwaith i drafod dyfodol nifer o ysgolion lle roedd dwy neu dair o'r datganiadau canlynol yn berthnasol:

 

 

 

Ysgolion gyda llai na 50 disgybl ym Medi 2008 a lle mae rhagamcanion yn dangos y byddai yna lai na 30 o ddisgyblion erbyn 2011;

 

Lle roedd cost y disgybl yn fwy na £4,000;

 

Lle roedd y llefydd gwag tros 25%.

 

 

 

Roedd 10 Ysgol Gynradd yn ffitio i mewn i'r categori lle roedd dau neu dri o'r uchod yn berthnasol i'r ysgol.

 

At hynny, roedd ardaloedd trefol hefyd i gael sylw lle roedd mwy na 25% o lefydd gweigion, sef yng Nghaergybi.  Fe wnaed y gwaith ymgynghori cychwynnol felly yng nghyswllt y 10 ysgol gynradd a hefyd ysgolion yn nhref Caergybi.  Fe wnaed y gwaith ymgynghori ar ddiwedd tymor y gwanwyn ac yn ystod tymor yr haf 2009.  Fe baratowyd adroddiadau yn rhestru'r cefndir, yr opsiynau a'r ystyriaethau i'w cymryd i ystyriaeth ac fe roddwyd 2 fis i lywodraethwyr ysgol, staff a rhieni a phartion eraill gyda diddordeb ymateb i'r dogfennau hynny.

 

 

 

Bydd y Pwyllgor Gwaith yn cyfarfod ar 16 a 17 Tachwedd i ystyried y dogfennau ymgynghori a'r ymatebion i'r ymgynghori cychwynnol ac i wrando ar gyflwyniad gan yr ysgolion.  Fe wahoddwyd pob ysgol i enwebu tri pherson fydd yn cael 15 munud i siarad gerbron y Pwyllgor Gwaith.  Bydd y Pwyllgor Gwaith wedyn yn ystyried yr holl ddogfennau y maent wedi'u derbyn ynghyd â'r cyflwyniadau wnaed iddo ac yn dod i benderfyniad yn ei gyfarfod ar 30 Tachwedd.  Bydd y cyfarfod hwnnw ar 30 Tachwedd yn penderfynu a ddylid ymgynghori ymhellach ai peidio.  Fe all Pwyllgor Gwaith benderfynu gadael yr ysgolion fel ag y maent, cau ysgolion, neu newid cymeriad yr ysgolion.  Fodd bynnag, os bydd y Pwyllgor Gwaith yn penderfynu cau neu newid cymeriad ysgol, bydd ymgynghori statudol yn digwydd yn ystod Tymor y Gwanwyn 2010 pan fydd adroddiad ar oblygiadau ei benderfyniad yn cael ei thrafod, bydd hwn eto yn gyfnod o ddau fis o ymgynghori.  Rhagwelir y bydd canlyniadau'r cyfnod ymgynghori hwnnw'n cael ei adrodd yn ôl i'r Pwyllgor Gwaith ar ddiwedd Mawrth 2010.  Os bydd y Pwyllgor Gwaith yn cadarnhau penderfyniad i gau ysgol ar y cam hwn, bydd rhybudd statudol yn cael ei roi yn y wasg ac yn lleol a bydd cyfnod pellach o ddau fis ar gyfer derbyn gwrthwynebiadau.  Os na fydd unrhyw wrthwynebiadau, bydd y Pwyllgor Gwaith yn penderfynu a ddylai gadarnhau ei benderfyniad ai peidio.  Os na cheir gwrthwynebiadau i'r rhybudd statudol yna bydd yr holl ddogfennau'n cael eu hanfon ymlaen i'r Gweinidog yn y Swyddfa Gymreig fel y gallant ddod i benderfyniad i gadarnhau neu i ddiwygio'r penderfyniad wnaed gan y Pwyllgor Gwaith.  

 

 

 

Ar hyn o bryd, mae'r Awdurdod Addysg yn ceisio cael caniatâd y Pwyllgor Gwaith i symud ymlaen gyda'r broses ymgynghori a bydd hyn yn digwydd yn ystod Tymor y Gwanwyn 2010.

 

 

 

Diolchodd y Cadeirydd i'r Swyddog am ei gyflwyniad gan wahodd yr ymgeisydd cyntaf i siarad o flaen y Pwyllgor.  Nododd y byddai'r tri achos yn cael eu gwrando'n annibynnol ac wedyn y byddai'r Pwyllgor yn neilltuo i sesiwn breifat gyda phenderfyniad ar wahân yn cael ei ddatgan ynglyn â phob cais.

 

      

 

     Y CYNGHORYDD CLIVE McGREGOR

 

      

 

     Cyflwynodd y Cynghorydd McGregor ei hun fel Arweinydd y Cyngor a dywedodd mai ef oedd yr Aelod Lleol dros Llanddyfnan a'i fod yn Lywodraethwr Ysgol wedi ei enwebu gan y Cyngor Sir mewn dwy ysgol sydd wedi'u henwi yn y Rhaglen Rhesymoli Ysgolion, sef Ysgol Ty Mawr, Capel coch ac Ysgol Talwrn.  Roedd yn cydnabod ei gyfrifoldebau tuag at Sir Ynys Môn o safbwynt y rhaglen a nododd na fyddai ei rôl fel Aelod Ward yn cyfri yn yr achos hwn.  Roedd am sicrhau'r Aelodau y byddai'n cynrychioli safbwynt y Sir ac yn cynrychioli safbwynt Ynys Môn yn gyfan.

 

      

 

     Gofynnodd Mrs Pamela Moore i'r Cynghorydd McGregor sut y byddai'n delio gydag adwaith y bobl yn ei Ward os oeddent yn credu bod ei rôl fel Cynghorydd Sir yn gorbwyso ei rôl fel Aelod Lleol.  

 

      

 

     Dywedodd y Cynghorydd McGregor mai ei gyfrifoldeb yw darparu, ar ran yr Awdurdod, yr addysg gorau i blant yr Ynys yn seiliedig ar y rhesymau a'r dadleuon a roid ymlaen.  Hynny fyddai flaenllaw yn ei feddwl pan yn gwneud penderfyniad.  Byddai'n byw gyda'r farn gyhoeddus beth bynnag fyddai honno ar ôl i'r penderfyniad gael ei wneud.

 

      

 

     Gofynnodd Ms Sue Morris os oedd wedi bod mewn sefyllfa fel hyn o'r blaen lle roedd ganddo ddewis fel hyn a beth fyddai ei ffordd o feddwl wrth ddod i benderfyniad.

 

      

 

     Dywedodd y Cynghorydd McGregor nad oedd wedi bod mewn sefyllfa debyg ers iddo fod yn Gynghorydd Sir ond fe brofodd amgylchiadau tebyg yn ei swydd flaenorol.  Pryd hynny bu gofyn iddo gymryd agwedd eang o bethau a pharatoi ei hun a gwneud ei benderfyniad er budd y cyfan yn hytrach na lleiafrif.

 

      

 

     Cyfeiriodd y Cadeirydd at sylw wnaed gan y Swyddog Monitro y gallai perthynas rhwng ysgol a llywodraethwr fod yn un fwy agos na pherthynas Cynghorydd a'i etholaeth a gofynnodd am farn y Cynghorydd McGregor ar hyn.

 

      

 

     Yn ôl y Cynghorydd McGregor, nid oedd cefnogi o anghenraid yn golygu bod yn ddall i'r pictiwr ehangach yr oedd yn rhaid edrych arno.

 

      

 

     Cyfeiriodd y Cadeirydd at benderfyniad wnaed gan y weinyddiaeth flaenorol sef bod Aberffraw a Llanddeusant wedi'u clustnodi i'w cau a gofynnodd am ei ymateb i hyn.

 

      

 

     Dweud wnaeth y Cynghorydd McGregor nad oedd yn aelod o'r Awdurdod pan wnaed y penderfyniad hwnnw ond fe fyddai wedi gwrando heb unrhyw ragfarn ar yr holl sylwadau oedd wedi cael eu gwneud ac fe fyddai wedi dod i benderfyniad rhesymegol yn seiliedig ar y dystiolaeth fyddai wedi'i chyflwyno ger ei fron fel Arweinydd y Pwyllgor Gwaith.  Wrth gloi dywedodd ei fod yn gobeithio y byddai'r caniatâd arbennig yn cael ei roddi iddo gan ei fod yn credu ei fod yn bwysig fod y Pwyllgor Gwaith cyfan yn cymryd rhan gyda gwneud y penderfyniad. Fe fydd yn un o nifer o benderfyniadau anodd y bydd yn rhaid eu gwneud wrth symud ymlaen gyda rhaglen y Pwyllgor Gwaith a hefyd gan roi sylw i'r sefyllfa gyllidebol sy'n wynebu'r awdurdod y flwyddyn hon ac yn y blynyddoedd i ddod.

 

 

 

     Y CYNGHORYDD ROBERT LLOYD HUGHES

 

      

 

     Gwahoddodd y Cadeirydd y Cynghorydd Hughes i siarad gerbron y Pwyllgor.  Dywedodd y Cynghorydd Hughes bod ganddo ddiddordeb yn Ysgol Bodorgan sef un o'r ysgolion ar y rhestr a nodwyd fel un a oedd yn dod o fewn y meini prawf a nodwyd gan y Cydlynydd Strategol (Addysg), ond nid yw yn llywodraethwr yn yr ysgol ond bydd yn cael ei wahodd yn rheolaidd i fynychu cyfarfodydd y llywodraethwyr oherwydd mai ef yw'r Aelod Lleol dros Bodorgan.  Nid oes ganddo bleidlais ond bydd yn mynd i'r cyfarfodydd i roi ei gefnogaeth i'r ysgol ac i roi unrhyw wybodaeth all fod ganddo.  Roedd yn teimlo felly ei fod angen gofyn am ganiatâd arbennig gan fod ganddo ddiddordeb yn yr ysgol.  Roedd wedi trafod y mater gyda'r Swyddog Monitro a dywedodd wrth y Pwyllgor ei fod wedi bod mewn cyfarfod cyhoeddus yn yr ysgol ar 6 Hydref 2009 lle roedd rhwng 50 a 60 o bobl.  Roedd yr Aelod Seneddol Lleol, Albert Owen, a'r Aelod Cynulliad, Ieuan Wyn Jones yno hefyd.  Dywedodd y Cynghorydd Hughes ei fod wedi egluro ei sefyllfa'n glir iawn yn y cyfarfod a dywedodd wrth y rhai oedd yn bresennol y byddai'n ceisio cael caniatâd arbennig cyn mynegi unrhyw farn ar y mater.  Yr oedd wedi dosbarthu llythyr agored yn y cyfarfod hwnnw (rhoddwyd copi hefyd i Aelodau'r Pwyllgor Safonau).  Roedd y llythyr yn nodi'n glir iawn i'w etholwyr yn Bodorgan, i'r Llywodraethwyr, i Rieni ac i'r Gymuned yn gyffredinol na fyddai'n datgelu unrhyw wybodaeth ar sut y byddai'n pleidleisio hyd nes y byddai wedi clywed ac wedi gweld yr holl dystiolaeth ar Tachwedd 16 ac 17 ac wedi hynny ar 30 Tachwedd pan fyddai penderfyniad yn cael ei wneud ar y gwaith ymgynghori.  Dywedodd nad oedd hyn oll yn brofiad pleserus oherwydd, fel y cyfeiriwyd yn flaenorol yn y Pwyllgor hwn, wrth ofyn sut y byddai rhywun yn wynebu ei etholwyr os oes penderfyniad anodd i'w wneud, roedd yn credu ei fod wedi gosod allan ei fwriadau, ac roedd ei etholwyr yn gwybod am yr hyn oedd angen iddo ei wneud fel aelod o'r Pwyllgor Gwaith ac fe fyddai'n sefyll wrth yr egwyddor honno.

 

      

 

     Gofynnodd Mrs Pamela Moore i'r Cynghorydd Hughes am ei safbwyntiau ynglyn â'i gyfrifoldeb cyffredinol i'r Ynys gyfan ac fel Aelod gweithredol dros ei Ward. Dywedodd ei fod yn credu ei fod eisoes wedi eu hwynebu ac er bod llawer o bobl yn cefnogi ei safiad yn y cyfarfod, roedd yna ychydig nad oedd yn ei gefnogi.  Roedd yn credu mai peth ffol fyddai iddo beidio bod wedi paratoi ei etholaeth a dweud y gallai'r penderfyniad fynd yn eu herbyn.  Roedd yn teimlo mai ei ddyletswydd oedd gwneud hynny ac ar ôl gwneud yr oedd wedi gadael y cyfarfod.  Roedd wedi ei gwneud yn glir na fyddai'n cymryd unrhyw ran mewn unrhyw drafodaeth ac roedd yn credu eu bod wedi deall y byddai'r penderfyniad y byddai'n dod iddo yn un fyddai'n manteisio'r Sir gyfan ac nid ei Ward.

 

      

 

     Gofynnodd Mr. R. H Gray Morris pa fath o atborth yr oedd y Cynghorydd Hughes wedi ei gael pan yn siarad gydag Albert Owen ac Ieuan Wyn Jones.  Dywedodd y Cynghorydd Hughes ei fod yn fwriadol wedi siarad mewn termau cyffredinol yn hytrach na siarad am Bodorgan.  Nid oedd wedi ceisio cael eu safbwyntiau na'u teimladau ac nid oedd wedi cael unrhyw atborth ganddynt.

 

      

 

     Gofynnodd Ms Sue Morris a oedd y Cynghorydd Hughes wedi bod mewn sefyllfa debyg lle roedd ganddo ddiddordebau oedd yn gwrthdaro, ar achlysur blaenorol.  Dywedodd y Cynghorydd Hughes ei fod yn gweithio i'r Awdurdod Iechyd a'i fod o dro i dro yn dod ar draws achlysuron lle ceir gwrthdaro mewn diddordeb ac yntau yn gorfod gwneud penderfyniad rhesymegol yn eu cylch.  Roedd yn credu bod mater llefydd gweigion yn yr ysgolion yn risg fawr i'r Cyngor, ac roedd am atgoffa'r aelodau i'r Cynghorydd McGregor grybwyll y ffaith bod y gyllideb wedi cael ei gosod, ac roedd hynny hefyd yn gyfrifoldeb ychwanegol.  Mae'r gyllideb yn rhannol yn gysylltiedig i'r penderfyniadau sydd i'w gwneud ynglyn ag ysgolion.  Nid oedd yn credu y gallai'r Cyngor ganiatáu i'r sefyllfa bresennol barhau gan i hyn fod yn fater llosg am beth amser ac felly er lles addysg, mae'n rhaid i rhywun feddwl am resymoli.  Dylid hefyd ystyried y gymuned y byddai'n rhaid i'r penderfyniad fod yn fater o gydbwyso rhwng addysg, y gymuned a chyllid er mwyn cael yr ateb gorau.  Yn achos Bodorgan, roedd yn cydnabod bod y gymuned yn hynod o bwysig ac felly mae'n rhaid i hyn ddod i mewn i'r drafodaeth.  Hefyd, rhaid i'r iaith Gymraeg gael ei hystyried yn y drafodaeth.  Roedd yn credu y gallai fod yn eithaf gwrthrychol ynglyn â'r hyn oedd angen ei wneud ond fe fyddai hefyd yn edrych ar y pictiwr ehangach er mwyn sicrhau y ceid y penderfyniad cywir, ac fe fyddai'r penderfyniad hwnnw yn un tryloyw.

 

      

 

     Gofynnodd y Cadeirydd i'r Cynghorydd Hughes am ei safbwyntiau ynglyn ag ysgolion Llanddeusant ac Aberffraw ac ar ba sail y byddai'n gweithredu yng nghyswllt y ddwy ysgol.  Dywedodd y Cynghorydd Hughes nad oedd yn rhan o'r penderfyniad hwnnw ond yr oedd y rhesymau tu ôl i'r penderfyniadau yn eithaf tebyg i'r rhai oedd yn wynebu'r Pwyllgor Gwaith yn awr ond ar sail Sir gyfan yn hytrach nag ar sail dalgylch fel o'r blaen.  Byddai'r rhan fwyaf o'r egwyddorion yr un rhai y tro hwn ag yn yr ymarfer blaenorol.  Dywedodd y Cadeirydd ei bod yn debyg y byddai rhai aelodau'r cyhoedd angen eu sicrhau yn dilyn clywed penderfyniad y Pwyllgor Gwaith blaenorol ar y ddwy ysgol.  Gofynnodd beth oedd barn y Cynghorydd Hughes ar y penderfyniadau hynny a pha statws fyddai'n ei roi iddynt.  Dywedodd y Cynghorydd Hughes nad oedd yn dymuno gwneud unrhyw sylw hyd nes y byddai wedi clywed yr holl dystiolaeth ac y byddai ei benderfyniad yn cael ei ddechrau gyda llechen lân.

 

      

 

     Dywedodd y Cadeirydd ei fod yn dymuno gofyn paham yr oedd y Cynghorydd Hughes yn teimlo ei fod angen caniatâd arbennig gan nad oes ganddo ar hyn o bryd unrhyw gyswllt uniongyrchol gyda'r ysgol. Ategodd y Cynghorydd Hughes nad oedd ganddo unrhyw gyswllt uniongyrchol ond roedd yn teimlo fod yr etholaeth yn pleidleisio iddo ef a bod y pwysau yna i wneud yr hyn y byddent hwy yn dymuno iddo'i wneud yn hytrach na'r hyn y byddai ef yn ei weld fel y peth iawn i'w wneud.  Dyna oedd craidd y caniatâd arbennig.  Roedd wedi egluro'i sefyllfa'n glir iddynt gan ddweud na fyddai'n cael ei arwain rhag gwneud y penderfyniad iawn i'r Sir er y byddai'r rhan fwyaf o'r bobl yr oedd yn eu cynrychioli yn mynd i deimlo'n siomedig pe byddai'n mynd yn eu herbyn.  Fe wnaed hyn yn glir iawn iddo yn y cyfarfod cyhoeddus ond ni fyddai hynny'n ei berswadio i beidio ymgymryd â'r dasg.  Dywedodd y Cynghorydd Hughes y byddai'n gwrando ar yr hyn oedd gan y Swyddog Monitro i'w ddweud; nid oedd yn credu ei bod yn deg mewn unrhyw ffordd i ran o'r Pwyllgor Gwaith yn unig orfod gwneud penderfyniad ar y mater pwysig hwn ar addysg ym Môn.  Roedd yn credu y dylai fel aelod o'r Pwyllgor Gwaith ysgwyddo'r baich ac roedd am sicrhau pawb ei fod yn cymryd y cyfrifoldeb hwnnw o ddifrif ac y byddai'n gwneud penderfyniad er lles y Sir i gyd yn hytrach na lles ei Ward yn unig.

 

      

 

     Y CYNGHORYDD WILLIAM HUGHES

 

      

 

     Gwahoddwyd y Cynghorydd William Hughes gan y Cadeirydd i siarad gerbron y cyfarfod.  Dywedodd y Cynghorydd Hughes ei fod yn ceisio cael y caniatâd arbennig fel y gallai gymryd rhan yn y trafodaethau ynglyn â'r mater o Resymoli Ysgolion.  Ei resymau tros ofyn oedd ei fod yn cynrychioli Ward Bodffordd ar y Cyngor Sir a bod dwy ysgol oedd yn ei Ward yn cael eu trafod fel rhan o'r Rhaglen Rhesymoli, ond bellach dim ond un ysgol oedd yn parhau dan drafodaeth, sef Ysgol Llandrygarn.

 

      

 

     Dywedodd y Cynghorydd Hughes ei fod yn Gadeirydd Bwrdd Llywodraethol Ysgol Bodffordd a'i fod hefyd yn cael gwahoddiad ac yn mynychu cyfarfodydd o Fwrdd Llywodraethol Ysgol Llandrygarn ond nid yw'n aelod o'r Bwrdd Llywodraethu.  Y broblem fwyaf yr oedd yn ei hwynebu oedd fod y ddwy ysgol yn ei ward o fewn dwy neu dair milltir i'w gilydd ac fe allai'r Cyngor feddwl pebai'n pleidleisio i gau Ysgol Llandrygarn y byddai hyn o fantais i Ysgol Bodffordd, yn arbennig gan ei fod yn Gadeirydd Llywodraethwyr yr Ysgol honno a bod sôn wedi bod y byddai disgyblion Ysgol Llandrygarn yn cael eu trosglwyddo efallai i Ysgol Bodffordd pebai Ysgol Llandrygarn yn cau.

 

      

 

     Mewn ymateb i gwestiwn gan Mrs Pamela Moore, dywedodd y Cynghorydd Hughes bod y mater rhesymoli wedi'i drafod yn y cyfarfodydd o'r Llywodraethwyr a bod yn rhaid edrych ar y pictiwr ehangach.  Nid yw hwn ond yn un o nifer o benderfyniadau anodd y bydd yn rhaid i'r Pwyllgor Gwaith ei gymryd yn y blynyddoedd sydd i ddod ac roedd yn hyderus y byddai'n gwneud y penderfyniad iawn er budd yr Ynys gyfan yn hytrach nac er budd y ddwy ysgol yn ei Ward.  Dywedodd y byddai'n wynebu ei etholwyr pan fyddai'n rhaid gwneud hynny ac nid oedd hynny'n ei boeni.  

 

      

 

     Mewn ymateb i gwestiwn gan Ms Sue Morris, dywedodd y Cynghorydd Hughes na fu erioed mewn sefyllfa debyg o'r blaen ond eglurodd ei ffordd o feddwl, sef y byddai'n derbyn y dogfennau, yn eu hystyried ac yn gweld y dystiolaeth ac yn gwneud penderfyniad yn seiliedig ar y dystiolaeth honno.  Dywedodd na fyddai'n gwneud penderfyniad yn seiliedig ar un ysgol yn erbyn ysgol arall ond yn hytrach byddai'n gwneud penderfyniad er budd addysg yn gyffredinol ar draws yr Ynys, hyd yn oed pe byddai hyn yn golygu cau un o'r ysgolion yn ei Ward.

 

      

 

     Wrth ymateb i gwestiwn gan y Cadeirydd, dywedodd y Cynghorydd Hughes nad oedd yn aelod o'r Pwyllgor Gwaith pan gafodd y penderfyniad ynglyn ag Ysgolion Aberffraw a Bodorgan ei wneud ac nid oedd wedi bod yn rhan o'r broses benderfynu.  Fodd bynnag, roedd barn gref y dylai'r Cyngor fod wedi edrych ar y Sir yn gyfan yn hytrach na delio gydag ardaloedd dalgylch unigol.  Cyn belled ag yr oedd ef yn y cwestiwn roedd yr holl ysgolion yn yr un sefyllfa a bydd yn ystyried y mater gan ddechrau gyda llechen lân ac ni fydd yn cymryd i ystyriaeth unrhyw benderfyniadau allai fod wedi eu gwneud yn flaenorol.

 

      

 

     Ar ôl gwrando ar y sylwadau gan y tri ymgeisydd, dywedodd y Cadeirydd y byddai'r Pwyllgor Safonau yn neilltuo i sesiwn breifat i ystyried ei benderfyniad.

 

      

 

     Yn dilyn dychwelyd i sesiwn gyhoeddus, dywedodd y Cadeirydd eu bod wedi dod i benderfyniad unfrydol yng nghyswllt y cais am ganiatâd arbennig a dywedodd bod y Pwyllgor wedi:

 

      

 

     PENDERFYNU:

 

      

 

     Bod y Pwyllgor yn unfrydol yn cytuno, yn unol â pharagraffau 2(f) (g) (i) o Offeryn Statudol 2001 Rhif 2279 (W169) Rheoliadau Llywodraeth Leol Cymru Pwyllgorau Safonau (Rhoi Caniatâd Arbennig) (Cymru) 2001, bod Caniatâd Arbennig yn cael ei roddi i'r Cynghorydd C. McGregor, y Cynghorydd Robert Ll. Hughes a'r Cynghorydd W. I. Hughes.  Mae'r caniatâd arbennig wedi'i ymestyn i gynnwys unrhyw drafodaethau, boed hynny'n ffurfiol neu'n anffurfiol ac yn cynnwys unrhyw gyfarfod, trafodaeth, galwad ffôn neu e-bost all fod eu hangen i bwrpas trafod ac/neu symud y Rhaglen Resymoli yn ei blaen ac yr oedd y tri ymgeisydd ynglyn â hi.  Dywedodd y Cadeirydd ymhellach y byddai'r caniatâd arbennig mewn grym am holl hyd y broses Rhesymoli Ysgolion ac felly nid oedd cyfyngiad amser ar y caniatâd arbennig.

 

      

 

     Terfynodd y Cadeirydd y cyfarfod trwy ddweud bod y Pwyllgor Safonau'n cydnabod pwysigrwydd y mater hwn a bod yr Aelodau'n dymuno'n dda i'r Pwyllgor Gwaith yn ei drafodaethau.  Ychwanegodd y byddai'r penderfyniad yn cael ei gadarnhau'n ysgrifenedig gan roi'r rhesymau tros y penderfyniad ar y pryd.  Diolchodd i bawb oedd yn bresennol am fynychu'r cyfarfod a dywedodd bod y cyfarfod ar ben.

 

      

 

      

 

      

 

      

 

      

 

      

 

      

 

      

 

     MR. J. COTTERELL

 

     CADEIRYDD