Pwyllgor Safonau dogfennau , 11 Tachwedd 2009

Pwyllgor Safonau
Dydd Mercher, 11eg Tachwedd, 2009

PWYLLGOR SAFONAU

 

Cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 11 Tachwedd 2009

 

YN BRESENNOL:

 

Mr.  J. Cotterell (Cadeirydd)

 

Aelodau Lleyg

Mrs Pamela Moore

Mr Robert Hugh Gray Morris

Ms Sue Morris

 

 

 

 

WRTH LAW:

 

Swyddog Monitro (LB)

Cyfreithiwr i’r Swyddog Monitro (MJ)

Swyddog Pwyllgor (MEH)

 

HEFYD YN BRESENNOL:

 

Y Cynghorwyr Bryan Owen, Bob Parry OBE

 

 

 

 

1

DATGAN DIDDORDEB

 

Nid oedd unrhyw ddatganiad o ddiddordeb gan Aelod na Swyddog.

 

2

CAIS AM GANIATÂD ARBENNIG

 

Rhoddodd y Cadeirydd gyfle i'r Swyddog Monitro annerch y cyfarfod.  Nododd y Swyddog Monitro y papurau oedd ynghlwm wrth ei hadroddiad oedd wedi eu cyflwyno fel rhan o'r rhaglen i'r cyfarfod.  Cyfeiriodd yn arbennig at y rhannau perthnasol o'r Côd Ymddygiad i Aelodau, ac yn arbennig:-

 

Rhan 3 - Diddordeb

 

10(1) - Ym mhob mater rhaid i chi ystyried a oes gennych fuddiant personol ac a yw’r cod ymddygiad hwn yn ei gwneud yn ofynnol i chi ddatgelu’r buddiant hwnnw.

 

2. Rhaid i chi ystyried bod gennych fuddiant personol mewn unrhyw fusnes y mae a wnelo eich awdurdod ag ef -

 

“pe byddai’n rhesymol i aelod o’r cyhoedd ganfod bod gwrthdaro rhwng eich rôl o ran gwneud penderfyniad ar y busnes hwnnw, ar ran eich awdurdod yn gyfan a’ch rôl o ran cynrychioli buddiant etholwyr yn eich ward neu eich dosbarth etholiadol neu;

 

er eich llesiant neu eich sefyllfa ariannol, neu lesiant neu sefyllfa ariannol person yr ydych yn byw gyda ef, neu unrhyw berson y mae gennych gysylltiad personol agos ag ef.”

 

Yn yr achos arbennig hwn, dywedodd y Swyddog Monitro bod gan Aelodau Rôl Ddeuol yn yr ystyr nad ydynt yn aelodau lleol yn unig ond hefyd yn aelodau o'r Pwyllgor Gwaith ac felly y rhai sy'n gwneud penderfyniadau.  Efallai na fydd angen ceisio caniatâd arbennig bob amser gan y byddai hyn yn dibynnu ar arwyddocâd y penderfyniadau i'w gwneud.  

 

 

 

Fodd bynnag, roedd y diddordeb yn un rhagfarnol fel y mae Cymal 12(1) o'r Côd yn ei ddweud:

 

 

 

Yn amodol i is-baragraff (2) isod, os bydd gennych fuddiant personol mewn unrhyw fusnes y mae a wnelo eich awdurdod ag ef bydd gennych hefyd fuddiant sy'n rhagfarnu yn y busnes hwnnw os bydd y buddiant yn un y bydd yn rhesymol i aelod o'r cyhoedd sy'n gwybod y ffeithiau perthnasol fod o'r farn ei fod mor arwyddocaol fel y bydd yn debygol o ragfarnu eich barn ynghylch buddiant cyhoeddus.

 

 

 

Tynnodd y Swyddog Monitro sylw at gopi o'r Rheoliadau Caniatâd Arbennig oedd hefyd wedi'u cynnwys fel rhan o'r Rhaglen.  Roedd hwn yn rhestru'r seiliau cyfyngedig lle gallai'r Pwyllgor Safonau roi caniatâd arbennig i aelodau.   Mae gan y Pwyllgor bwerau statudol i roi caniatâd arbennig os yw un neu fwy o'r seiliau rhestredig wedi'u sefydlu.  Ystyr caniatâd arbennig yw lle bod gan Aelod ddiddordeb personol a rhagfarnol a lle mae'r Pwyllgor Safonau wedi'i fodloni bod sail statudol, sydd i bob pwrpas yn dileu elfen ragfarnol y diddordeb fel bod yr aelod yn parhau i fod gyda'r diddordeb hwnnw, a bod yn rhaid iddo'i ddatgelu, ond bod yr elfen o ragfarn wedi cael ei dileu trwy i'r Pwyllgor Safonau fod wedi'i fodloni bod un neu fwy o'r seiliau wedi'u profi.

 

 

 

Dyfynnodd y Swyddog Monitro'r rhan ganlynol o'r seiliau statudol:

 

 

 

"2(b) os oes gan ddim llai na hanner aelodau gweithrediaeth arweinydd a chabinet y mae'r busnes i gael ei ystyried ganddo fuddiant sy'n berthnasol i'r busnes hwnnw a bod naill ai paragraff (ch) neu baragraff (d) hefyd yn gymwys"

 

 

 

Yn yr achos hwn, mae'r sefyllfa yn fater o ffaith ac nid yn fater o farn ac nid yn un y mae'n rhaid i Aelodau'r Pwyllgor Safonau ei thrafod h.y. mae o leiaf hanner y Pwyllgor Gwaith yn gwrthdaro ar y mater.  Mae sail gyntaf 2(b) felly wedi'i phrofi.  Fodd bynnag, mae'r rheswm hwnnw fel sail ar gyfer caniatâd arbennig yn dod gyda chymal sy'n dweud bod yn rhaid nodi un neu ddwy sail ychwanegol.  Mae sail (d) yn berthnasol ac yn allweddol i'r penderfyniad y gofynnir i'r Pwyllgor ei wneud oherwydd:

 

 

 

"2(ch) os yw'r natur buddiant yr aelod yn gyfryw fel na fyddai cyfranogiad yr aelod yn y busnes y mae'r buddiant yn berthnasol iddo yn niweidio hyder y cyhoedd yn y modd y mae busnes yr awdurdod perthnasol yn cael ei gynnal"

 

 

 

Byddai trafodaethau'r Pwyllgor felly'n cael eu cyfyngu i'r mater o hyder y cyhoedd.  

 

 

 

Dywedwyd wrth yr Aelodau bod dau gais yn mynd i gael eu cyflwyno’n y cyfarfod hwn, sef cais gan y Cynghorydd Bob Parry OBE ac un gan y Cynghorydd Bryan Owen.  Nododd bod y Cynghorydd Bob Parry OBE yn aelod lleol gydag wyr yn un o’r ysgolion a enwyd dan y Rhaglen Rhesymoli Ysgolion Cynradd.  Fodd bynnag, nid oedd y Cynghorydd Owen yn aelod lleol i ysgol benodol a enwyd dan y Rhaglen Resymoli ond bod ei wraig yn athrawes lanw yn yr ysgolion dan sylw.

 

 

 

O fewn ei hadroddiad yr oedd y Swyddog Monitro wedi cynnwys nifer o ffactorau y dylid eu hystyried wrth ddod i benderfyniad, yn cynnwys y ffaith:

 

 

 

Fe fydd cyfle i holi'r ymgeiswyr ynglyn â'u penderfyniad yn amodol ar gael caniatâd arbennig, i gynrychioli diddordebau'r Cyngor i gyd (fel rhan o'r Pwyllgor Gwaith) yn hytrach na dim ond diddordebau eu ward unigol (fel aelod lleol).

 

 

 

Roedd am atgoffa'r Pwyllgor hefyd bod Côd Ymddygiad yr Aelodau'n darparu caniatâd arbennig awtomatig i'r holl aelodau hynny sy'n Llywodraethwyr Ysgol fel y gallent gymryd rhan mewn trafodaeth a phleidleisio ar faterion yn ymwneud â'u hysgolion. Mae yna rai pethau sy'n debyg rhwng y sefyllfa honno a sefyllfa lle mae aelod yn Aelod Lleol ac yn un sy'n gwneud penderfyniadau.  Roedd y Swyddog Monitro am awgrymu bod perthynas rhwng Llywodraethwr Ysgol a'i ysgol yn agosach nag un rhwng Aelod a'r cyfan o'i Ward ac roedd hyn yn ffactor berthnasol iawn i'w chadw mewn cof wrth wneud penderfyniad ar y mater.

 

 

 

Nododd y Swyddog Monitro bod y Pwyllgor wedi derbyn amlinelliad o’r broses Rhesymoli Ysgolion gan Mr Geraint Elis, Cydlynydd Strategol (Addysg) yn y cyfarfod y noson cynt.

 

 

 

Rhoes y Cadeirydd wahoddiad i’r ymgeisydd cyntaf annerch y cyfarfod.  Hefyd dywedodd y câi’r ddau achos wrandawiad ar wahân a’r Pwyllgor wedyn yn cyfarfod yn breifat cyn cyhoeddi dau benderfyniad ar wahân ar y ddau gais.

 

 

 

Y CYNGHORYDD BOB PARRY OBE

 

 

 

Cyflwynodd y Cynghorydd Parry ei hun fel Dirprwy Arweinydd y Cyngor, Aelod o’r Pwyllgor Gwaith a’r Deilydd Portffolio Cynllunio a Mân-ddaliadau.  Roedd ganddo 30 mlynedd o brofiad fel Cynghorydd ac ef yw’r Aelod Lleol i Wardiau Bryngwran a Gwalchmai ac roedd yn Llywodraethwr yn y ddwy ysgol ers ad-drefnu Llywodraeth Leol yn 1996.  Roedd Ysgol Gynradd Bryngwran yn cael ei henwi yn y Rhaglen Rhesymoli Ysgolion.  Nododd hefyd bod ganddo ddiddordeb personol arall gan fod ei wyr yn mynychu Ysgol Gynradd Bryngwran yn ystod y pnawn.  Rhoes sicrwydd i Aelodau’r Pwyllgor Safonau y buasai’n cynrychioli safiad y Cyngor ac yn cynrychioli Sir Ynys Môn yn gyffredinol.

 

 

 

Gofynnodd Mrs Pamela Moore i’r  Cynghorydd Parry sut y buasai’n wynebu y Rhaglen Rhesymoli Ysgolion yn gyffredinol o gofio ei fod yn aelod lleol i un o’r ysgolion a enwyd.

 

 

 

Mewn ymateb dywedodd y Cynghorydd Parry y buasai, fel Aelod o’r Pwyllgor Gwaith, yn ystyried y cyfan o’r Ynys.  Roedd yr Adroddiad Budd Cyhoeddus yn nodi bod raid i ni fod yn ofalus a morol ein bod yn cynrychioli’r holl Ynys - nid ein hardal ein hunain yn unig.  Rydym yn hoff iawn o’n broydd bychan ond rhaid cofio ein bod ni yma i wneud penderfyniad i’r Sir a darparu’r addysg orau bosib i blant Ynys Môn.

 

 

 

Gofynnodd Mrs Moore sut y buasai’n teimlo wrth fynd yn ôl i‘w ward ei hun.  Mewn ymateb dywedodd y Cynghorydd Parry mai hwn, mae’n debyg, yw’r ail dro iddo orfod mynd yn ôl i’w ward, os oedd penderfyniad i gau ysgol, a buasai’n mynd yn ôl a dweud hynny.  Roedd wedi gwneud penderfyniad ar fater anodd yn ei ward rai blynyddoedd yn ôl yng nghyswllt Peiriant Llosgi Gwastraff yng Ngwalchmai.  Roedd yn rhaid iddo fynd at ei etholwyr ac egluro pam i’r penderfyniad gael ei wneud i ganiatáu’r Peiriant Llosgi ac egluro beth oedd manteision hwnnw i’r Ynys.

 

 

 

Gofynnodd Mr R H Gray Morris a oedd y Cynghorydd wedi cael trafferth ceisio egluro i’r etholwyr y penderfyniad a wnaed.  Mewn ymateb dywedodd y Cynghorydd Parry iddo siarad gyda’r rhieni; yn y pen draw nid yr ysgol sy’n cyfrif ond yr addysg i’r plant; boed yr ysgol yn un fychan neu’n un fawr.  Mewn ysgol fechan mae’n anodd cael tîm pêl-droed neu gor at ei gilydd, nid yw hyn yn rhoddi i’r plentyn yr addysg orau bosib.  Yn y pen draw pwysleisiodd mai’r addysg i blant Ynys Môn yw’r ffactor bwysig.

 

 

 

Gofynnodd Ms Sue Morris beth oedd effaith cau Ysgol Gynradd Bryngwran ar ei deulu.

 

 

 

Dywedodd y Cynghorydd Parry na fuasai ei wyr yn 4 oed tan Rhagfyr ac ar hyn o bryd yn mynychu’r ysgol feithrin yn yr ysgol yn y pnawn yn unig.  Hefyd nododd bod y teulu’n byw yn y canol rhwng dwy ysgol arall, sef Ysgolion Cynradd Gwalchmai a Phencarnisiog, a phlant arall y teulu yn mynychu’r ddwy.

 

 

 

Nododd Ms Morris bod y Cynghorydd Parry wedi wynebu gwrthdaro diddordebau yn y gorffennol; beth oedd yn mynd trwy ei feddwl wrth iddo geisio canolbwyntio ar yr ynys drwyddi draw er lles ei etholwyr.

 

 

 

Dywedodd y Cynghorydd Parry iddo fod yn Gynghorydd am 30 o flynyddoedd a’i dueddiad bob amser yw ystyried lles y cyfan o’r Ynys.

 

 

 

Cyfeiriodd y Cadeirydd at benderfyniad a wnaed gan y Pwyllgor Gwaith cynt pan glustnodwyd ysgolion Cynradd Aberffraw a Llanddeusant i gau a gofynnodd am ymateb y Cynghorydd i hynny.

 

 

 

Dywedodd y Cynghorydd Parry nad oedd yn Aelod o’r Pwyllgor Gwaith adeg gwneud y penderfyniad hwnnw a’u bod, ar y pryd, yn edrych ar un dalgylch yn unig a chredai ef bod angen ystyried y cyfan o’r Ynys yng nghyswllt y rhaglen rhesymoli ysgolion.  

 

Gofynnodd y Cadeirydd pa mor bwysig oedd hi i’r Cynghorydd Parry fod yn rhan o’r broses o wneud penderfyniadau.

 

 

 

Mewn ymateb dywedodd y Cynghorydd bod hwn yn fater pwysig iawn i Gynghorydd; roedd y Cynghorwyr wedi’u hethol gan y bobl i gynrychioli un ardal a’r cyfan o’r Ynys.  Hefyd nododd nad oedd erioed wedi cefnu ar gyfrifoldeb gwneud penderfyniad.

 

 

 

Y CYNGHORYDD BRYAN OWEN

 

 

 

Cyflwynodd y Cynghorydd Owen ei hun fel Aelod o’r Pwyllgor Gwaith ac ef Deilydd Portffolio Datblygu Economaidd.  Ychwanegodd ei fod yn Llywodraethwr yn Ysgol y Bont, Llangefni ac Ysgol Gynradd Ysgol y Graig, Llangefni.  Bu’n Aelod o’r Cyngor Sir ers 5 mlynedd.  Roedd yn gofyn am ganiatâd arbennig oherwydd bod ei wraig, yn achlysurol, yn gweithio fel athrawes lanw mewn dwy o’r ysgolion a enwyd yn y Rhaglen Rhesymoli Ysgolion.  Y rheini yw Ysgolion Bodorgan a Llandrygarn.  Eleni roedd ei wraig wedi gweithio 32 o ddiwrnodau yn Ysgol Gynradd Bodorgan a 6½ diwrnod yn Ysgol Gynradd Capel Coch a 2 ddiwrnod yn Ysgol Gynradd Rhosneigr.  Dywedodd na fuasai ei wraig yn gyrru plentyn i ysgol gyda 10 o blant yn unig.  

 

 

 

Mewn ymateb i gwestiwn gan Ms Susan Morris, dywedodd y Cynghorydd Owen nad oedd yn Aelod o’r Pwyllgor Gwaith adeg gwneud y penderfyniad ar Aberffraw a Bodorgan ac ni fu yn rhan o’r broses o wneud penderfyniadau.  Ond ychwanegodd bod raid edrych ar yr Ynys drwyddi draw yn hytrach na delio gyda dalgylchoedd unigol a hefyd bod raid gwrando ar y cyngor proffesiynol a gyflwynir i’r Pwyllgor Gwaith.  Wedyn soniodd bod ei wraig yn gwneud gwaith llanw ym Modorgan fel cymwynas i’r ysgol; roedd sawl ysgol arall wedi gofyn iddi wneud gwaith llanw ond roedd wedi gwrthod.

 

      

 

     Gofynnodd Ms Susan Morris pa effaith y buasai cau Ysgol Bodorgan yn ei chael ar ei deulu.

 

      

 

     Yn ariannol ni châi unrhyw effaith meddai’r Cynghorydd Owen; roedd hi gynt yn Ddirprwy Bennaeth yn Ysgol Bodorgan ac nid oedd y teulu yn dibynnu ar ei chyflog.

 

      

 

     Nid oedd y Cadeirydd yn siwr beth fuasai barn y cyhoedd ynghylch y manteision ariannol i wraig y Cynghorydd Owen.  Roedd y Cynghorydd Owen yn gwerthfawrogi sylwadau’r Cadeirydd.  Gofynnodd y Cadeirydd ers faint yr oedd Mrs Owen wedi gweithio ac ychwanegodd y Cynghorydd iddi ddechrau gweithio pan oedd yn 23 oed ac ymddeol yn 50 oed.     Felly nododd y Cadeirydd bod ganddi ddigon o flynyddoedd o wasanaeth i dderbyn pensiwn llawn.  Wedyn cafwyd sylw gan y Cadeirydd bod Mrs Owen felly yn gweithio fel cymwynas.  Yn ôl y Cynghorydd roedd y gwaith a wnâi yn fwy o hobi nag o yrfa.

 

      

 

     Wedyn cafwyd cwestiwn gan y Cadeirydd ynghylch dylanwad barn ei wraig, sef na fuasai’n gyrru plentyn i ysgol gyda 10 o blant.

 

      

 

     Mewn ymateb dywedodd y Cynghorydd Owen ei fod, o bosib, o’r un farn â’i wraig o ran gyrru plentyn i ysgol gyda 10 o blant.  Mewn ysgol gyda 10 o blant nid oedd modd cael tîm pêl-droed, pêl rwyd na hoci.  Ni chredai ei bod hi’n deg i blentyn fynychu ysgol gydag ychydig iawn o blant.  Soniodd y Cadeirydd y buasai Cymuned fechan o bosib yn dymuno cadw ysgol fechan a hynny oherwydd bod siop y pentref wedi cau ac mai’r ysgol oedd y lle olaf ar gael i’r gymuned ei ddefnyddio.  Mewn ymateb dywedodd y Cynghorydd Owen y buasai’n dymuno cynnig ysgol i’r gymuned petai penderfyniad i gau yn cael ei wneud.  Fodd bynnag, ychwanegodd y buasai’r Pwyllgor Gwaith yn ffol i wrthod cyngor proffesiynol gan nodi mai’r peth pwysicaf oll iddo oedd darparu’r addysg orau i’r plant.  

 

      

 

     Ymddiheurodd y ddau ymgeisydd i’r Pwyllgor am nad oedd modd iddynt aros i glywed y penderfyniad - roedd ganddynt alwadau eraill.  Mewn ymateb dywedodd y Swyddog Monitro y câi y penderfyniad ei gyflwyno iddynt yn ysgrifenedig.

 

      

 

     Ar ôl gwrando ar sylwadau’r ddau ymgeisydd cyhoeddodd y Cadeirydd bod y Pwyllgor Safonau yn mynd i sesiwn breifat i ystyried ei benderfyniad.

 

     PENDERFYNWYD:

 

      

 

     Bod y Pwyllgor yn unfrydol yn cytuno, yn unol â pharagraffau 2(f) (g) (i) o Offeryn Statudol 2001 Rhif 2279 (W169) Rheoliadau Llywodraeth Leol Cymru Pwyllgorau Safonau (Rhoi Caniatâd Arbennig) (Cymru) 2001, bod Caniatâd Arbennig yn cael ei roddi i'r Cynghorydd Bryan Owen a’r Cynghorydd Bob Parry OBE.  Mae'r caniatâd arbennig wedi'i ymestyn i gynnwys unrhyw drafodaethau, boed hynny'n ffurfiol neu'n anffurfiol ac yn cynnwys unrhyw gyfarfod, trafodaeth, galwad ffôn neu e-bost all fod eu hangen i bwrpas trafod ac/neu symud y Rhaglen Resymoli yn ei blaen ac yr oedd y ddau ymgeisydd ynglyn â hi.  Dywedodd y Cadeirydd ymhellach y byddai'r caniatâd arbennig mewn grym am  y cyfan o gyfnod y broses Rhesymoli Ysgolion ac felly nid oedd cyfyngiad amser ar y caniatâd arbennig.

 

      

 

      

 

      

 

      

 

      

 

     MR J COTTERELL

 

     CADEIRYDD