Pwyllgor Safonau dogfennau , 27 Ionawr 2010

Pwyllgor Safonau
Dydd Mercher, 27ain Ionawr, 2010

PWYLLGOR SAFONAU

 

Cofnodion y cyfarfod a gafwyd ar 27 Ionawr 2010

 

PRESENNOL:

 

Mr J Cotterell (Cadeirydd)

 

Aelodau Lleyg

Mrs Pamela Moore

Ms Sue Morris

Yr Athro R Grove White

 

 

 

WRTH LAW:

 

Swyddog Monitro (LB)

Pennaeth Gwasanaeth (Eiddo)

Swyddog Pwyllgor (JMA)

 

HEFYD YN BRESENNOL:

 

Y Cynghorydd William T Hughes

 

 

 

YMDDIHEURIADAU:

 

Mr Hugh Gray Morris

 

 

 

 

1

DATGANIAD O DDIDDORDEB

 

Nid oedd unrhyw ddatganiad o ddiddordeb gan Aelod na Swyddog.

 

2

COFNODION

 

Cyflwynwyd a derbyniwyd fel rhai cywir gofnodion y cyfarfod gafwyd ar 6 Hydref 2009.

 

3

CAIS AM GANIATÂD ARBENNIG

 

Rhoddodd y Cadeirydd wahoddiad i’r Swyddog Monitro gyfarch y cyfarfod.  Tynnodd y Swyddog Monitro sylw at yr adroddiad oedd wedi’i chyflwyno fel rhan o’r Agenda i’r cyfarfod.  Cyfeiriodd at y rhannau perthnasol o’r Cod Ymddygiad y dylai’r Aelodau eu dwyn mewn cof, ac yn arbennig :-

 

Rhan 3 - Diddordeb Personol

 

10(2) - Rhaid i chi ystyried bod gennych fuddiant personol mewn unrhyw fusnes y mae wnelo eich awdurdod ag ef -

 

 

(a)  os yw’n gysylltiedig â’r canlynol, neu’n debygol o effeithio arnynt -

 

(i)  unrhyw gyflogaeth yr ydych yn ymgymryd a hi neu fusnes yr ydych yn ei redeg;

 

 

 

Buddiant allai Ragfarnu

 

 

 

Rhan 3, 12(1) “ ... os bydd gennych fuddiant personol mewn unrhyw fusnes y mae a wnelo eich awdurdod ag ef bydd gennych hefyd fuddiant sy’n rhagfarnu yn y busnes hwnnw os bydd y buddiant yn un y bydd yn rhesymol i aelod o’r cyhoedd sy’n gwybod y ffeithiau perthnasol fod o’r farn ei fod mor arwyddocaol fel y bydd yn debygol o ragfarnu eich barn ynghylch buddiant cyhoeddus.”

 

 

 

Dyfynnodd y Swyddog Monitro’r dyfyniad canlynol o’r Sail Statudol:

 

S1 2001 Rhif 2279 (W169(Adain 2(f) “os oes cyfiawnhad i’r aelod gymryd rhan yn y busnes y mae’r buddiant yn berthnasol iddo oherwydd rôl neu arbenigedd penodol yr aelod”  fel yr un oedd yn berthnasol ac oedd yn allweddol i’r penderfyniad yr oedd gofyn i’r Pwyllgor ei wneud.  Rhoddodd gyngor i’r Aelodau y dylient wrth benderfynu rhoi caniatâd arbennig ai peidio, ystyried cylch gorchwyl y Panel Tasg a Gorffen oedd hefyd wedi’i sefydlu i ystyried Materion Strategol ynglyn â dyfodol yr ystad fân-ddaliadau.  Cyfeiriodd at wneuthuriad y Panel gan sylwi y byddai’r Cynghorydd Hughes yn un o ddau Aelod o’r wrthblaid tra byddai’r tri Aelod arall yn Aelodau o’r grwp llywodraethu ar y Cyngor.  Yn olaf, fe ddywedodd y Swyddog Monitro - pe bai gan y Pwyllgor unrhyw amheuon ynglyn â rhoi caniatâd arbennig yna fe ddylai ystyried caniatáu’r cais trwy osod amodau a dim ond ar ôl hynny y dylai’r Pwyllgor wrthod y cais.

 

 

 

Dywedodd y Pennaeth Gwasanaeth (Eiddo) nad oedd ganddo unrhyw sylw i’w wneud ar gais y Cynghorydd Hughes ond soniodd wrth yr Aelodau am sefydlu’r Panel Mân-ddaliadau.  Soniodd am y broblem sylweddol sy’n bodoli gyda chynnal a chadw’r mân-ddaliadau a’r diffyg cyllid o fewn y stad i wneud y gwaith a chyfeiriodd at yr angen i edrych ar ofynion/deilliannau ddaw o’r stad yn y dyfodol.  Cadarnhaodd bod y Deilydd Portffolio Mân-ddaliadau yn aelod o’r Panel a bod yr Aelodau eraill wedi’u hapwyntio ar sail cydbwysedd gwleidyddol.

 

 

 

Roedd yr ymgeisydd, y Cynghorydd W T Hughes yn credu bod ganddo ddiddordeb personol a rhagfarnol fel a amlinellwyd uchod, gan ei fod yn denant y mân-ddaliad Betws ym mhentref Cemaes gyda Chyngor Sir Ynys Môn yn landlord.  Mae’n rhedeg y mân-ddaliad fel busnes ffermio gyda’i wraig.  Fe gafodd ei enwebu gan Arweinydd ei grwp i fod yn aelod o’r Grwp Tasg a Gorffen Mân-ddaliadau ac felly roedd wedi gwneud cais am ganiatâd arbennig gan ei fod yn credu bod cyfiawnhad dros iddo gymryd rhan oherwydd ei rôl a’i arbenigedd.  Mewn ymateb i gwestiynau gan Aelodau’r Pwyllgor, fe gadarnhaodd y Cynghorydd Hughes y canlynol:-

 

 

 

Cadarnhaodd bod ei gefndir mewn ffermio ac iddo fod yn denant Betws ers 1973.  Roedd yn credu y gallai roi adborth ar y ffordd y mae tenantiaid yn teimlo ynglyn â rôl y tenantiaid a’r landlord.  Roedd yn credu’n gryf mewn sicrhau dyfodol i bobl ifanc yn y gymuned ffermio ac roedd yn meddwl llawer iawn am fyd natur a’r cefn gwlad.  Roedd yn teimlo y byddai o fudd i’r Panel ac y byddai’n gwasanaethu arno hyd eithaf ei allu.  Roedd yn derbyn ac yn sylweddoli na allai drafod ei fân-ddaliad ei hun.  Cadarnhaodd ei fod yn hyderus y gallai gadw’i ddiddordeb ei hun ar wahân pe byddai raid gwneud penderfyniadau anodd ac y byddai’n ceisio cefnogi’r tenantiaid a hefyd y staff.  Roedd yn cydnabod na ellid gwneud bywoliaeth iawn ar ddaliad o hyd at 30 acer ac mewn amgylchiadau arbennig byddai’n briodol i werthu’r annedd ac ychwanegu unrhyw dir at fân-ddaliad cyfagos.  Roedd yn credu y dylai unrhyw incwm o werthiant unrhyw fân-ddaliad gael ei ddefnyddio i wella a chynnal y stad.  Cadarnhaodd y Cynghorydd Hughes nad yw’n aelod o unrhyw grwp tenantiaid na ffermwyr ond yn hytrach yn aelod cyffredin o Undeb Amaethwyr Cymru.  Bydd yn siarad gyda llawer o bobl, yn arbennig yn y farchnad anifeiliaid leol ac roedd yn credu y gallai gael barn y tenantiaid eraill.  Roedd am sicrhau’r Pwyllgor y byddai’n ystyried unrhyw gynnig wneid gan y Panel o safbwynt gwrthrychol ac fe fyddai’n cefnogi’r tenantiaid ac / neu’r landlord yn ôl yr hyn a gredai fyddai’n iawn ym mhob penderfyniad.  Wrth gloi, dywedodd y Cynghorydd Hughes ei fod wedi’i ethol fel Aelod Annibynnol o’r Cyngor ac na fyddai’n caniatáu i unrhyw berswad gwleidyddol ddylanwadu ar ei allu i wneud penderfyniad.

 

 

 

Yn dilyn gwrando ar sylwadau a wnaed gan Swyddogion a hefyd y sylwadau gan yr ymgeisydd, dywedodd y Cadeirydd y byddai’r Pwyllgor Safonau yn neilltuo i sesiwn breifat i ystyried ei benderfyniad. Ar ôl dychwelyd i’r sesiwn gyhoeddus, dywedodd y Cadeirydd bod penderfyniad unfrydol wedi’i wneud a bod y Pwyllgor wedi:

 

 

 

PENDERFYNU bod y Pwyllgor yn unfrydol wedi cytuno y byddai Caniatâd Arbennig yn cael ei roi i’r Cynghorydd William T Hughes yn unol â pharagraff 2(f) o Offeryn Statudol 2001 Rhif 2279 (W169) Rheoliadau Llywodraeth Leol Cymru Pwyllgorau Safonau (Caniatâd Arbennig)(Cymru) 2001, i bwrpas gwaith y Grwp Tasg a Gorffen Mân-ddaliadau’n unig.  Rhoddwyd iddo hefyd yr hawl i siarad ac i bleidleisio ar y Panel.  Atgoffwyd y Cynghorydd Hughes nad ddylai gymryd unrhyw ran mewn unrhyw drafodaethau oedd yn ymwneud â’i fân-ddaliad ef yn benodol.

 

 

 

Diolchodd y Cadeirydd i bawb oedd yn bresennol gan ddweud bod y cyfarfod ar ben.

 

 

 

MR J COTTERELL

 

CADEIRYDD