Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol dogfennau , 5 Ebrill 2011

Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol
Dydd Mawrth, 5ed Ebrill, 2011

Ynglyn â

Dydd Mawrth, 5 Ebrill 2011, 2pm. Ystafell Bwyllgor 1, Swyddfeydd y Cyngor, Llangefni.

Noder: Oherwydd natur rhai o'r dogfennau isod, nid yw pob un yn hollol ddwyieithog nac yn hollol hygyrch i bobl gydag amhariadau gweledol, ac ni fydd modd defnyddio 'darllenwr sgrin' i ddarllen y dogfennau hyn.

Aelodau

Cynghorydd

Annibynnol Gwreiddiol
D R Hughes, W T Hughes, Eric Jones; G O Parry MBE, Eric Roberts

Llafur
R Dylan Jones (Is Gad)

Llais i Fôn
Selwyn Williams

Menai
H W Thomas

Plaid Cymru
T Lloyd Hughes; J Penri Williams, Fflur M Hughes

Heb ymuno
P S Rogers

Aelodau cyfetholedig (gyda pleidlais) pan yn trafod materion yn ymwneud ag addysg

Rev Robert Townsend
Mr Keith Roberts

Rhaglen

1. Ethol cadeirydd i'r pwyllgor

Dygir sylw'r aelodau at Baragraff 2.6.1 o Gyfansoddiad y Cyngor ac yn benodol, is-baragraff 2.6.1.3 lle mae'n dweud:

Os bydd Cadeirydd neu Is-Gadeirydd Pwyllgor Sgriwtini yn aelod o grwp gwleidyddol penodol pan gaiff ei benodi yn Gadeirydd neu Is-Gadeirydd, a bod y person hwnnw wedyn yn peidio â bod yn aelod o'r grwp gwleidyddol hwnnw am unrhyw reswm, yna daw swydd y person hwnnw fel Cadeirydd neu Is-Gadeirydd i ben ar unwaith, bydd y Pwyllgor Sgriwtini yn ei gyfarfod nesaf yn penodi Cadeirydd neu Is-Gadeirydd newydd.

2. Datganiad o ddiddordeb

Derbyn unrhyw ddatganiad o ddiddordeb gan unrhyw Aelod neu Swyddog mewn perthynas ag unrhyw eitem o fusnes

3. Cofnodion a materion yn codi

Cyflwyno cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 3 Chwefror, 2011
(Atodiad 'A')

4. Cytundebau canlyniad

I adolygu Cytundebau Canlyniad
(Atodiad 'B')

5. Cynllun Busnes Corfforaethol 2011/12

I adolygu'r Cynllun Busnes Corfforaethol Drafft 2011/12, fel rhan o'r broses ymgynghori.
(Gofynnir i'r Aelodau ddod â'r ddogfen a anfonwyd atynt eisoes gan Adran y Rheolwr-gyfarwyddwr Dros Drogyda nhw i'r cyfarfod)
(Atodiad 'C')

6. Rhaglen Waith y Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol

Adolygu Rhaglen Waith y Pwyllgor a chytuno ar eitemau i'w cynnwys ar y Rhaglen ar gyfer y cyfarfod a gynhelir ar 9 Mai 2011.
(Atodiad 'CH')