Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol dogfennau , 8 Hydref 2012

Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol
Dydd Llun, 8fed Hydref, 2012

Ynglyn â

Dydd Llun 8 Hydref, 2012 am 2:00yp
Ystafell Bwyllgor 1, Swyddfeydd y Cyngor, Llangefni

Noder: Oherwydd natur rhai o'r dogfennau uchod, nid yw pob un yn hollol ddwyieithog nac yn hollol hygyrch i bobl gydag amhariadau gweledol, ac ni fydd modd defnyddio 'darllenwr sgrin' i ddarllen y dogfennau hyn

Aelodau

Cynghorydd

Annibynnol Gwreiddiol

W.T.Hughes; Eric Jones; G.O.Jones; G.W.Roberts OBE; Elwyn Schofield, Ieuan Williams (Is-Gadeirydd)

Plaid Cymru

E.G.Davies; W.I.Hughes; Vaughan Hughes

Llais I Fôn

Selwyn Williams (Cadeirydd);

Llafur

R.Dylan Jones ;

Heb Ymuno

H.Eifion Jones

Aelodau Cyfetholedig (Gyda Pleidlais) Pan Yn Trafod Materion Yn Ymwneud Ag Addysg.

Rev.Robert Townsend;

Mr Keith Roberts;

Rhaglen

1. Datganiad o Ddiddordeb

Derbyn unrhyw ddatganiad o ddiddordeb gan Aelod neu Swyddog parthed unrhyw eitem o fusnes.

2 Cofnodion

Cyflwyno i'w cadarnhau, cofnodion cyfarfodydd y Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol a gynhaliwyd ar y dyddiadau canlynol -

2.1 31 Mai, 2012. (Cyfarfod Galw Penderfyniad i Mewn) (Papur A)
2.2 7 Mehefin, 2012 (Papur B)

3 Medrwn Môn

Cyflwyniad gan Mr John R.Jones, Prif Swyddog Medrwn Môn.

4 Adroddiad Monitro Perfformiad Chwarterol - Chwarter 1 (Ebrill - Mehefin) 2012/13

Cyflwyno adroddiad ynglyn â data perfformiad ar gyfer Chwarter 1 y cyfnod adrodd 2012/13.
(Papur C)

5 Cynllun Gwella Drafft (Adolygu Perfformiad 2011/12)

Y Pennaeth Gwasanaeth (Polisi) i gyflwyno'r Cynllun Gwella drafft.
(Papur CH - Gweler uchod yn dogfennau i'w lawrlwytho)

6 Gorwariant ar Gyllidebau

Y Pennaeth Swyddogaeth (Adnoddau) a Swyddog Adran 151 Dros Dro/Pennaeth Gwasanaeth (Cyllid) i ddiweddaru Aelodau ynghylch y sefyllfa o ran y mannau lle mae gorwariant.
(Mae copi o adroddiad cynnydd Chwarter 1 ynglyn â Chyllideb Refeniw 2012-13 a gyflwynwyd i Fwrdd y Comisynwyr ar 3 Medi ynghlwm - Papur D)

7 Gohebiaeth - Gwasanaeth Cyfieithu'r Cyngor

Cyflwyno llythyr dyddiedig 1 Awst, 2012 at Gadeirydd y Pwyllgor hwn oddiwrth y Cynghorydd G.O.Parry, MBE fel Cadeirydd Grwp Tasg Iaith y Cyngor.
(Papur DD)

8 Blaenrhaglen Waith y Pwyllgor

Bydd y Rheolwr Sgriwtini yn cyflwyno Blaenrhaglen Waith y Pwyllgor hwn.
(Papur E)