Dydd Iau 16 Rhagfyr 2010 am 2pm. Ystafell Bwyllgor 1, Swyddfeydd y Cyngor, Llangefni.
Noder: Oherwydd natur rhai o'r dogfennau isod, nid yw pob un yn hollol ddwyieithog nac yn hollol hygyrch i bobl gydag amhariadau gweledol, ac ni fydd modd defnyddio 'darllenwr sgrin' i ddarllen y dogfennau hyn.
Llais i Fôn
Selwyn Williams
Annibynnol Gwreiddiol
Eric Jones; G O Parry MBE; Eric Roberts; Ieuan Williams (Cad)
Menai
Sedd wag
Llafur
R Dylan Jones (Is Gad); Raymond Jones
Môn Ymlaen (Annibynnol)
D R Hughes
Plaid Cymru
T Lloyd Hughes; J Penri Williams
Heb ymuno
P S Rogers
Derbyn unrhyw ddatganiad o ddiddordeb gan Aelod neu Swyddog mewn perthynas ag unrhyw eitem o fusnes.
Cadarnhau cofnodion y cyfarfodydd isod:
Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol a gynhaliwyd ar 4 Tachwedd 2010.
(Papur 'A')
Cyfarfod a gynhaliwyd ar 16 Tachwedd 2010 yn sgil Galw Penderfyniad a wnaethpwyd gan Aelodau Portffolio i Mewn.
(Papur 'B')
Derbyn adroddiad gan y Pennaeth Gwasanaeth (Polisi) ar y cynnydd a wnaed gyda'r Cynllun Busnes Corfforaethol ar gyfer 2009 ac unrhyw faterion sy'n codi ohono.
(Papur 'C').
Derbyn diweddariad gan y Rheolydd Gwasanaethau Adnoddau Dynol ar y Cynllun Gweithredu AD a'r pwyntiau allweddol a godwyd o'r cyfarfod a gynhaliwyd ar 30 Medi 2010.
(Papur 'CH')
Derbyn adroddiad gan y Pennaeth Gwasanaeth (Technoleg Gwybodaeth) ar ddatblygu'r Strategaeth TG ac sut mae'n cwrdd â gweledigaeth, nodau ac amcanion y Cyngor.
(Papur 'D')
Sgriwtineiddio Cyllid - bydd Llyfr Gweithio i Gynghorwyr yn cael ei drafod a dyddiad yn cael ei gytuno gan Aelodau'r Pwyllgor ar gyfer hyfforddiant ffurfiol ar y gyllideb. (Noder os gwelwch yn dda mai Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru sy'n cyhoeddi'r llyfr gweithio hwn a bydd fersiwn Gymraeg ar gael yn Ionawr 2011).
(Papur 'DD')
Derbyn copi drafft o raglen waith y Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol.
(Papur 'E')
Derbyn, er gwybodaeth yn unig, adroddiadau mewn perthynas â Perfformiad y cyngor yn y maes Cwynion.
(Papur 'F').