Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol dogfennau , 31 Ionawr 2012

Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol
Dydd Mawrth, 31ain Ionawr, 2012

Ynglyn â

Dydd Mawrth, 31 Ionawr 2012 am 2pm.
Ystafell Bwyllgor 1, Swyddfeydd y Cyngor, Llangefni

Noder: Oherwydd natur rhai o'r dogfennau isod, nid yw pob un yn hollol ddwyieithog nac yn hollol hygyrch i bobl gydag amhariadau gweledol, ac ni fydd modd defnyddio 'darllenwr sgrin' i ddarllen y dogfennau hyn.

Aelodau

Cynghorydd:

Annibynnol Gwreiddiol
D R Hughes, W T Hughes, Eric Jones; Eric Roberts (Is Gadeirydd)

Plaid Cymru
E G Davies, W I Hughes, J Penri Williams

Llais i Fôn
Selwyn Williams (Cadeirydd)

Llafur
R Dylan Jones

Heb ymuno
P S Rogers, H W Thomas, Ieuan Williams

Aelodau cyfetholedig (gyda pleidlais) pan yn trafod materion yn ymwneud ag addysg

Rev Robert Townsend, Mr Keith Roberts

Rhaglen

1. Datganiad o ddiddordeb

Derbyn unrhyw ddatganiad o ddiddordeb gan unrhyw Aelod neu Swyddog mewn perthynas ag unrhyw eitem o fusnes.

2. Cofnodion

Cyflwyno cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 12 Ionawr 2012
(Papur 'A')

3. Ymgynghori ar Drafft Gyllideb y Cyngor am 2012-2013

(Gofynnir i'r Aelodau ddod â'r papur ymgynghori mae'r adran Cyllid wedi eu hanfon at Bwrdd y Gomisiynwyr ar ddydd Llun 16 Ionawr 2012 gyda hwy i'r cyfarfod)

4. Cynllun Busnes Corfforaethol

Cyflwyno i bwrpas ymgynghori, adroddiad gan y Pennaeth Gwasanaeth (Polisi) a'r Rheolwr Rhaglen a Chynllunio Busnes ynglyn â'r uchod.

(Gofynnir i'r Aelodau ddod â'r papur ymgynghori mae'r adran Polisi wedi eu hanfon at Bwrdd y Gomisiynwyr ar ddydd Llun 16 Ionawr 2012 gyda hwy i'r cyfarfod)

5. Diwygio Cynllun Iaith y Cyngor Sir

Rhoi cyfle i Aelodau i roi sylwadau ar y Cynllun Iaith ddiwygiedig, cyn ei gyflwyno i Fwrdd y Comisiynwyr ar 20 Chwefror 2012.
(Papur 'B')

6. Cynllun Cydraddoldeb Strategol Drafft y Cyngor 2012 - 2016

Rhoi cyfle i Aelodau i roi sylwadau ar y Cynllun Cydraddoldeb Strategol Drafft, cyn ei gyflwyno i Fwrdd y Comisiynwyr ar 20 Chwefror 2012.
(Papur 'C')