Derbyn unrhyw ddatganiadau o ddiddordeb gan unrhyw Aelod neu Swyddog mewn perthynas ag unrhyw eitem ar y rhaglen.
Penodi Cadeirydd ar gyfer yr Is-Bwyllgor hwn.
Ystyried mabwysiadu'r isod:
“Dan Adran 100(A)(4) Deddf Llywodraeth Leol 1972, gyrru'r wasg a'r cyhoedd allan o'r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitem a ganlyn, oherwydd ei bod yn ymwneud â gwybodaeth y gellid cynnal hawliad am fraint gyfreithiol broffesiynol yn ei chylch mewn achos cyfreithiol.â€
(a)Ystyried cais am indemniad gan Gynghorydd mewn perthynas â chostau cyfreithiol a gafwyd wrth amddiffyn cwyn o gamymddwyn yr ymchwilir iddi gan Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru a Phanel Dyfarnu Cymru.
(b)Cyflwyno copi o'r cais, y dogfennau cefnogol a'r cyngor cyfreithiol cyfrinachol sydd wedi ei gynnwys mewn Adroddiad gan y Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cyfreithiol / Swyddog Monitro.