Manylion y penderfyniad

Penderfyniadau Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad : Pwyllgor Safonau

Statws Penderfyniad : Er Penderfyniad

Is AllweddolPenderfyniad?: Na

yn amodol ar gael ei alw i mewn?: Na

Penderfyniadau:

Cyflwynwyd – adroddiad gan y Cyfreithiwr (Llywodraethiant Corfforaethol) ar Goflyfr chwarterol Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru (OGCC) o gwynion yn ymwneud â’r Côd Ymddygiad.  

 

Roedd yr adorddiad yn cynnwys manylion am y cwynion yr ymchwiliodd yr Ombwdsmon iddynt mewn perthynas ag achosion yn honni fod Cynghorwyr wedi torri’r Côd Ymddygiad ar gyfer Aelodau a hynny’n unol â’i Goflyfrau ar gyfer Ionawr a Mai 2018.

 

Dywedodd y Cadeirydd fod yr Ombwdsmon wedi codi’r trothwy o ran y materion y mae’n fodlon ymchwilio iddynt. Nodwyd ei fod yn awr yn canolbwyntio ar y cwynion mwyaf difrifol ac yn trin y rhan fwyaf o faterion rhwng Aelodau/Cynghorwyr Tref a Chymuned fel rhai lefel isel nad ydynt yn cwrdd â’i drothwy ar gyfer ymchwiliad.

 

PENDERFYNWYD nodi’r adroddiad a’r atodiadau ynddo.            

           

Gweithred: Dim

Dyddiad cyhoeddi: 12/09/2018

Dyddiad y penderfyniad: 12/09/2018

Penderfynwyd yn y Cyfarfod: 12/09/2018 - Pwyllgor Safonau

Dogfennau Cefnogol: