Y sawl sy'n gwneud penderfyniad : Pwyllgor Gwaith
Statws Penderfyniad : Argymhellion wedi cymeradwyo
Is AllweddolPenderfyniad?: Na
yn amodol ar gael ei alw i mewn?: Na
Cyflwynwyd i’r Pwyllgor Gwaith ei ystyried – adroddiad Pennaeth y Gwasanaethau Tai ar ddatblygu’r lle aros dros dro i Sipsiwn a Theithwyr yn Star. Roedd yr adroddiad yn darparu gwybodaeth ynglŷn â’r costau cyllideb cyfalaf angenrheidiol ar gyfer cyflawni’r prosiect ar y safle yn Star ynghyd â’r costau refeniw ailadroddus dangosol ar gyfer rhedeg y safle yn y dyfodol.
Am eu bod wedi datgan diddordeb sy’n rhagfarnu yn yr eitem hon, gadawodd y Cynghorwyr R. Meirion Jones, Alun Mummery a Robin Williams y cyfarfod tra oedd y drafodaeth yn mynd rhagddi a thra gwnaed y penderfyniad.
Ymhelaethodd Pennaeth y Gwasanaethau Tai ar gostau datblygu’r prosiect a’r amserlen, y broses dendro arfaethedig, y costau refeniw blynyddol sy’n parhau ar gyfer y safle ac ystyriaethau cysylltiedig.
Wrth nodi’r wybodaeth a gyflwynwyd, fe wnaeth y Pwyllgor Gwaith y pwyntiau a ganlyn –
• Y dylid rhoi ystyriaeth i ddefnyddio fframweithiau caffael eraill yn ogystal â GwerthwchiGymru.
• Y dylid cyflymu’r amserlen ar gyfer cyflawni’r prosiect fel bod modd cwblhau’r prosiect yn gynt
• Os yw’n bosib, dylid talu am y costau refeniw parhaus ar gyfer y safle o’r incwm a grëir o’r safle heb orfod defnyddio arian o Gyllideb Refeniw y Cyngor.
Penderfynwyd cymeradwyo’r canlynol –
• Caffaeliad y tir yn Star ar gyfer y safle.
• Y costau cyllideb cyfalaf ynghlwm â’r prosiect o ddarparu’r safle stopio dros dro yn Star.
• Y gwaith tendro ar gyfer datblygiad y safle yn Star yn seiliedig ar yr amcan-brisiau a ddarparwyd a/neu o ganlyniad i ddefnyddio fframweithiau eraill.
• Yr amserlen sydd wedi’i hamlinellu ar gyfer datblygu’r safle yn Star.
Dyddiad cyhoeddi: 17/12/2018
Dyddiad y penderfyniad: 17/12/2018
Penderfynwyd yn y Cyfarfod: 17/12/2018 - Pwyllgor Gwaith
Dogfennau Cefnogol: