Y sawl sy'n gwneud penderfyniad : Pwyllgor Gwaith
Statws Penderfyniad : Argymhellion wedi cymeradwyo
Is AllweddolPenderfyniad?: Na
yn amodol ar gael ei alw i mewn?: Na
Penderfynwyd –
• Cydnabod Methodoleg Ffioedd Gogledd Cymru fel y cafodd ei gweithredu hyd yma gan yr awdurdodau yng ngogledd Cymru fel y sail ar gyfer gosod ffioedd yn Ynys Môn yn ystod 2019/20 (Atodiad 2 yr adroddiad).
• Cymeradwyo’r cynnydd yn y lefelau ffioedd fel y nodir yn Nhabl 2 yr adroddiad.
• Yn yr un modd ag awdurdodau eraill, awdurdodi’r Adrannau Gwasanaethau Cymdeithasol a Chyllid i ymateb i unrhyw geisiadau gan Gartrefi i edrych ar eu cyfrifon penodol a defnyddio’r ymarfer fel sylfaen i ystyried unrhyw eithriadau i’r ffioedd y cytunwyd arnynt. Bydd rhaid i unrhyw eithriadau gael eu cytuno gyda’r Deilydd Portffolio, y Pennaeth Swyddogaeth (Adnoddau) a Phennaeth y Gwasanaethau Oedolion o’r cyllidebau cyfredol. Os na fydd modd dod i gytundeb, bydd y mater yn mynd yn ôl i’r Pwyllgor Gwaith.
Dyddiad cyhoeddi: 18/02/2019
Dyddiad y penderfyniad: 18/02/2019
Penderfynwyd yn y Cyfarfod: 18/02/2019 - Pwyllgor Gwaith
Dogfennau Cefnogol: