Manylion y penderfyniad

Gweddill y Ceisiadau

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad : Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion

Statws Penderfyniad : Er Penderfyniad

Is KeyPenderfyniad?: Na

yn amodol ar gael ei alw i mewn?: Na

Penderfyniad:

12.1  HHP/2019/301 –Cais ôl-weithredol ar gyfer addasu ac ehangu yn cynnwys ardal terras, pwll nofio, Ystafell gemau ynghyd a codi sied domestic yn Tan y Fron, Pentraeth

 

PENDERFYNWYD cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog a chyda’r amodau sydd wedi eu cynnwys yn yr adroddiad ysgrifenedig.

 

12.2  FPL/2019/341 – Cais llawn ar gyfer codi 26 annedd (3 fforddiadwy), addasu mynedfa presennol i gerbydau ynghyd a chreu gwaith cystylliedig yn Ysgol Gynradd Llaingoch, Ffordd Ynys Lawd/South Stack Road, Caergybi

 

PENDERFYNWYD cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog a chyda’r amodau sydd wedi eu cynnwys yn yr adroddiad ysgrifenedig ynghyd â:-

 

·           chyfraniad ariannol tuag at Orchymyn Rheoli Traffig a gwelliannau i’r briffordd cyn rhyddhau’r caniatâd cynllunio;

·           cyfraniad ariannol tuag at ddarpariaeth anheddau fforddiadwy cyn rhyddhau’r caniatâd cynllunio;

·           bod pwerau wedi’u dirprwyo yn cael eu rhoi i Swyddogion ddiwygio’r amodau cynllunio gan gymryd i ystyriaeth y cynlluniau diwygiedig/gwybodaeth ychwanegol a sylwadau’r ymgynghorai statudol ar y manylion hyn.

 

Dyddiad cyhoeddi: 04/03/2020

Dyddiad y penderfyniad: 04/03/2020

Penderfynwyd yn y Cyfarfod: 04/03/2020 - Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion

Dogfennau Cefnogol: