Manylion y penderfyniad

Gweddill y Ceisiadau

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad : Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion

Statws Penderfyniad : Argymhellion wedi cymeradwyo

Is KeyPenderfyniad?: Na

yn amodol ar gael ei alw i mewn?: Na

Penderfyniad:

12.1  OP/2018/1 – Cais amlinellol ar gyfer codi annedd sydd yn cynnwys manylion llawn am y fynedfa i gerbydau a llunwedd ar dir ger Penrhos Newydd, Llanfachraeth

 

PENDERFYNWYD cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog gyda’r amodau sydd wedi eu cynnwys yn yr adroddiad a bod cytundeb cyfreithiol adran 106 yn cael ei lofnodi ar gyfer cael gwared ar y garafán statig sydd ar y safle ar hyn o bryd.

 

12.2  30C225K/ECON – Cais amlinellol ar gyfer lleoli 25 o gabanau gwyliau ynghyd â chyfadeiladau hamdden a ffyrdd mynediad cysylltiedig gyda rhai materion wedi eu cadw yn ôl yn Treetops, Country Club, Tynygongl

 

PENDERFYNWYD ymweld â’r safle yn unol â chais yr Aelod Lleol am y rheswm a roddwyd.

 

12.3  DIS/2019/18 – Cais i ryddhau amod (04) (darparu datganiad a chynllun sy’n dangos dull clir a chadarn sy’n lliniaru’r risg posibl o gerbydau’n aros ar y briffordd gyhoeddus i rywun ddod i agor y gatiau) o ganiatâd cynllunio 41LPA1041/FR/TR/CC cais llawn ar gyfer newid defnydd tir amaethyddol i’w ddefnyddio fel man stopio dros dro (10 llecyn) ar gyfer Sipsiwn a Theithwyr, creu mynedfa gerbydau newydd, ffurfio mynedfa newydd i gerddwyr a phafin ynghyd â datblygiadau cysylltiedig ar dir i’r Dwyrain o Cyffordd Star, Star

 

PENDERFYNWYD cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog a gyda’r amodau sydd wedi eu cynnwys yn yr adroddiad ysgrifenedig.

 

12.4  DIS/2019/19 – Cais i ryddhau amod (15) (darparu cynlluniau a ddiweddarwyd sy’n dangos ardal(oedd) a ddiffinnir yn gadarn o blannu newydd ar gyfer llwyni a glaswelltir.  At hyn, bydd yr ardaloedd o lwyni bytholwyrdd arfaethedig yn cael eu plannu yn lle hynny â chelyn a/neu ffawydd fel dewis arall gyda dail llydan sy’n agosach at ystyriaethau ecolegol brodorol) o ganiatâd cynllunio 41LPA1041/FR/TR/CC cais llawn ar gyfer newid defnydd tir amaethyddol i’w defnyddio fel man stopio dros dro (10 llecyn) ar gyfer Sipsiwn a Theithwyr, creu mynedfa gerbydau newydd, ffurfio mynedfa newydd i gerddwyr a phafin ynghyd â datblygiadau cysylltiedig ar dir i’r Dwyrain o Cyffordd Star, Star

 

PENDERFYNWYD cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog a gyda’r amodau sydd wedi eu cynnwys yn yr adroddiad ysgrifenedig.

 

12.5  DIS/2019/21 – Cais i ryddhau amod (16) (manylion am raglen o waith archeolegol) o ganiatâd cynllunio o ganiatâd cynllunio 41LPA1041/FR/TR/CC cais llawn ar gyfer newid defnydd tir amaethyddol i’w defnyddio fel man stopio dros dro (10 llecyn) ar gyfer Sipsiwn a Theithwyr, creu mynedfa gerbydau newydd, ffurfio mynedfa newydd i gerddwyr a phafin ynghyd â datblygiadau cysylltiedig ar dir i’r Dwyrain o Cyffordd Star, Star

 

PENDERFYNWYD cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog a gyda’r amodau sydd wedi eu cynnwys yn yr adroddiad ysgrifenedig.

 

12.6  FPL/2019/13 –Cais llawn ar gyfer codi sied amaethyddol i gadw anifeiliaid a storio periannau a bwyd ynghyd a adeiladu trac mynediad llain caled ar dir ger Mast Teleffon, Nebo

 

PENDERFYNWYD cynnal ymweliad safle’n unol â chais yr Aelod Lleol ac am y rheswm a roddwyd.

 

12.7  FPL/2019/6 – Cais llawn ar gyfer newid defnydd ysgol bresennol i waith cynhyrchu bleinds ffenestri (Dosbarth B2) yn Ysgol Gynradd  Llanfaethlu, Llanfwrog

 

PENDERFYNWYD cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog a gyda’r amodau sydd wedi eu cynnwys yn yr adroddiad ysgrifenedig.

 

12.8  42C267A Cais llawn ar gyfer dymchwel yr annedd presennol ynghyd a codi annedd newydd yn ei le yn Clai Bungalow, Pentraeth

 

PENDERFYNWYD cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog gyda’r amodau sydd wedi eu cynnwys yn yr adroddiad ysgrifenedig a bod amod ychwanegol ar gyfer sgrinio ychwanegol ar ddrychiad gorllewinol a dwyreiniol y balconi. 

 

 

 

Dyddiad cyhoeddi: 03/04/2019

Dyddiad y penderfyniad: 03/04/2019

Penderfynwyd yn y Cyfarfod: 03/04/2019 - Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion

Dogfennau Cefnogol: