Manylion y penderfyniad

Gweddill y Ceisiadau

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad : Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion

Statws Penderfyniad : Argymhellion wedi cymeradwyo

Is KeyPenderfyniad?: Na

yn amodol ar gael ei alw i mewn?: Na

Penderfyniad:

12.1       VAR/2020/37 – Cais o dan Adran 73 i ddiwygio amod (01) o caniatad   cynllunio rhif 19C845J/VAR (Lleoli clwb a siop dros dro) ar gyfer adnewyddu y caniatad am 5 mlynedd pellach yn Clubroom and Club Shop, Canolfan Hamdden Cae Annar, Ffordd Kingsland, Caergybi

 

PENDERFYNWYD caniatau’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog yn amodol ar amodau sydd wedi eu rhestru o fewn yr adroddiad ynghyd â chywiriad i’r dyddiad yn amod (01) a ddylai ddarllen ‘y tir i gael ei roi yn ôl i’w gyflwr blaenorol erbyn 30/9/2025).

 

12.2      VAR/2020/24 – Cais Adran 73 i amrywio amod (01) (Terfyn Amser) o gais 27C106E/FR/ECON (Cais llawn I wella’r briffordd gyfredol (yr A5025) rhwng y gyffordd ar yr A5 i’r dwyrain o’r Fali i’r Gyffordd wrth y Ffordd Fynediad i’r Orsaf Bwer arfaethedig mewn wyth o leoliadau ar wahân ynghyd ag ailadeiladu a lledu’r pafin presennol a’r gorffenwaith ar yr arwynebedd mewn mannau, gweithredu compownd adeiladu dros dro gan gynnwys cyfleuster dros dro ar gyfer ailgylchu pafinau, creu dau bwll teneuo a mynedfa ar gyfer cynnal a chadw, creu llwybrau beicio a gwyro rhai eraill am gyfnod dros dro, creu cyfleusterau parcio eraill yn sgil colli cilfan ynghyd â gwaith cysylltiedig arall gan gynnwys draenio, trin ffiniau, plannu, gosod arwyddion newydd a marciau ar hyd yr) er mwyn ymestyn cyfnod gweithredu’r datblygiad am dair blynedd arall (hyd at 13 Gorffennaf 2023) ar hyd yr A5025 rhwng y Gyffordd ar yr A5 i’r Dwyrain o’r Fali.

 

PENDERFYNWYD caniatau’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog yn amodol ar amodau sydd wedi eu rhestru o fewn yr adroddiad ysgrifenedig.

 

12.3      FPL/2020/29 – Cais llawn i newid defnydd o dir agored amwynder i fod yn lecyn chwarae i blant ynghyd â gosod cyfarpar chawarae ar dir ger 24 to 99 Maes Llwyn, Amlwch

 

PENDERFYNWYD caniatau’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog yn amodol ar amodau sydd wedi eu rhestru o fewn yr adroddiad ysgrifenedig.  

 

 

Dyddiad cyhoeddi: 05/08/2020

Dyddiad y penderfyniad: 05/08/2020

Penderfynwyd yn y Cyfarfod: 05/08/2020 - Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion

Dogfennau Cefnogol: