Y sawl sy'n gwneud penderfyniad : Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion
Statws Penderfyniad : Er Penderfyniad
Is AllweddolPenderfyniad?: Na
yn amodol ar gael ei alw i mewn?: Na
13.1 38C185C – Cais llawn i godi un tyrbin gwynt gyda hwb hyd at 24.6m o uchder, diamedr rotor hyd at 19.2m ac uchder o 34.2m i flaen y llafn fertigol ar dir ym Maes Mawr, Llanfechell.
Penderfynwyd:
· Peidio â chymeradwyo argymhelliad y Swyddog i roi gwybod i’r Arolygiaeth Gynllunio nad yw’r Awdurdod Cynllunio Lleol yn dymuno gwrthwynebu’r apêl am y rheswm fod y Pwyllgor yn gwrthod y cais oherwydd ei effeithiau niweidiol ar y dirwedd; ei effeithiau gweledol andwyol; effeithiau ar fwynderau; effeithiau posibl ar iechyd a’i agosrwydd at eiddo.
· Bod y mater yn cael ei ohirio i’r cyfarfod nesaf fel y gall y Swyddogion adrodd yn ôl ar resymau’r Pwyllgor dros wrthod.
13.2 38C236A - Cais i benderfynu a oes angen caniatâd ymlaen llaw ai peidio i godi sied amaethyddol i bwrpas storio ar dir yn Tyddyn Paul, Llanfechell.
Penderfynwyd nodi’r wybodaeth a gyflwynwyd.
Dyddiad cyhoeddi: 05/06/2013
Dyddiad y penderfyniad: 05/06/2013
Penderfynwyd yn y Cyfarfod: 05/06/2013 - Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion
Dogfennau Cefnogol: