Manylion y penderfyniad

Applications Arising

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad : Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion

Statws Penderfyniad : Argymhellion wedi cymeradwyo

Is KeyPenderfyniad?: Na

yn amodol ar gael ei alw i mewn?: Na

Penderfyniad:

7.1  FPL/2020/164 – Cais llawn ar gyfer newid defnydd yr adeilad allanol i llety gwyliau ynghyd a'i addasu ac ehangu yn Bwthyn Lleiniog, Penmon, Biwmares

 

PENDERFYNWYD cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad ac adroddiad y Swyddog yn amodol ar yr amodau cynllunio sydd wedi eu cynnwys yn yr adroddiad ynghyd ag amod ychwanegol y dylid lledaenu mynedfa’r safle cyn i unrhyw waith ddechrau ar y safle.

 

 

7.2  FPL/2021/10 – Cais ôl weithredol ar gyfer codi modurdy ar dir ger Bron Castell, Llanfairynghornwy

 

PENDERFYNWYD gwrthod y cais yn groes i argymhelliad y Swyddogion gan yr

ystyriwyd fod y datblygiad yn cael effaith andwyol ar yr eiddo cyfagos a’i fod yn

groes i bolisi cynllunio PCYFF2. 

 

(Yn unol â gofynion Cyfansoddiad y Cyngor, gohiriwyd y cais yn awtomatig tan y cyfarfod nesaf er mwyn rhoi cyfle i Swyddogion baratoi adroddiad mewn perthynas â’r rhesymau a roddwyd am ganiatáu’r cais).

 

Dyddiad cyhoeddi: 05/05/2021

Dyddiad y penderfyniad: 05/05/2021

Penderfynwyd yn y Cyfarfod: 05/05/2021 - Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion

Dogfennau Cefnogol: