Y sawl sy'n gwneud penderfyniad : Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion
Statws Penderfyniad : Argymhellion wedi cymeradwyo
Is KeyPenderfyniad?: Na
yn amodol ar gael ei alw i mewn?: Na
12.1 HHP/2020/253 – Cais ôl-weithredol ar gyfer addasiadau ac estyniadau yn Plot H, Lleiniog, Penmon
Penderfynwyd cynnal ymweliad safle rhithiol yn unol â chais yr Aelod Lleol.
12.2 FPL/2020/165 - Cais llawn ar gyfer trosi'r adeilad allanol i fod yn uned gwyliau yn Outbuilding 1, Lleiniog, Penmon
Penderfynwyd cynnal ymweliad safle rhithiol yn unol â chais yr Aelod Lleol.
12.3 VAR/2021/27 - Cais o dan Adran 73 i ddiwygio amod (02) (Cynlluniau a gymeradwywyd) a (03) (Mynedfa a man parcio) o ganiatâd cynllunio rhif FPL/2019/322 (newid defnydd eglwys i annedd gydag adeiladu mynedfa cerbydau newydd) er mwyn diwygio'r man parcio i hepgor darparu trofwrdd yn Christ Church, Rhosybol, Amlwch
Penderfynwyd cynnal ymweliad safle rhithiol yn unol â chais yr Aelod Lleol.
12.4 FPL/2021/78 - Cais llawn ar gyfer creu ardal chwarae awyr agored ar dir ym Mharc Gwledig Morglawdd, Caergybi
Penderfynwyd cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad ac adroddiad y Swyddog yn amodol ar yr amodau cynllunio sydd wedi eu cynnwys yn yr
adroddiad a’r ychwanegiad o amod o ran cynllun tirlunio.
12.5 FPL/2021/71 - Cais llawn ar gyfer cadw'r strwythur presennol a pharhau a'r gwaith o godi uned gwyliau ynghyd a gwaith cysylltiedig ar dir yn Bryn Gollen Newydd, Llannerchymedd
Penderfynwyd cynnal ymweliad safle rhithiol yn unol â chais yr Aelod Lleol.
12.6 HHP/2021/35 – Cais llawn ar gyfer addasu ac ehangu yn 54 Pennant, Llangefni
Penderfynwyd cynnal ymweliad safle rhithiol yn unol â chais yr Aelod Lleol.
Dyddiad cyhoeddi: 02/06/2021
Dyddiad y penderfyniad: 02/06/2021
Penderfynwyd yn y Cyfarfod: 02/06/2021 - Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion
Dogfennau Cefnogol: