Manylion y penderfyniad

Gweddill y Ceisiadau

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad : Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion

Statws Penderfyniad : Argymhellion wedi cymeradwyo

Is KeyPenderfyniad?: Na

yn amodol ar gael ei alw i mewn?: Na

Penderfyniad:

 12.1  FPL/2021/61 – Cais llawn ar gyfer newid defnydd adeilad allanol i 2 uned gwyliau, newid defnydd modurdy dwbl ar wahân i anecs ynghyd a datblygiadau cysylltiedig yn Tyddyn Dai, Pentrefelin, Amlwch

 

PENDERFYNWYD y dylid cynnal ymweliad safle rhithwir yn unol â chais yr Aelod Lleol ac am y rhesymau a nodwyd.

 

12.2  HHP/2021/303 – Cais llawn i ddymchwel ystafell ardd bresennol ynghyd â chodi swyddfa gartref/campfa yn ei le yn Pant y Bwlch, Llanddona

 

PENDERFYNWYD y dylid cynnal ymweliad safle rhithwir yn unol â chais yr Aelod Lleol ac am y rhesymau a nodwyd.

 

12.3  FPL/2022/43 – Cais llawn ar gyfer codi 6 uned busnes ynghyd a tirlunio a datblygiadau cysylltiedig yn Cyn Safle Heliport, Stad Ddiwydiannol Penrhos, Penrhos, Caergybi

 

PENDERFYNWYD rhoi’r awdurdod i’r Swyddogion gymeradwyo’r cais, gyda amodau priodol, yn dilyn ymateb boddhaol gan Lywodraeth Cymru mewn perthynas â'r traffig dyddiol cyfartalog blynyddol a ragwelir gan y datblygiad arfaethedig, a'r effaith y rhagwelir y bydd hyn yn ei chael ar Gyffordd 2 yr A55.  

 

12.4  FPL/2021/370 – Cais llawn ar gyfer newidiadau i caniatâd cynllunio rhif FPL/2019/212 (newid defnydd yr adeilad allanol yn llety gwyliau, yn Chwarelau, Brynsiencyn

 

PENDERFYNWYD y dylid cynnal ymweliad safle rhithwir yn unol â chais yr Aelod Lleol ac am y rhesymau a nodwyd.

 

12.5  FPL/2022/36 Cais llawn i addasu ac ehangu yr adeilad presennol (gan gynnwys estyniad a gymeradwywyd fel rhan o'r cais cynllunio FPL/2020/234), codi seilos ychwanegol, creu maes parcio ceir, creu mynediad newydd i gerbydau a cherddwyr, tirlunio ynghyd â gwaith cysylltiedig yn Mona Island Dairy, 8 Parc Diwydiannol, Mona

 

PENDERFYNWYD

 

·  rhoi’r awdurdod i’r Swyddogion gymeradwyo’r cais, gyda amodau priodol, ar ôl derbyn ymateb boddhaol gan yr ymgyngoreion statudol yn cynnwys y Weinyddiaeth Amddiffyn, Cadw a Dŵr Cymru;

·bod cytundeb cyfreithiol Adran 106 yn angenrheidiol i sicrhau bod y mesurau lliniaru ecolegol oddi ar y safle yn cael eu gweithredu a’u cynnal yn briodol.

Dyddiad cyhoeddi: 06/04/2022

Dyddiad y penderfyniad: 06/04/2022

Penderfynwyd yn y Cyfarfod: 06/04/2022 - Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion

Dogfennau Cefnogol: