Y sawl sy'n gwneud penderfyniad : Pwyllgor Gwaith
Statws Penderfyniad : Argymhellion wedi cymeradwyo
Is AllweddolPenderfyniad?: Na
yn amodol ar gael ei alw i mewn?: Na
Cyflwynwyd adroddiad y Dirprwy Prif Weithredwr i’r Pwyllgor Gwaith iddo ei ystyried.
Cyflwynwyd yr adroddiad gan y Cynghorydd Ieuan Williams, Aelod Portffolio Addysg a’r Gymraeg ac ynddo ‘roedd yn gofyn am gymeradwyaeth y Pwyllgor Gwaith i gynyddu buddsoddiad y Cyngor tuag at ymestyn Ysgol y Graig drwy adeiladu bloc Cyfnod Sylfaen newydd. Roedd hyn o ganlyniad i gostau cynyddol yn y diwydiant adeiladu oherwydd nifer o ffactorau y tu allan i reolaeth y Cyngor a'r datblygwr.
Roedd yr adroddiad hefyd yn gofyn am gytundeb y Pwyllgor Gwaith i ariannu cyfran o gost adeiladu uned gofal plant ar safle estynedig Ysgol y Graig; Deuai hyn o ganlyniad i gadarnhad a dderbyniwyd nad oedd cais y Cyngor am gyllid grant 100% o grant Cyfalaf Cyfrwng Cymraeg Llywodraeth Cymru wedi’i flaenoriaethu ar hyn o bryd, gan fod nifer sylweddol wedi gwneud cais amdano. Gan fod yr uned gofal plant ar safle Ysgol y Graig yn rhan o adeilad newydd y Cyfnod Sylfaen, os yw am gael ei chynnwys yn rhan o'r datblygiad, bydd angen ei hadeiladu'r un pryd â gweddill yr Uned Cyfnod Sylfaen - byddai ei chodi’n ddiweddarach yn aneffeithlon ac yn tarfu ar ddisgyblion a staff Ysgol y Graig yn ogystal ag ar y gymuned leol.
Nodai’r adroddiad sut mae'r Cyngor wedi ymateb i'r heriau hyn hyd yma gan gynnwys drwy fynd allan i ail-dendro am y gwaith. Derbyniwyd pris newydd gan y datblygwr a ffefrir 23 Mehefin, 2022 sy’n cynnwys yr uned gofal plant. Mae'r pris yn ddilys tan 28 Gorffennaf, 2022. Hefyd wedi'i gynnwys yn yr adroddiad mae dadansoddiad o sut mae'r costau wedi newid yn ogystal â manteision cael uned gofal plant ar y safle.
Dywedodd y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151 fod Swyddogion y Cyngor wedi cyflwyno “Cais am Newid” i geisio grant ychwanegol gan Lywodraeth Cymru drwy’r rhaglen Cymunedau Dysgu Cynaliadwy, a hynny tuag at gostau ychwanegol adeiladu’r ysgol a thuag at gostau’r uned gofal plant. Os byddant yn llwyddiannus, bydd Llywodraeth Cymru yn ariannu hyd at 65% o'r costau hyn. Bydd angen i'r Cyngor ymrwymo i ariannu'r 35% o gostau sy'n weddill (Mae'r Rhaglen Grant Cyfalaf Cyfrwng Cymraeg oedd â chyfradd ymyrraeth o 100% bellach wedi'i hymrwymo'n llawn). Bydd yr ymrwymiad ychwanegol hwn ar ran y Cyngor yn golygu cost flynyddol uwch drwy'r Ddarpariaeth Isafswm Refeniw. Golyga costau cynyddol y prosiect hefyd bod gweddill amlen ariannu Band B Cyngor Sir Ynys Môn yn cael ei leihau. Ychwanegodd y Swyddog Adran 151 fod y cyfle yn parhau i fod yn rhy dda i'w golli o safbwynt addysgol ac ariannol, er gwaethaf y newid yn yr amgylchiadau,
Cynigiodd y Cadeirydd y dylid ymgynghori â'r Aelodau Portffolio Addysg, Cyllid a Phlant a Phobl Ifanc ynghylch penderfynu ar yr opsiwn gorau ar gyfer rhedeg yr uned gofal plant, boed hynny'n uniongyrchol gan y Cyngor neu drwy gomisiynu partner allanol.
Penderfynwyd –
· Cynyddu buddsoddiad y cyngor tuag at ymestyn Ysgol y Graig yn unol ag argymhelliad yr adroddiad.
· Ariannu 35% o gost adeiladu uned gofal ar safle Ysgol y Graig gyda lle i 50 o blant fel yr argymhellir yn yr adroddiad. Byddai’n rhaid i Lywodraeth Cymru ymrwymo i ariannu'r 65% sy'n weddill i hyn ddigwydd.
· Dirprwyo cyfrifoldeb i’r Cyfarwyddwr Addysg, Sgiliau a Phobl Ifanc ac i’r Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151 benderfynu mewn ymgynghoriad â’r Deiliaid Portffolio Addysg, Cyllid a Phlant a Phobl Ifanc, a oes ar y Cyngor eisiau rhedeg ynteu gomisiynu'r uned gofal plant, gan ddibynnu ar ba opsiwn sy'n rhoi'r gwerth gorau am arian.
· Gyda chytundeb ymlaen llaw Cadeirydd y Cyngor, eithrio hawl y Pwyllgor Craffu i alw’r penderfyniad hwn i mewn. Byddai gohirio'r penderfyniad i ganiatáu cyfnod galw i mewn gan y Pwyllgor Craffu yn niweidiol i'r Cyngor/Lles y Cyhoedd gan fod angen penodi contractwr erbyn 27 Gorffennaf, 2022 i sicrhau bod pris y tendr yn ddilys.
Dyddiad cyhoeddi: 19/07/2022
Dyddiad y penderfyniad: 19/07/2022
Penderfynwyd yn y Cyfarfod: 19/07/2022 - Pwyllgor Gwaith
Dogfennau Cefnogol: