Manylion y penderfyniad

Gweddill y Ceisiadau

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad : Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion

Statws Penderfyniad : Argymhellion wedi cymeradwyo

Is AllweddolPenderfyniad?: Na

yn amodol ar gael ei alw i mewn?: Na

Penderfyniad:

13.1  LBC/2023/1 – Caniatâd Adeilad Rhestredig ar gyfer trosi adeilad rhestredig sydd wedi’i adael i fod yn 4 fflat llety cymdeithasol, ynghyd â gwaith allanol a mewnol yn Plas Alltran, 3 Ffordd Turkey Shore, Caergybi

 

Penderfynwyd cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog a’r adroddiad yn amodol ar yr amodau cynllunio a oedd wedi eu cynnwys yn yr adroddiad.

 

13.2 FPL/2023/6 – Cais llawn i gadw cynhwysydd storio ar gyfer defnydd storio offer yn Maes Parcio Iard yr Hen Orsaf, Stryd Fawr, Llangefni.

 

Penderfynwyd cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog a’r adroddiad yn amodol ar yr amodau cynllunio a oedd wedi eu cynnwys yn yr adroddiad.

 

 

13.3 FPL/2023/24 – Cais llawn ar gyfer newid defnydd tir i fod yn rhan o’r cwrtil preswyl yn Bryn Fedwen Cottage, Gaerwen

 

Penderfynwyd cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog a’r adroddiad yn amodol ar yr amodau cynllunio a oedd wedi eu cynnwys yn yr adroddiad.

 

13.4 HHP/2022/291 – Cais llawn ar gyfer trosi y garej fewn i anecs yn Monfa, Ffordd Caergybi, Mona

 

Penderfynwyd cynnal ymweliad safle corfforol am y rheswm a roddwyd. 

 

13.5 FPL/2022/256 – Cais Llawn ar gyfer codi 33 o dai fforddiadwy, mynedfa newydd i gerbydau a cherddwyr, adeiladu ffordd newydd i’r stad ynghyd â gwaith cysylltiedig ar dir ger Crown Street, Gwalchmai

 

Penderfynwyd cynnal ymweliad safle corfforol, yn unol â chais yr Aelod Lleol, am y rheswm a roddwyd.  

 

13.6 FPL/2022/85 – Cais llawn am estyniad i’r cwrs golff presennol i greu cwrs pytio 'PuttStroke' ynghyd â chodi adeilad clwb, adeilad bar a lluniaeth, adeilad lluniaeth ‘ty hanner ffordd’, bloc toiledau a datblygiad

cysylltiedig yn Clwb Golf Llangefni , Llangefni

 

Penderfynwyd cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog a’r adroddiad yn amodol ar yr amodau cynllunio a oedd wedi eu cynnwys yn yr adroddiad.

 

Dyddiad cyhoeddi: 05/04/2023

Dyddiad y penderfyniad: 05/04/2023

Penderfynwyd yn y Cyfarfod: 05/04/2023 - Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion

Dogfennau Cefnogol: