Manylion y penderfyniad

Applications Arising

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad : Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion

Statws Penderfyniad : Argymhellion wedi cymeradwyo

Is KeyPenderfyniad?: Na

yn amodol ar gael ei alw i mewn?: Na

Penderfyniad:

7.1  46C427L/COMP – Cyflwyno Cynllun Grwp Cyswllt Cymunedol er mwyn cydymffurfio gyda Thelerau Cytundeb a nodir yn Atodlen 8, Adran 7 a Chynllun Tir Mynediad Cyhoeddus Penrhos fel y nodir yn Atodlen 8, Adran 13.1 y Cytundeb Adran 106 sydd ynghlwm wrth gyfeirnod cynllunio 46C427K/TR/EIA/ECON yn Land and Lakes, Parc Arfordirol Penrhos, Caergybi

 

Penderfynwyd gwrthod y cais yn groes i argymhelliad y Swyddog oherwydd nid yw’n glir a yw’r caniatâd wedi’i weithredu ym Mharc Arfordirol Penrhos.

 

Yn unol â gofynion y Cyfansoddiad bydd y cais yn cael ei ohirio yn awtomatig i’r cyfarfod nesaf er mwyn rhoi amser i’r Swyddogion ymateb i’r rhesymau a roddwyd am wrthod y cais.

 

7.2  S106/2020/3 – Cyflwyno ‘Cynllun Iaith Gymraeg Parc Arfordirol Penrhos’ o dan Adran 1 (Cynllun Iaith Gymraeg) o atodlen 12 o’r Cytundeb 106 a gwblhawyd mewn cysylltiad â chaniatâd cynllunio 46C427K/TR/EIA/ECON a chyflwyniad Gweithred Amrywio i amrywio darpariaethau canlynol y cytundeb cyfreithiol hwn: paragraffau 2.1.1. Atodlen 8 (Manyleb Canolfan Ymwelwyr a Gwarchodfa Natur Cae Glas), Atodiad 2 Bond Bwrdd Canolfan Ymwelwyr Penrhos (yn cynnwys Toiledau Canolfan Ymwelwyr Penrhos) a’u cynnal a chadw, paragraffau 1.1 a 1.2 Atodlen 12 (Cynllun Iaith Gymraeg) a disodliad Cynllun 2 Lluniad Tir Penrhos – Cynllun 2 cyferinod llunio PL1114.VW008 /Rev 03 dyddiedig 03/03/2016 yn Land and Lakes, Parc Arfordirol Penrhos, Caergybi

 

Penderfynwyd gwrthod y cais yn groes i argymhelliad y Swyddog am yr un rhesymau a nodwyd yn 7.1 uchod.

 

Yn unol â gofynion y Cyfansoddiad bydd y cais yn cael ei ohirio yn awtomatig i’r cyfarfod nesaf er mwyn rhoi amser i’r Swyddogion ymateb i’r rhesymau a roddwyd am wrthod y cais.

 

7.3  COMP/2021/1 – Cyflwyno gwybodaeth angenrheidiol i ryddhau adrannau; Atodlen 8, Adran 1, Cymal 1.1; Strategaeth Parcio Ceir a Mynediad Cyhoeddus – Cyfnod Parc Arfordirol Penrhos. Atodlen 8, Cymal 12.1; Cynllun Coetir Hynafol – Cyfnod Parc Arfordirol Penrhos. Atodlen 8, Adran 15, Cymal 15.1; Cynllun Cysylltiadau Gwyrdd – Cyfnod Parc Arfordirol Penrhos. Atodlen 8, Adran 17, Cymal 17.1; Cynllun Rheoli SoDdGA – Cyfnod Parc Arfordirol Penrhos. Atodlen 8, Adran 19, Cymal 19.1; Arolwg Ecolegol a Chynllun Monitro – Cyfnod Parc Arfordirol Penrhos. Atodlen 8, Adran 19, Cymal 19.4; Archwiliad Cydymffurfiaeth Ecolegol – Cyfnod Parc Arfordirol Penrhos. Atodlen 8, Adran 20, Cymal 20.1 – Cynllun Rheoli Coed Presennol – Cyfnod Parc Arfordirol Penrhos. Atodlen 8, Adran 21, Cymal 21.1 – Penodi Gwasanaeth Warden / Adroddiad Blynyddol Gwasanaeth Warden – Cyfnod Parc Arfordirol Penrhos. Atodlen 8, Adran 21, Cymal 21.2 – Gwasanaeth Warden, AHNE - Goblygiadau diogelwch / Asesiad monitro effaith Cysylltiadau Gwyrdd a’r defnydd ohonynt – Cyfnod Parc Arfordirol Penrhos. Atodlen 8, Adran 21, Cymal 21.3 – Gwasanaeth Warden, AHNE - Ymrwymiad Adroddiad Blynyddol o Effaith – Cyfnod Parc Arfordirol Penrhos. Atodlen 9, Adran 3, Cymal 3.1; Cynllun Fesul Cyfnod Pentref Hamdden Penrhos – Cyfnod Parc Arfordirol Penrhos. Atodlen 11, Adran 1, Cymal 1.1; Cynllun Llafur Lleol – Cyfnod Parc Arfordirol Penrhos o oblygiadau’r cytundeb Adran 106 ynghlwm i ganiatâd cynllunio 46C427K/TR/EIA/ECON yn Land and Lakes, Parc Arfordirol Penrhos, Caergybi

 

Penderfynwyd gwrthod y cais yn groes i argymhelliad y Swyddog am yr un rhesymau a nodwyd yn 7.1 uchod.

 

Yn unol â gofynion y Cyfansoddiad bydd y cais yn cael ei ohirio yn awtomatig i’r cyfarfod nesaf er mwyn rhoi amser i’r Swyddogion ymateb i’r rhesymau a roddwyd am wrthod y cais.

 

7.4 FPL/2022/256 – Cais Llawn ar gyfer codi 33 o dai fforddiadwy, mynedfa newydd i gerbydau a cherddwyr, adeiladu ffordd newydd i’r stad ynghyd â gwaith cysylltiedig ar dir ger Crown Street, Gwalchmai

 

Penderfynwyd gwrthod y cais yn groes i argymhelliad y Swyddog oherwydd ystyrir ei fod yn or-ddatblygiad a bod amheuon ynghylch a oedd angen lleol digonol, ei fod yn ddatblygiad rhy fawr ar gyfer y pentref a’i fod y tu allan i’r ffin datblygu, roedd gwrthwynebiadau cryf o fewn y gymuned a’i fod yn erbyn sawl polisi o fewn Cynllun Corfforaethol y Cyngor.

 

Yn unol â gofynion y Cyfansoddiad bydd y cais yn cael ei ohirio yn awtomatig i’r cyfarfod nesaf er mwyn rhoi amser i’r Swyddogion ymateb i’r rhesymau a roddwyd am wrthod y cais.

 

7.5  HHP/2022/291 – Cais llawn ar gyfer trosi y garej fewn i anecs yn Monfa, Ffordd Caergybi, Mona

 

      Penderfynwyd cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog yn            

      amodol ar yr amodau cynllunio yn yr adroddiad ysgrifenedig.

 

7.6  FPL/2020/247 – Cais llawn ar gyfer codi 9 annedd ynghyd â gwaith cysylltiedig ar dir ger Stad Y Bryn, Llanfaethlu

 

      Penderfynwyd cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog yn            

      amodol ar yr amodau cynllunio yn yr adroddiad ysgrifenedig.

Dyddiad cyhoeddi: 03/05/2023

Dyddiad y penderfyniad: 03/05/2023

Penderfynwyd yn y Cyfarfod: 03/05/2023 - Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion

Dogfennau Cefnogol: