Manylion y penderfyniad

Gweddill y Ceisiadau

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad : Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion

Statws Penderfyniad : Argymhellion wedi cymeradwyo

Is KeyPenderfyniad?: Na

yn amodol ar gael ei alw i mewn?: Na

Penderfyniad:

12.1  FPL/2023/141 – Cais llawn ar gyfer newid defnydd Eglwys i fod yn un eiddo preswyl (Defnydd Dosbarth C3) ac un eiddo llety gwyliau tymor byr (Defnydd Dosbarth C6) ynghyd â chodi adeilad sied/garej, creu mynedfa newydd i gerbydau, adeiladu balconi newydd, gwaith tirlunio meddal a chaled, addasiadau i’r adeilad ynghyd a gwaith cysylltiedig Eglwys Bresbyteraidd Saesneg, Ffordd Telford, Porthaethwy

 

PENDERFYNWYD cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog yn amodol ar yr amodau yn yr adroddiad ysgrifenedig.

 

12.2  FPL/2022/250 – Cais llawn ar gyfer ail-osod 144 o garafanau gwyliau statig, ynghyd a gwelliannau amgylcheddol ym Mharc Carafanau Rynys, Penrhoslligwy, Dulas

 

PENDERFYNWYD cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog yn amodol ar yr amodau yn yr adroddiad ysgrifenedig.

 

12.3  FPL/2023/159 – Cais llawn ar gyfer addasu ac ehangu'r ganolfan hamdden bresennol, sy'n cynnwys ystafell ddigwyddiadau, campfa, caffi, man chwarae meddal, derbynfa, llyfrgell, swyddfa a storfeydd yng Nghanolfan Hamdden Biwmares, Biwmares.

 

PENDERFYNWYD cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog yn amodol ar yr amodau yn yr adroddiad ysgrifenedig.

 

12.4  FPL/2023/178 – Cais llawn ar gyfer gosod 10 colofn golau 9m o uchder yn Ysgol Uwchradd Bodedern, Bodedern

 

PENDERFYNWYD cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog yn amodol ar yr amodau yn yr adroddiad ysgrifenedig.

 

12.5  FPL/2023/204 – Cais llawn ar gyfer lleoli adeilad ystafell ddosbarth dwbl modiwlaidd ar faes chwarae'r ysgol yn Ysgol Gynradd Bodffordd, Minffordd, Bodffordd

 

PENDERFYNWYD cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog yn amodol ar yr amodau yn yr adroddiad ysgrifenedig.

 

12.6  FPL/2023/154 – Cais llawn ar gyfer dymchwel estyniad cefn presennol, ynghyd a addasu ac ehangu yn Glan Traeth, Rhosneigr.

 

PENDERFYNWYD cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog yn amodol ar yr amodau yn yr adroddiad ysgrifenedig.

 

Dyddiad cyhoeddi: 04/10/2023

Dyddiad y penderfyniad: 04/10/2023

Penderfynwyd yn y Cyfarfod: 04/10/2023 - Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion

Dogfennau Cefnogol: