Manylion y penderfyniad

Membership and Constitution of the Standing Advisory Council on Religious Education (SACRE)

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad : Cyngor Sir Ynys Môn

Statws Penderfyniad : Argymhellion wedi cymeradwyo

Is KeyPenderfyniad?: Na

yn amodol ar gael ei alw i mewn?: Na

Penderfyniad:

 PENDERFYNWYD yn unfrydol:-

 

·       Addasu enw’r CYSAG i CYS a bod y Swyddog Monitro yn cynnwys ei gylch gorchwyl yng Nghyfansoddiad y Cyngor, yn unol â’r gofyniad cyfreithiol ar gyfer CYS;

·       Oherwydd bod rhaid i’r awdurdod lleol gymryd pob cam rhesymol i sicrhau bod yr aelodaeth, yn gyffredinol, yn gymesur â chryfder pob crefydd, enwad, neu argyhoeddiadau athronyddol anghrefyddol yn ei ardal leol, bod aelodaeth y CYS yn cynnwys cyfanswm o 9 sedd, yn cynnwys 6 sedd ar gyfer yr aelodau presennol a 3 sedd newydd ychwanegol a benodir ar gyfer cynrychiolwyr o: Dyneiddwyr y DU, Islam a Thystion Jehova;

·       Cynnal adolygiad pellach, o fewn chwe mis, o’r seddi Cristnogol presennol (ac felly’n eithrio Tystion Jehova o’r ymgynghoriad nesaf) oherwydd sylwadau a wnaethpwyd pan ymgynghorwyd gyda CYSAG a’r ffigyrau sydd wedi dod i law.

 

Dyddiad cyhoeddi: 07/03/2024

Dyddiad y penderfyniad: 07/03/2024

Penderfynwyd yn y Cyfarfod: 07/03/2024 - Cyngor Sir Ynys Môn

Dogfennau Cefnogol: