Y sawl sy'n gwneud penderfyniad : Pwyllgor Gwaith
Statws Penderfyniad : Argymhellion wedi cymeradwyo
Is KeyPenderfyniad?: Na
yn amodol ar gael ei alw i mewn?: Na
Cyflwynwyd adroddiad y Pennaeth Rheoleiddio a Datblygu Economaidd, a oedd yn nodi hynt y gwaith o baratoi’r Achos Busnes Llawn ar gyfer Porthladd Rhydd Ynys Môn, i’w ystyried gan y Pwyllgor Gwaith.
Dywedodd yr Arweinydd a’r Aelod Portffolio Datblygu Economaidd bod yr Achos Busnes Llawn yn cael ei ddatblygu yn unol â’r canllawiau terfynol ar gyfer Porthladdoedd Rhydd. Mae’r Cyngor a’i ymgynghorwyr yn gweithio ar y cyd â Stena a’u hymgynghorwyr i gyflwyno’r Achos Busnes Llawn erbyn diwedd mis Hydref.
Dywedodd y Prif Swyddog Datblygu Economaidd ei fod yn rhagweld y bydd oedi o hyd at 2 i 3 wythnos yn yr amserlen ar gyfer cwblhau’r Achos Busnes Llawn.
.
PENDERFYNWYD dirprwyo awdurdod i’r Prif Weithredwr, mewn ymgynghoriad â’r Arweinydd a’r Aelod Portffolio Datblygu Economaidd, Cyfarwyddwyr Busnes y Cyngor/Swyddog Monitro ac Adnoddau/Adran 151, i gymeradwyo a chyflwyno’r Achos Busnes Llawn drafft i’r Llywodraeth i’w gymeradwyo gan Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU.
Dyddiad cyhoeddi: 22/10/2024
Dyddiad y penderfyniad: 22/10/2024
Penderfynwyd yn y Cyfarfod: 22/10/2024 - Pwyllgor Gwaith
Dogfennau Cefnogol: