Y sawl sy'n gwneud penderfyniad : Pwyllgor Safonau
Statws Penderfyniad : Argymhellion wedi cymeradwyo
Is KeyPenderfyniad?: Na
yn amodol ar gael ei alw i mewn?: Na
Gwrandawiad Pwyllgor Safonau Cyngor Sir Ynys Môn i honiadau ynglŷn ag ymddygiad y Cynghorydd Ieuan Williams o Gyngor Sir Ynys Môn
Cyfeirnod Achos Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru - 202302251.
Penderfyniad Cyngor Sir Ynys Môn gyda rhesymau ysgrifenedig
1. Cyflwyniad
1.1 Cynhaliwyd Gwrandawiad o Bwyllgor Safonau Cyngor Sir Ynys Môn (“y Pwyllgor Safonau”) ar 16/05/2025 er mwyn ystyried honiadau bod y Cynghorydd Ieuan Williams o Gyngor Sir Ynys Môn wedi torri’r Cod Ymddygiad i Aelodau, a rhoi cyfle i’r Cynghorydd Williams (“yr Aelod”) gyflwyno sylwadau mewn perthynas â’r honiadau hynny.
1.2 Cyfeiriodd y Cynghorydd Ieuan Williams (yr “Aelod”) ei hun at Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru (“OGCC”) ar ôl dweud “bod angen saethu pob Tory” mewn cyfarfod o’r Bwrdd Rhaglen Datblygiadau Cyfredol ar 12/6/2023.
1.3 Trefnodd OGCC i’r honiadau gael eu hymchwilio, yn unol â’i phwerau o dan adran 69 o Ddeddf Llywodraeth Leol 2000, a lluniodd Adroddiad ar yr ymchwiliad. Daeth OGCC i’r casgliad fod tystiolaeth wedi’i ganfod oedd yn awgrymu fod paragraffau 4(b) a 6(1)(a) o’r Cod Ymddygiad i Aelodau Cyngor Sir Ynys Môn wedi cael eu torri. Cyfeiriodd OGCC ei hadroddiad at Swyddog Monitro Cyngor Sir Ynys Môn (“y Cyngor”) gyda chyfarwyddyd y dylid cyfeirio’r mater at y Pwyllgor Safonau.
1.4 Cynhaliwyd cyfarfod o’r Pwyllgor Safonau ar 26/02/2025 er mwyn dod i benderfyniad cychwynnol ynglŷn â’r gŵyn yr oedd OGCC wedi’i chyfeirio at y Pwyllgor. Yn unol â Gweithdrefn y Cyngor ar gyfer Gwrandawiadau Safonau Lleol (y “Weithdrefn”), penderfynodd y Pwyllgor Safonau, yn ystod y cam penderfyniad cychwynnol:
1.5 Trefnwyd i gynnal Gwrandawiad y Pwyllgor Safonau ar 16/05/2025. Cynhaliwyd y Gwrandawiad yn unol â’r Weithdrefn. Roedd rhaid i’r Gwrandawiad hwn benderfynu, yn ôl pwysau tebygolrwydd, p’un a oedd yr Aelod wedi methu â chydymffurfio â’r paragraffau perthnasol yn y Cod Ymddygiad ai peidio. Pe byddai’r Gwrandawiad yn dod i’r casgliad bod y Cod Ymddygiad wedi cael ei dorri, roedd rhaid iddo ddod i benderfyniad ynglŷn ag unrhyw gosb a / neu argymhelliad i’r Cyngor.
1.6 Roedd y Cynghorydd Williams yn bresennol yn y Gwrandawiad ar 16/05/2025. Nid oedd gan y Cynghorydd Williams gynrychiolaeth gyfreithiol.
1.7 Roedd Ms Llinos Lake a Ms Annie Ginwalla o Swyddfa OGCC yn bresennol yn y Gwrandawiad ar 16/05/2025 a bu iddynt gyflwyno sylwadau ar ran OGCC.
1.8 Ni ofynnwyd i unrhyw dystion fynychu’r Gwrandawiad.
1.9 Cynhaliwyd y Gwrandawiad yn gyhoeddus ond cafodd y wasg a’r cyhoedd eu cau allan am gyfnod gan fod y Cynghorydd Williams yn datgelu gwybodaeth bersonol a sensitif yn ei ddatganiad ynglŷn â’r effaith bersonol arno.
2. Sefydlu’r Ffeithiau
2.1 Roedd y Cynghorydd Williams yn derbyn Adroddiad y Swyddog Ymchwilio felly nid oedd y partïon yn anghytuno ynglŷn ag unrhyw ffeithiau.
2.2 O’r herwydd, nid oedd angen i’r Pwyllgor Safonau wneud canfyddiadau ynglŷn ag unrhyw ffeithiau yr oedd anghytuno yn eu cylch.
3. Penderfynu a oedd y Cod Ymddygiad wedi cael ei dorri
3.1 Roedd y Cynghorydd Williams yn derbyn ei fod wedi methu â chydymffurfio â Chod Ymddygiad y Cyngor, fel y manylir yn Adroddiad y Swyddog Ymchwilio.
3.2 Ar ôl ystyried cyfaddefiad y Cynghorydd Williams, yn unol â pharagraff 10.4 o’r Weithdrefn, derbyniodd y Pwyllgor Safonau Adroddiad y Swyddog Ymchwilio yn ddi-gwestiwn a phenderfynodd fod yr Aelod wedi methu â chydymffurfio â’r Cod Ymddygiad yn y modd a ddisgrifiwyd yn Adroddiad y Swyddog Ymchwilio.
3.3 Ar y sail honno, penderfynodd y Pwyllgor Safonau fod:
4. Penderfyniad ynglŷn â chosb
4.1 O ganlyniad i’r penderfyniad bod yr Aelod wedi methu â chydymffurfio â’r Cod Ymddygiad yn y modd a ddisgrifiwyd yn Adroddiad y Swyddog Ymchwilio, gwahoddodd y Pwyllgor Safonau sylwadau ynglŷn â chosb gan yr Aelod a’r Swyddog Ymchwilio, a sicrhaodd fod gan bob aelod o’r Pwyllgor Safonau ddigon o wybodaeth i wneud penderfyniad ystyrlon ynghylch:
• a ddylid pennu cosb;
• ar ôl rhoi sylw dyledus i Ganllaw ar Gosbau Panel Dyfarnu Cymru (lle bwriedir pennu cosb), pa gosb i’w rhoi;
• pryd y daw’r gosb honno i rym; ac
• unrhyw argymhellion y dymuna’r Pwyllgor Safonau eu gwneud i’r Cyngor.
4.2 Ystyriodd y Pwyllgor Safonau sylwadau gan yr Aelod ac OGCC ynglŷn ag a ddylid rhoi cosb i’r Aelod am dorri’r Cod Ymddygiad.
4.3 Sylwadau’r Cynghorydd Williams:
Nid oedd sylwadau’r Cynghorydd wedi’u gwneud yn gyhoeddus. Cyflwynwyd sylwadau ar ôl cau allan y wasg a’r cyhoedd ac roeddent yn cynnwys manylion am effaith y mater hwn ar les personol y Cynghorydd. Mynegodd y Cynghorydd Williams ei edifeirwch am wneud y sylw a dywedodd ei fod yn difaru dweud ‘peth mor wirion’. Pan gwestiynwyd y Cynghorydd Williams, cadarnhaodd fod yr amser oedd wedi mynd heibio rhwng iddo gyfeirio ei hun at OGCC a chyrraedd y pwynt hwn wedi ychwanegu at y straen.
4.4 Sylwadau OGCC:
Mynegodd OGCC, oedd yn cael ei chynrychioli gan Ms Llinos Lake, y safbwynt na fyddai penderfyniad i “beidio â chymryd unrhyw gamau” yn briodol o dan yr amgylchiadau, o ystyried yr egwyddorion yng Nghanllaw ar Gosbau Panel Dyfarnu Cymru. Esboniodd OGCC y dylid pennu cosb oherwydd y niwed a wnaed i enw da’r Cyngor a/neu’r Cynghorydd o ganlyniad i sylw’r Cynghorydd Williams.
Awgrymodd OGCC y dylai’r Pwyllgor Safonau ystyried yr amgylchiadau lliniarol canlynol:
Awgrymodd OGCC y dylai’r Pwyllgor Safonau ystyried y ffactorau gwaethygol canlynol:
Cyfeiriodd OGCC at Erthygl 10 yn y Confensiwn Ewropeaidd ar Hawliau Dynol. Oherwydd difrifoldeb y mater hwn, nodwyd y byddai rhoi cosb i’r Cynghorydd Williams yn gymesur er mwyn amddiffyn hawliau eraill, gan gynnwys y cyhoedd yn ehangach. Cyfeiriodd OGCC at achos Heesom V Ombwdsman Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru [2014] EWHC 1504 (Gweinyddiaeth), lle mae’n ofynnol cydbwyso hawl etholwyr i gael cynrychiolaeth leol gyda’r angen i gynnal hyder y cyhoedd mewn aelodau etholedig. Awgrymodd OGCC y byddai aelodau eraill o’r Cyngor yn gallu diwallu anghenion etholwyr yn ystod unrhyw gyfnod pan fyddai’r Cynghorydd wedi cael ei atal dros dro ac felly ni fyddai’n rhagfarnu yn erbyn y cyhoedd.
Dywedodd OGCC fod hysbysiadau penderfyniad ar gael o achosion blaenorol a ystyriwyd gan Bwyllgorau Safonau, ac er nad ydynt yn gymariaethau union, maent yn dangos amrywiaeth o ran difrifoldeb a gwahanol gosbau.
4.5 Ystyriodd y Pwyllgor Safonau’r holl gosbau posib sydd ar gael iddo, sef:
· peidio â chymryd unrhyw gamau; neu
· rhoi cerydd i’r Aelod; neu
· atal yr aelod yn rhannol am gyfnod o ddim mwy na chwe mis neu weddill cyfnod yr Aelod yn y swydd, pa un bynnag yw’r cyfnod byrraf; neu
· atal yr aelod yn rhannol am gyfnod o ddim mwy na chwe mis neu weddill cyfnod yr Aelod yn y swydd, pa un bynnag yw’r cyfnod byrraf.
4.6 Adolygodd y Pwyllgor Safonau Ganllawiau ar Gosbau PDC a sicrhaodd fod y gosb a roddwyd yn ystyried yr egwyddorion sylfaenol canlynol:
4.7 Roedd y Pwyllgor Safonau hefyd yn ystyriol o bwrpas y cosbau wrth wneud ei benderfyniad ynglŷn â’r mater hwn. Fel y crynhoir yng Nghanllaw ar Gosbau PDC, pwrpas y gosb a roddir yw:
4.8 Wrth benderfynu ar ei safbwynt ynglŷn â chosb, fe wnaeth y Pwyllgor Safonau:
· asesu difrifoldeb y tor-amod ac unrhyw ganlyniadau i unigolion a/neu’r cyngor
· nodi’r math cyffredinol o gosb y mae’r Tribiwnlys yn credu ei bod yn fwyaf tebygol o fod yn briodol o ystyried y tor-amod;
· ystyried unrhyw amgylchiadau lliniarol neu waethygol perthnasol a sut y gallai’r rhain effeithio ar lefel y gosb sy’n cael ei hystyried; ac
· ystyried unrhyw addasiad pellach sydd ei angen er mwyn sicrhau bod y gosb yn cael effaith briodol, o ran cyflawni dibenion y gosb;
4.9 Yn unol â budd y cyhoedd, ystyriodd y Pwyllgor Safonau gosbau a roddwyd gan Bwyllgorau Safonau eraill, ar gyfer achosion tebyg o dorri’r cod, a myfyriodd y Pwyllgor Safonau ar faterion blaenorol y mae OGCC wedi cyhoeddi adroddiadau arnynt ac sydd ar gael ar ei gwefan wrth benderfynu ar y gosb.
4.10 Yn dilyn Gwrandawiad cyhoeddus, ac ar ôl ystyried yr holl ffeithiau a materion perthnasol yn breifat, gan gynnwys rhoi sylw dyladwy i Canllaw ar Gosbau PDC, penderfynodd y Pwyllgor Safonau y dylid rhoi cosb.
4.11 Penderfynodd y Pwyllgor y byddai difrifoldeb yr achos hwn yn arwain at gosb a oedd yn disgyn rhwng pen uchaf “dim camau pellach” a phen isaf “atal dros dro”.
4.12 Nododd y Pwyllgor Safonau yr amgylchiadau lliniarol canlynol:
· Hanes blaenorol o wasanaeth da gan yr Aelod, yn enwedig dros gyfnod maith, gan nodi fod y Cynghorydd wedi bod yn aelod o’r Awdurdod ers 2008.
· Dim ond unwaith ddigwyddodd y camymddwyn ac roedd yn fethiant anfwriadol i ddilyn y Cod. Roedd yn ddigwyddiad unigol ac nid oedd yn rhan o batrwm, ac nid oedd y camymddwyn wedi’i ailadrodd ers y digwyddiad. Nodwyd hefyd fod y sylw wedi’i wneud pan oedd y Cynghorydd yn bresennol mewn cyfarfod preifat, yn hytrach na chyfarfod cyhoeddus, ac esboniodd y Cynghorydd na fyddai wedi gwneud yr un sylw mewn cyfarfod cyhoeddus.
· Roedd yr Aelod wedi cyfeirio ei hun at OGCC.
· Mae’r Aelod yn cydnabod ac yn edifarhau’r camymddwyn ac unrhyw ganlyniadau a ddeilliodd o’r sylw a wnaethpwyd ganddo. Ymddengys nad yw’r Cynghorydd yn debygol o fethu â chydymffurfio â’r Cod eto.
· Ymddiheurodd y Cynghorydd yn gynnar i unrhyw un a gafodd eu heffeithio gan ei sylw, gan gynnwys anfon e-bost at y rheiny oedd yn bresennol yn y cyfarfod ei hun. Daeth y Pwyllgor i’r casgliad hefyd, yn unol â sylwadau OGCC mewn perthynas ag adroddiadau tystion, nad oedd yr Aelod, yn ôl pwysau tebygolrwydd, yn golygu’r sylw yn llythrennol.
· Mae’r Aelod wedi cydweithredu er mwyn cywiro effaith y methiant. Fe wnaeth yr Aelod gamu i lawr o swydd uwch o fewn yr Awdurdod ac mae’n dangos dealltwriaeth o’r effaith a gafodd ei sylw ar eraill.
Fel rhan o hyn, roedd y Pwyllgor Safonau hefyd yn ystyried ei bod yn berthnasol fod cyflog y Cynghorydd Williams wedi cael ei dorri’n sylweddol pan gamodd i lawr o’i rôl fel Dirprwy Arweinydd ac Aelod Portffolio ar y Pwyllgor Gwaith. Er nad oedd y Cynghorydd Williams wedi codi hynny fel ffactor lliniarol, roedd gwybodaeth a gyflwynwyd gan y Swyddog Monitro yn amcangyfrif iddo golli tua £37,794.09 gros o gyflog ar gyfer y cyfnod rhwng 13/06/23 a 31/05/25. Ystyriwyd bod hwn yn swm sylweddol ac roedd y Cynghorydd Williams wedi’i ildio’n wirfoddol trwy wneud yr hyn yr oedd yn deg yn ei dyb ef, sef ymddiswyddo o’i swydd uwch yn y Cyngor. Ystyriwyd bod hyn yn dystiolaeth fod yr Aelod yn ceisio mynd i’r afael â chanlyniadau ei weithredoedd yn gynnar, er gwaetha’r effaith ariannol.
· Mae’r Aelod wedi cydweithio’n llawn â’r Swyddog Ymchwilio a’r Pwyllgor Safonau. Fel rhan o hyn, roedd y Pwyllgor yn ystyrlon o’r ffaith fod bron i ddwy flynedd wedi mynd heibio ers y digwyddiad a bod yr Aelod wedi gorfod aros ers hynny i’r mater gael ei gwblhau.
· Mae’r Aelod yn derbyn fod angen iddo newid ei ymddygiad yn y dyfodol ac mae’n derbyn na ddylai fod wedi gwneud y fath sylw, hyd yn oed o ganlyniad i’w angerdd a’i rwystredigaeth mewn perthynas â thrafodaeth ynglŷn â thlodi ar yr Ynys ac, yn benodol, y cynnydd o 100% mewn dibyniaeth ar fanciau bwyd.
· Mae’r Aelod wedi cydymffurfio â’r Cod Ymddygiad ers y digwyddiad.
4.13 Nododd y Pwyllgor Safonau y ffactorau gwaethygol canlynol:
· Profiad maith yr aelod, ei safle uchel a’i swydd gyfrifol. Credid y dylai’r Cynghorydd wybod yn well, o ystyried ei brofiad a’i swydd uwch, gan gynnwys fel aelod blaenorol o’r Pwyllgor Safonau.
· Roedd sylwedd sylw’r Aelod a’r ffaith iddo dderbyn sylw eang yn y cyfryngau yn golygu bod y cynghorydd wedi dwyn anfri ar y Cyngor.
4.14 Roedd OGCC wedi cyfeirio at achos Heesom V Ombwdsman Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru [2014] EWHC 1504 (Gweinyddiaeth), yn ei sylwadau ynglŷn â chosb. Ystyriodd y Pwyllgor Safonau yr achos hwn, a oedd yn asesu’r cydbwysedd rhwng rhyddid mynegiant gwleidyddol a’r safonau ymddygiad a ddisgwylir gan aelodau etholedig. Mae’r achos yn cadarnhau bod gwarchodaeth ychwanegol yn cael ei roi i iaith wleidyddol, yn unol ag Erthygl 10 y Confensiwn Ewropeaidd ar Hawliau Dynol, ond nid yw hynny’n golygu nad yw yw’r hawl hwn yn cael ei reoli. Gellir cyfiawnhau cyfyngu ar yr hawl hwn i ryddid mynegiant, yn enwedig os yw’r iaith yn targedu unigolion mewn ffordd bersonol neu ddifrïol, yn tanseilio hyder y cyhoedd mewn llywodraeth leol neu’n torri codau ymddygiad sy’n gymesur a chyfreithiol. Mae Canllaw ar Gosbau Panel Dyfarnu Cymru yn ymhelaethu ar yr hawl i ryddid mynegiant o dan Erthygl 10 ac mae’n amlygu bod “…mesurau diogelu ychwanegol ar gyfer rhyddid mynegiant mewn dadleuon gwleidyddol” ac mae’n “caniatáu iaith a dadl ar faterion o ddiddordeb i’r cyhoedd a allai, mewn cyd-destun anwleidyddol, gael ei hystyried yn amhriodol neu’n annerbyniol”. (paragraff 29).
Pan wnaethpwyd sylwadau gwleidyddol gan y Cynghorydd Williams, roedd y Pwyllgor Safonau’n cydnabod fod mesurau diogelu ychwanegol ar waith mewn perthynas â’i hawl i ryddid mynegiant o dan Erthygl 10 y Confensiwn Ewropeaidd ar Hawliau Dynol. Er hynny, roedd y Pwyllgor yn cydnabod hefyd bod cyfiawnhad dros ymyrryd â hawliau unigolyn o dan Erthygl 10 os yw hynny’n angenrheidiol er mwyn peidio ag ymyrryd â hawliau eraill. Barn y Pwyllgor Safonau oedd nad oedd y sylw a wnaed gan y Cynghorydd Williams yn cael ei ystyried yn briodol na derbyniol mewn cyd-destun gwleidyddol nac anwleidyddol, er i’r sylw gael ei wneud mewn cyd-destun gwleidyddol. Roedd yr hawl i ryddid mynegiant o dan Erthygl 10 felly’n cael ei drechu yn yr achos hwn trwy roi’r safonau sy’n ofynnol o dan y Cod Ymddygiad ar waith yn gyfreithlon.
4.15 Ar ôl asesu difrifoldeb y toriad, y canlyniadau’n deillio ohono, ac ar ôl pwyso a mesur y ffactorau lliniarol a gwaethygol uchod yn gysylltiedig ag ymddygiad yr Aelod, penderfynodd y Pwyllgor Safonau y dylid rhoi cerydd i’r Cynghorydd Williams. Mae’r Pwyllgor o’r farn bod cerydd yn gosb ddigonol a rhesymol, wedi rhoi sylw dyladwy i Ganllaw ar Gosbau yn unol â’r gofynion o dan y Weithdrefn.
Roedd y Pwyllgor Safonau o’r farn bod ceryddu’r Cynghorydd Ieuan Williams yn fynegiant clir nad yw’r Pwyllgor Safonau’n cymeradwyo ymddygiad yr Aelod ac mae’n caniatáu i’r Pwyllgor Safonau fynegi’n ffurfiol ei feirniadaeth o’r sylw a wnaed.
4.16 Roedd y Pwyllgor Safonau o’r farn bod yr agweddau lliniarol yn llawer iawn mwy na’r ffactorau gwaethygol yn y mater hwn. Ar y sail honno, ystyriwyd y byddai atal dros dro yn ormod o gosb.
Mae Canllaw ar Gosbau PDC yn datgan nad yw atal dros dro am lai na mis yn debygol o gyflawni amcanion y system gosbau a gallai danseilio amcanion cyffredinol y system; felly, gallai cyfnod atal dros dro byr o fis fod wedi’i osod. Fodd bynnag, nid oedd hyn yn cael ei ystyried yn briodol ar sail y dadleuon a glywyd. Mae’r Cynghorydd yn derbyn nad oedd y sylw’n briodol ac mae’n annhebygol iawn o ailadrodd yr ymddygiad hwn, ac felly daeth y Pwyllgor i’r casgliad, ar sail y ffeithiau, nad oedd angen addasiadau i gynyddu’r gosb er mwyn cael effaith ataliol briodol ar yr Aelod. Daeth y Pwyllgor i’r casgliad hefyd y byddai’r cyhoeddusrwydd negyddol ynglŷn â’r achos hwn yn gweithredu fel rhwystr ar gyfer aelodaeth ehangach y Cyngor.
4.17
Yn yr un modd, roedd y Pwyllgor o’r farn na
fyddai cymryd unrhyw gamau yn amhriodol yn amgylchiadau’r
achos hwn.
Roedd y Pwyllgor yn gwerthfawrogi difrifoldeb y mater, swydd uwch a phrofiad y Cynghorydd Williams pan wnaeth y sylw, a’i fod yn ystyried dau achos o dorri’r Cod Ymddygiad (ar gyfer un weithred). Barn y Pwyllgor oedd na fyddai peidio â chymryd camau pellach yn atal camymddygiad yn y dyfodol ar ran yr unigolyn nac eraill, ac na fyddai’n hyrwyddo diwylliant o gydymffurfio ymysg Aelodau, o ystyried difrifoldeb y sylw a wnaed a’r cyhoeddusrwydd dilynol. Ystyriwyd bod cerydd yn gosb ataliol oedd yn angenrheidiol ac yn gymesur o dan yr amgylchiadau.
4.18 Mae Canllaw ar Gosbau PDC yn datgan fod atal dros dro rhannol (yn hytrach na llawn) yn briodol os yw’r tor-amod yn ddigon difrifol i gyfiawnhau atal dros dro ond bod amgylchiadau’r achos yn golygu bod yr aelod yn cael parhau i gyflawni ei swydd gyhoeddus ac eithrio’r rôl/swyddogaeth /gweithgaredd sy’n cael ei gyfyngu’n benodol gan yr ataliad dros dro. Nid oedd y Pwyllgor Safonau’n ystyried bod atal dros dro rhannol yn berthnasol i’r achos hwn gan nad yw’r ymddygiad oedd yn destun y gŵyn yn benodol i rôl y Cynghorydd mewn perthynas â swyddogaeth neu rôl benodol.
4.19 Yn ogystal â’r cerydd, gwnaethpwyd y ddau argymhelliad canlynol gan Gadeirydd y Pwyllgor Safonau i’r Cyngor, mewn ymdrech i gefnogi nod y Pwyllgor o gynnal hyder y cyhoedd:
· Cadeirydd y Pwyllgor Safonau yn trafod cefnogaeth ffurfiol bellach gyda’r Cynghorydd Williams mewn perthynas â rheoli emosiynau a rheoli rôl wleidyddol yn llygaid y cyhoedd.
5. Hysbysiad o Benderfyniad
5.1 Yn unol â Rheoliad 9 o Reoliadau Ymchwiliadau Llywodraeth Leol (Swyddogaethau Swyddogion Monitro a Phwyllgorau Safonau) (Cymru) 2001, cyflwynir hysbysiad o benderfyniadau’r Pwyllgor Safonau i:
(a) Y Cynghorydd Ieuan Williams fel testun yr ymchwiliad.
(b) Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru.
Mae Rheoliad 9 yn gwneud darpariaeth hefyd ar gyfer rhoi hysbysiad i’r person a wnaeth yr honiad. Er eglurer, cyfeiriodd y Cynghorydd Williams ei hun at OGCC ac felly nid oes “achwynydd” i’w hysbysu.
6. Hawl i Apelio
6.1 O dan Reoliad 10 o Reoliadau Ymchwiliadau Llywodraeth Leol (Swyddogaethau Swyddogion Monitro a Phwyllgorau Safonau) (Cymru) 2001, mae hawl gan y Cynghorydd Williams i geisio caniatâd i apelio yn erbyn penderfyniadau’r Pwyllgor Safonau.
6.2 Os yw’r Cynghorydd Williams yn dymuno ceisio caniatâd i apelio, rhaid iddo gyflwyno hysbysiad ysgrifenedig i lywydd Panel Dyfarnu Cymru o fewn 21 diwrnod i ddyddiad yr hysbysiad o benderfyniadau hwn. Dylai’r hysbysiad sy’n ceisio hawl i apelio restru’r seiliau dros wneud yr apêl a ph’un a yw’r Cyngor Williams yn fodlon ai peidio i’r apêl gael ei chynnal ar ffurf sylwadau ysgrifenedig.
6.3 Mae manylion pellach i’w gweld ar wefan Panel Dyfarnu Cymru, https://paneldyfarnu.llyw.cymru/
Cymeradwywyd gan Trefor Owen (Aelod Lleyg)
Cadeirydd y Pwyllgor Safonau
Dyddiad cyhoeddi: 16/05/2025
Dyddiad y penderfyniad: 16/05/2025
Penderfynwyd yn y Cyfarfod: 16/05/2025 - Pwyllgor Safonau