Y sawl sy'n gwneud penderfyniad : Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion
Statws Penderfyniad : Argymhellion wedi cymeradwyo
Is AllweddolPenderfyniad?: Na
yn amodol ar gael ei alw i mewn?: Na
7.1 20LPA962/CC – Cais ôl-ddyddiol
i’r trac oedd wedi ei adeiladu yn
ddiweddar a gwelliannau i’r
fynedfa bresennol ar
dir gyferbyn a Fron
Heulog, Cemaes.
PENDERFYNWYD cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog a chyda’r amodau oedd yn yr adroddiad.
7.2 22C211C – Cais
llawn i
godi un tyrbin gwynt
gydag uchafswm uchder
i’r hwb o 25m, diametr
rotor o 19.24m ac uchafswm uchder o 34.37m ar
dir yn
Yr Orsedd,
Llanddona.
PENDERFYNWYD gohirio ystyried y cais hwn yn unol â dymuniad yr ymgeisydd.
7.3 34C648A – Cais
amlinellol i godi annedd a gwneud
gwaith altro i’r
fynedfa bresennol ar
dir yn
Pwros, Rhosmeirch.
PENDERFYNWYD cadarnhau’r penderfyniad i ganiatáu’r cais, yn groes i argymhelliad y Swyddog ac am y rhesymau a roddwyd yn flaenorol, sef bod y cynnig yn estyniad bychan rhesymol i’r anheddiad.
7.4 41C8C – Cais
llawn i
newid defnydd tir
i leoli 33
o garafannau symudol, codi bloc
toiledau, adeiladu mynedfa
i gerbydau
a thirlunio yn Garnedd Ddu, Star.
PENDERFYNWYD caniatáu’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog gyda’r amodau oedd yn yr adroddiad, a chydag amod ychwanegol yng nghyswllt llefydd pasio ychwanegol ar y briffordd.
7.5 42C231 – Cais
llawn i
godi 13 o anneddau newydd a
chreu mynedfa newydd
ar dir
yn The Sidings, Pentraeth.
PENDERFYNWYD cymeradwyo’r cais a rhoi i’r Swyddogion y grym i weithredu wedi i’r cyfnod statudol o ymgynghori cyhoeddus ddod i ben.
7.6 47LPA966/CC – Cais amlinellol am
ddatblygiad preswyl, ynghyd â
dymchwel yr
hen ysgol ar dir Ysgol Gynradd
Llanddeusant, Llanddeusant.
PENDERFYNWYD gohirio ystyried y cais hwn a gofyn i’r ymgeisydd ystyried newid y cais i’w wneud yn fwy derbyniol i breswylwyr.
Dyddiad cyhoeddi: 04/09/2013
Dyddiad y penderfyniad: 04/09/2013
Penderfynwyd yn y Cyfarfod: 04/09/2013 - Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion
Dogfennau Cefnogol: