Manylion y penderfyniad

Applications Arising

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad : Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion

Statws Penderfyniad : Argymhellion wedi cymeradwyo

Is KeyPenderfyniad?: Na

yn amodol ar gael ei alw i mewn?: Na

Penderfyniad:

7.1  16C119B – Cais llawn i godi adeilad i ddarparu gweithdy a swyddfa yn Pen yr Orsedd, Engedi

 

PENDERFYNWYD ail-gadarnhau’r penderfyniad a wnaed i gymeradwyo’r cais yn groes i argymhelliad y Swyddog gydag amod ychwanegol y bydd y gweithdy a’r swyddfa ar gyfer defnydd yr ymgeisydd ei hun fel saer coed.

 

7.2 39C385D – Cais llawn i godi 17 o dai ar dir yn Lôn Gamfa, Menai Bridge

 

PENDERFYNWYD caniatáu’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog, gyda’r amodau sydd wedi eu cynnwys yn yr adroddiad.

 

7.3 46C147D – Cais ôl-weithredol i ddefnyddio padog fel safle ar gyfer carafanau symudol a chadw’r ddau gynhwysydd a ddefnyddir fel bloc toiledau a chawodydd, defnyddio’r tir a chadw’r llecyn caled i storio carafanau, cychod a threlars  ar sail fasnachol, defnydd preswyl o un garafan deithiol a chadw’r portacabin a ddefnyddir fel swyddfa ynghyd â gosod gwaith trin carthion a ffos gerrig newydd yn lle’r tanc septig yn Tan y Graig, Trearddur Bay

 

PENDERFYNWYD caniatáu’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog, gyda’r amodau sydd yn yr adroddiad, ynghyd ag amod ychwanegol y dylid lledu’r fynedfa i’r safle.

 

7.4 46C247K/TR/EIA/ECON –  Caiscynllunio hybrid sy'n cynnig: Amlinellol gyda'r holl faterion wedi eu cadw'n ôl ac eithrio dull

mynediad, ar gyfer : Pentref Hamdden ym Mharc Arfordirol Penrhos, Ffordd Llundain, Caergybi yn cynnwys: Hyd at 500 o unedau hamdden newydd gan gynnwys porthdai a bythynnod newydd; Adeilad canolbwynt canolog newydd gan gynnwys derbynfa gyda chyfleusterau hamdden gan gynnwys parc dŵr isdrofannol dan do, neuadd chwaraeon dan do, caffis, bariau, bwytai ac adwerthu; Adeilad canolog newydd ar gyfer Marchnad Ffermwyr; Adeilad hamdden a sba canolog newydd; Canolfan chwaraeon dwr a chaffi newydd ar safle'r hen Cwch; Dymchwel y Baddondy ac adeiladu bwyty ar ei safle; Dymchwel adeiladau eraill gan gynnwys tair ysgubor amaethyddol a thair annedd; Darparu a chynnal 29 hectar o ardaloedd cyhoeddus gyda

maes parcio i'r cyhoedd a gwelliannau i'r llwybr arfordirol gan gynnwys: Rhodfeydd a reolir o fewn 15 hectar i goetir, cadw a gwella Pwll Grace, Pwll Lili, Pwll Sgowtiaid gyda llwyfannau gweld, y Fynwent Anifeiliaid Anwes, y Gofeb, y Pwmp a maes picnic gyda gorsafoedd bwydo adar a chuddfannau gwylio adar, gydag arwyddion dehongli addysgiadol a dwyieithog trwy'r cyfan;

Creu trywydd cerfluniau newydd trwy goetir a llwybrau pren a gwell cysylltiad gyda Llwybr yr Arfordir; Bydd y traeth yn parhau i fod yn hygyrch i'r cyhoedd gan ddarparu mynediad diogel i'r dŵr bas; Canolfan Bŵer a Gwres gyfun. Tir yn Cae Glas - Codi llety a chyfleusterau pentref hamdden sydd wedi eu dylunio i'w defnyddio yn y lle cyntaf fel llety dros dro i weithwyr adeiladu ar gyfer Wylfa B ar dir Cae Glas, Parc Cybi, Caergybi yn cynnwys: Hyd at 315 o borthdai i'w hisrannu yn y lle cyntaf fel llety ar gyfer gweithwyr niwclear; Adeilad canolbwynt canolog gan gynnwys derbynfa a chantîn ar gyfer y llety; Cyfleuster Parcio a Theithio gyda hyd at 700 o lecynnau parcio ceir; Gwesty newydd; Adeilad canolbwynt wrth ochr llyn yn cynnwys bwyty, caffi, adwerthu a bar; Cae pêl-droed glaswellt newydd a chae criced; a Canolfan Bŵer a Gwres Gyfun. I'w haddasu wedyn (ar ôl adeiladu Wylfa B) i fod yn estyniad i Bentref Hamdden Parc Arfordirol Penrhos gan gynnwys: Porthdai ac adeiladau cyfleusterau wedi eu hadnewyddu i greu llety gwyliau o safon uchel (hyd at 315 o borthdai i deuluoedd); Canolfan Ymwelwyr a Gwarchodfa Natur sy'n caniatáu mynediad i'r cyhoedd dan reolaeth; a Canolfan Dreftadaeth gyda lle parcio i

ymwelwyr. Tir yn Kingsland - Codi datblygiad preswyl a ddyluniwyd i'w ddefnyddio yn y lle cyntaf fel llety i weithwyr adeiladu yn Kingsland, Ffordd Kingsland, Caergybi yn cynnwys: Hyd at 360 o dai newydd i'w defnyddio yn y lle cyntaf fel llety dros dro i weithwyr adeiladu. I'w haddasu wedyn(ar ôl adeiladu Wylfa B) i fod yn ddatblygiad preswyl a fyddai'n cynnwys: Hyd at 360 o anheddau mewn tirwedd o safon uchel a llecynnau agored. Bydd datblygiadau atodol ar gyfer pob cam o'r gwaith datblygu, gan gynnwys darpariaethau ar gyfer parcio, ardaloedd gwasanaeth, llecynnau agored a

pheiriannau\gwaith.Manylion llawn ar gyfer newid defnydd yr adeiladau Stad cyfredol ym Mharc Arfordirol Penrhos, Ffordd Llundain, Caergybi gan gynnwys newid defnydd: Twr y Beili ac adeiladau allanol yn Fferm Penrhos o clwb criced i fod yn ganolfan wybodaeth i ymwelwyr, bwyty, caffi, bariau ac adwerthu; Ysgubor y Fferm ac Adeiladau Trol o fod yn adeiladau fferm i fod yn

ganolfanar gyfer hurio beiciau ac offer chwaraeon; Y Twr o ddefnydd preswyl i fod yn llety i reolwyr a swyddfa atodol; a Ty Beddmanarch o annedd i fod yn ganolfan i ymwelwyr.

 

PENDERFYNWYD caniatáu’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog a nodi y bydd y cais yn cael ei gyfeirio i Lywodraeth Cymru am gyfnod o 21 diwrnod yn unol â Chyfarwyddyd Cynllunio Gwlad a Thref (Hysbysu) (Cymru) 2012 gydag argymhelliad fod yr awdurdod cynllunio lleol o blaid caniatáu’r cais gyda’r amodau isod :-

 

·        Bod yr ymgeisydd yn llofnodi Cytundeb Adran 106, gyda’r penawdau telerau drafft a amlinellir yn yr Adroddiad Gwreiddiol.

·        Amodau cynllunio sy’n cynnwys y materion a nodir yn yr Adroddiad Gwreiddiol.

Bod y Pennaeth Gwasanaethau Cynllunio yn cael awdurdod dirprwyedig i drafod telerau’r Cytundeb Adran 106 a delio gyda’r materion a nodir uchod drwy amodau neu Gytundeb Adran 106 fel yr ystyrir yn briodol gan y Pennaeth Gwasanaethau Cynllunio.

Dyddiad cyhoeddi: 22/11/2013

Dyddiad y penderfyniad: 06/11/2013

Penderfynwyd yn y Cyfarfod: 06/11/2013 - Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion

Dogfennau Cefnogol: