Y sawl sy'n gwneud penderfyniad : Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion
Statws Penderfyniad : Argymhellion wedi cymeradwyo
Is AllweddolPenderfyniad?: Na
yn amodol ar gael ei alw i mewn?: Na
12.1 10C118A/RE – Cais llawn ar gyfer lleoli fferm arae heulol 15MW ar dir ger Bryn yr Odyn, Soar
PENDERFYNWYD ymweld â’r safle am y rhesymau a roddwyd.
12.2 14C135A – Cais llawn i godi annedd a garej breifat, creu mynedfa newydd i gerbydau ynghyd â gosod gwaith trin carthion ar dir ger Glasfryn, Tyn Lon
PENDERFYNWYD caniatáu’r cais yn groes i argymhelliad y swyddog ar y sail ei fod yn cydymffurfio gyda Pholisi 50 oherwydd ei fod mewn clwstwr.
12.3 14C28G/1/ECON – Cais llawn ar gyfer codi gweithdy trwsio HGV ynghyd â lleoli swyddfa symudol a darparu lle parcio HGV ar gyfer contractwyr amaethyddol ar blot 7 Parc Diwydiannol Mona.
PENDERFYNWYD caniatáu’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog, gyda’r amodau yn yr adroddiad.
12.4 14C28H/1/ECON – Cais llawn i godi warws storio a dosbarthu gyda swyddfa a chantîn ar Blot 14, Parc Diwydiannol, Mona.
PENDERFYNWYD caniatáu’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog, gyda’r amodau yn yr adroddiad.
12.5 19C1052C – Cais llawn i godi 12 o fflatiau dwy ystafell wely a 3 o fflatiau un ystafell wely ynghyd ag adeiladu mynedfa newydd ar safle’r hen Glwb RNA, St. David’s Road, Caergybi.
PENDERFYNWYD caniatáu’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog, gyda’r amodau yn yr adroddiad.
12.6 28C483 – Cais llawn ar gyfer lleoli caban pren yn Sea Forth, Warren Road, Rhosneigr
PENDERFYNWYD ymweld â’r safle am y rhesymau a roddwyd.
12.7 40C315B – Cais llawn am ganiatâd dros dro i leoli pedwar o gynwysyddion storio ar dir yn Yr Wylfan Moelfre.
PENDERFYNWYD caniatáu’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog, gyda’r amodau yn yr adroddiad.
Dyddiad cyhoeddi: 22/11/2013
Dyddiad y penderfyniad: 06/11/2013
Penderfynwyd yn y Cyfarfod: 06/11/2013 - Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion
Dogfennau Cefnogol: