Y sawl sy'n gwneud penderfyniad : Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion
Statws Penderfyniad : Argymhellion wedi cymeradwyo
Is KeyPenderfyniad?: Na
yn amodol ar gael ei alw i mewn?: Na
12.1 12C431C/LB – Caniatâd Adeilad Rhestredig i osod drysau Ffrengig yn lle’r ffenestr bresennol yn Gwynfa, Biwmares.
PENDERFYNWYD argymell i CADW fod y cais yn cael ei gymeradwyo yn groes i argymhelliad y Swyddog ac yn unol â’r amodau y cytunwyd arnynt gan yr Aelodau.
12.2 19C792H - Cais llawn i newid defnydd garej a stordy yn llety byncws ym Mharc Gwledig y Morglawdd, Caergybi.
PENDERFYNWYD cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog a chyda’r amodau a restrir yn yr adroddiad ysgrifenedig.
12.3 19LPA434B/FR/CC – Cais llawn i atgyweirio’r adeiladau presennol, dymchwel yr estyniad cysylltiedig a chodi estyniad deulawr newydd yng Nghanolfan Gymuned Jesse Hughes, Caergybi.
PENDERFYNWYD gohirio'r cais er mwyn disgwyl am ymateb i gais am wybodaeth gan y Cynghorydd Trefor Lloyd Hughes fel Aelod Lleol.
12.4 19LPA999/CC - Cais llawn ar gyfer codi plac yn 1 Market Hill, Caergybi
PENDERFYNWYD cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog a chyda’r amodau a restrir yn yr adroddiad ysgrifenedig.
12.5 19LPA1000/CC - Cais llawn ar gyfer codi plac yn 42-44 Stryd y Farchnad, Caergybi
PENDERFYNWYD cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog a chyda’r amodau a restrir yn yr adroddiad ysgrifenedig.
12.6 19LPA1001/CC - Cais llawn ar gyfer codi plac yn Sinema’r Empire, 39 Stryd Stanley, Caergybi
PENDERFYNWYD cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog a chyda’r amodau a restrir yn yr adroddiad ysgrifenedig.
12.7 31C14V/1 - Cais llawn i addasu ac ymestyn 34 Cil y Graig, Llanfairpwll
PENDERFYNWYD ymweld â’r safle yn unol â'r cais a wnaed gan y Cynghorydd Davies.
12.8 36C328A – Cais amlinellol gyda rhai materion wedi eu cadw yn ôl ar gyfer codi annedd a chreu mynedfa newydd i gerbydau ynghyd â dymchwel y garej bresennol ar dir ger Bodafon, Llangristiolus
PENDERFYNWYD ymweld â’r safle yn unol â'r cais a wnaed gan un o'r Aelodau Lleol.
12.9 46C168A/FR - Cais amlinellol gyda'r holl faterion wedi'u cadw yn ôl ar gyfer codi annedd ar dir yn Trearddur House, Lôn St Ffraid, Trearddur
PENDERFYNWYD cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog a chyda’r amodau a restrir yn yr adroddiad ysgrifenedig.
Dyddiad cyhoeddi: 02/07/2014
Dyddiad y penderfyniad: 02/07/2014
Penderfynwyd yn y Cyfarfod: 02/07/2014 - Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion
Dogfennau Cefnogol: