Manylion y penderfyniad

Gweddill y Ceisiadau

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad : Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion

Statws Penderfyniad : Er Penderfyniad

Is KeyPenderfyniad?: Na

yn amodol ar gael ei alw i mewn?: Na

Penderfyniad:

12.1  11LPA896D/CC – Cais amlinellol gyda rhai materion wedi eu cadw yn ôl ar gyfer codi 40 o unedau preswyl ar dir ger Maes Mona, Amlwch

 

Penderfynwyd caniatáu'r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog gyda’r amodau a nodwyd yn yr adroddiad ysgrifenedig.

 

12.2   15C91D – Cais llawn i ddymchwel yr ystafell ardd phresennol ynghyd â chodi adeilad pwll nofio yn ei le yn Ty Canol, Malltraeth

 

Penderfynwyd gohirio ystyried y cais er mwyn ymgynghori gyda'r Swyddog AHNE a Swyddogion Priffyrdd mewn perthynas â'r cais hwn.

 

12.3  39C305C Cais llawn ar gyfer addasu ac ehangu yn 5 Ffordd Cambria, Porthaethwy.

 

Penderfynwyd caniatáu'r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog yn amodol ar yr amodau a nodwyd yn yr adroddiad ysgrifenedig.

 

12.4  40C233B/VAR - Cais i ddiwygio amod (01) (Trac a ganiateir ar gyfer defnydd amaethyddol) ar ganiatad cynllunio 40C233 i ganiatau cadw’r trac ar gyfer ddefnydd amaethyddiaeth a symudiad cerbydau ar gyfer gofynion gweithredol Parc Carafannau Tyddyn Isaf yn unig yn The Owls, Dulas

 

Penderfynwyd ymweld â'r safle er mwyn i'r Aelodau gael golwg ar y safle

 

12.5  44C311 - Cais amlinellol gyda rhai materion wedi ei gadw’n ôl ar gyfer codi un annedd ar dir ger 4 Council Houses, Rhosgoch

 

Penderfynwyd caniatáu’r cais yn groes i argymhelliad y Swyddog am y rhesymau a roddwyd.

 

Yn unol â gofynion Cyfansoddiad y Cyngor, bydd y cais yn cael ei ohirio’n awtomatig i’r cyfarfod nesaf i ganiatáu i’r swyddogion ymateb i’r rhesymau a roddwyd dros wrthod y cais.

 

12.6  44LPA1005/TPO/CC – Cais i dynnu i lawr 2 goeden onnen a 3 choeden sycamorwydden sydd wedi eu diogelu o dan Orchymyn Diogelu Coed yn Ty’n y Ffrwd, Rhosybol

 

Penderfynwyd caniatáu'r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog gyda’r amodau a nodwyd yn yr adroddiad ysgrifenedig.

 

12.7  46C192B/FR – Cais llawn ar gyfer gosod arfwisg graig o flaen y wal strwythur caergawell presennol yn Dinghy Park, Porth Castell, Ravenspoint Road, Trearddur

 

Penderfynwyd ymweld â'r safle er mwyn i'r Aelodau gael golwg ar y safle.

Dyddiad cyhoeddi: 05/11/2014

Dyddiad y penderfyniad: 05/11/2014

Penderfynwyd yn y Cyfarfod: 05/11/2014 - Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion

Dogfennau Cefnogol: