Manylion y penderfyniad

Applications Arising

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad : Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion

Statws Penderfyniad : Argymhellion wedi cymeradwyo

Is KeyPenderfyniad?: Na

yn amodol ar gael ei alw i mewn?: Na

Penderfyniad:

7.1       15C91D – Cais llawn i ddymchwel yr ystafell ardd bresennol ynghyd â chodi adeilad pwll nofio yn ei le yn Canol, Malltraeth

 

Penderfynwyd caniatáu'r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog gyda’r amodau a nodwyd yn yr adroddiad ysgrifenedig ac fel yr adroddwyd i'r Pwyllgor.

 

7.2       21C40A - Cais llawn i godi sied amaethyddol ar gyfer cadw anifeiliaid a phwll cribol ar dir yn Penrhyn Gwyn, Llanddaniel

 

Penderfynwyd gwrthod y cais yn groes i argymhelliad y Swyddog oherwydd ei agosrwydd at yr annedd agosaf a'r potensial ar gyfer sŵn ac effaith arogleuon.

 

Yn unol â gofynion Cyfansoddiad y Cyngor, bydd y cais yn cael ei ohirio’n awtomatig i’r cyfarfod nesaf i ganiatáu i’r swyddogion ymateb i’r rhesymau a roddwyd dros wrthod y cais.

 

7.3  40C233B/VAR - Cais i ddiwygio amod (01) (Trac a ganiateir ar gyfer defnydd amaethyddol) ar ganiatâd cynllunio 40C233 i ganiatáu cadw’r trac ar gyfer defnydd amaethyddol a symudiad cerbydau ar gyfer gofynion gweithredol Parc Carafanau Tyddyn Isaf yn unig yn The Owls, Dulas.

 

Penderfynwyd caniatáu'r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog yn amodol ar yr amodau a nodwyd yn yr adroddiad ysgrifenedig ac yn amodol ar gyfyngu ar y defnydd o'r trac ar gyfer gofynion gweithredol y Maes Carafanau i 4 awr y dydd (naill ai a.m. neu'n p.m.) am 5 diwrnod yr wythnos.

7.4  44C311 - Cais amlinellol gyda rhai materion wedi eu cadw’n ôl ar gyfer codi un annedd ar dir ger 4 Tai Cyngor, Rhosgoch

 

Penderfynwyd ail-gadarnhau’r penderfyniad a wnaed eisoes gan y Pwyllgor i ganiatáu’r cais yn groes i argymhelliad y Swyddog oherwydd y tybir ei fod yn cydymffurfio gyda Pholisi 50 ac na fydd yn achosi niwed annerbyniol i edrychiad a chymeriad y lleoliad.

 

7.5  46C129B/FR – Cais llawn ar gyfer gosod arfwisg graig o flaen y wal strwythur caergawell presenol yn Dinghy Park, Porth Castell, Ravenspoint Road, Trearddur.

 

Penderfynwyd caniatáu'r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog gyda’r amodau a nodwyd yn yr adroddiad ysgrifenedig.

 

 

Dyddiad cyhoeddi: 03/12/2014

Dyddiad y penderfyniad: 03/12/2014

Penderfynwyd yn y Cyfarfod: 03/12/2014 - Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion

Dogfennau Cefnogol: