Y sawl sy'n gwneud penderfyniad : Pwyllgor Gwaith
Statws Penderfyniad : Argymhellion wedi cymeradwyo
Is AllweddolPenderfyniad?: Na
yn amodol ar gael ei alw i mewn?: Na
Penderfynwyd
• Nodi a chefnogi’r cynnydd gyda datblygu Bid Twf cystadleuol ar gyfer y rhanbarth.
• Cefnogi mewn egwyddor, y model llywodraethu dewisol o gydbwyllgor statudol ar gyfer datblygiad pellach gydag adroddiad llawn ar gyfansoddiad a chylch gorchwyl a argymhellir, wedi ei gefnogi gan Gytundeb Rhyng Awdurdod, i ddilyn yn nes ymlaen yn y flwyddyn.
• Awdurdodi’r Arweinydd i weithredu fel aelod o Gydbwyllgor Cysgodol yn y cyfamser.
• Rhoi awdurdod i’r Arweinydd, fel un o Arweinwyr y chwe chyngor a gynrychiolir ar y Cydbwyllgor Cysgodol, i ddechrau trafodaethau cynnar ar y cyd â Llywodraethau ynglŷn â maint a chynnwys amlinellol y Fid Twf, gan nodi na fydd unrhyw ymrwymiadau economaidd nac o fath arall yn cael eu cytuno yng nghamau cyntaf y trafodaethau.
• Dirprwyo awdurdod i’r Prif Weithredwr awdurdodi cyfraniad ariannol cychwynnol o hyd at £50,000 allan o wariant 2017/18 ar gyfer datblygu’r Fid Twf yn fanwl.
Dyddiad cyhoeddi: 18/09/2017
Dyddiad y penderfyniad: 18/09/2017
Penderfynwyd yn y Cyfarfod: 18/09/2017 - Pwyllgor Gwaith
Dogfennau Cefnogol: