Y sawl sy'n gwneud penderfyniad : Cyngor Sir Ynys Môn
Statws Penderfyniad : Er Penderfyniad
Is AllweddolPenderfyniad?: Na
yn amodol ar gael ei alw i mewn?: Na
Rhoes y Cadeirydd groeso cynnes i Gomisiynydd yr Heddlu.
Rhoes y Comisiynydd Heddlu a Throsedd sydd newydd ei benodi ar gyfer Gogledd Cymru, Mr. Winston Roddick, CB, QC, gyflwyniad mewn perthynas â’r gwahoddiad a roddodd i drigolion Gogledd Cymru i rannu eu teimladau ynghylch plismona a throsedd yn lleol.
Byddai’r sylwadau a fynegwyd yn cael eu defnyddio i ddatblygu Cynllun Heddlu a fyddai’n gosod cyfeiriad clir ar gyfer y gwasanaeth heddlu yng Ngogledd Cymru dros y ddwy flynedd nesaf.
Roedd y Comisiynydd Heddlu eisiau i’r Cynllun hwn adlewyrchu anghenion y cyhoedd yng Ngogledd Cymru a cheisiodd farn y gymuned leol am y materion plismona a oedd yn eu pryderu.
Yn dilyn anerchiad y Comisiynydd, cafwyd sesiwn fer ar gyfer cwestiynau ac atebion yn arbennig felly mewn perthynas â’r problemau y daethpwyd ar eu traws ar yr Ynys. Soniwyd hefyd am y ffaith y dylid ystyried codi plac coffa yn yr Orsaf Heddlu newydd yn Llangefni efallai er cof am y diweddar Dr.Tom Parry Jones o Borthaethwy, a ddyfeisiodd yr anadliedydd electronig.
Diolchodd y Cadeirydd i’r Comisiynydd am ei anerchiad ac ar ran y Cyngor, dymunodd yn dda iddo yn ei swydd newydd ac roedd yn edrych ymlaen at ymweliadau pellach gan y Comisiynydd yn ystod ei gyfnod yn y swydd.
Dyddiad cyhoeddi: 11/10/2013
Dyddiad y penderfyniad: 16/04/2013
Penderfynwyd yn y Cyfarfod: 16/04/2013 - Cyngor Sir Ynys Môn