Y sawl sy'n gwneud penderfyniad : Pwyllgor Gwaith
Statws Penderfyniad : Argymhellion wedi cymeradwyo
Is AllweddolPenderfyniad?: Na
yn amodol ar gael ei alw i mewn?: Na
Penderfynwyd –
· Fod gweithredu cyfrifioldebau statudol y Corff Cymeradwyo SDCau (CCS) yn cael eu priodoli i’r Gwasanaeth Priffyrdd, Gwastraff ac Eiddo.
· Fod cyfrifoldeb a phwerau’r CCS dan Atodlen 3 o Ddeddf Rheoli Llifogydd a Dŵr 2010 yn cael eu dirprwyo i’r Pennaeth Gwasanaeth Priffyrdd, Gwastraff ac Eiddo gyda’r hawl i ddirprwyo ymhellach fel sy’n briodol.
· Fod yr hawl i sefydlu cyfundrefn benderfynu ceisiadau yn unol â’r Ddeddfwriareth ac Arweiniad Statudol yn cael ei ddirprwyo i’r Pennaeth Gwasanaeth Priffyrdd, Gwastraff ac Eiddo a’r Pennaeth Gwasanaeth Rheoleiddio ac Economaidd.
· Fod incwm a gynhyrchir o weinyddu’r CCS yn cael ei glustnodi ar gyfer gweithredu dyletswyddau’r CCS.
· Fod yr hawl i greu strwythur a llenwi swyddi er mwyn gweithredu dyletswyddau’r CCS yn cael ei ddirprwyo i’r Deilydd Portffolio a’r Pennaeth Gwasanaeth Priffyrdd, Gwastraff ac Eiddo.
· Fod yr hawl i addasu’r Cynllun Dirprwyo yn y Cyfansoddiad i adlewyrchu’r penderfyniad yma yn cael ei ddirprwyo i’r Swyddog Monitro.
Dyddiad cyhoeddi: 17/12/2018
Dyddiad y penderfyniad: 17/12/2018
Penderfynwyd yn y Cyfarfod: 17/12/2018 - Pwyllgor Gwaith
Dogfennau Cefnogol: