Manylion y penderfyniad

Applications Arising

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad : Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion

Statws Penderfyniad : Argymhellion wedi cymeradwyo

Is AllweddolPenderfyniad?: Na

yn amodol ar gael ei alw i mewn?: Na

Penderfyniad:

7.1 FPL/2021/10 – Cais ôl weithredol ar gyfer codi modurdy ar dir ger Bron Castell, Llanfairynghornwy

 

Penderfynwyd cadarnhau penderfyniad blaenorol y Pwyllgor i wrthod y cais yn groes i argymhelliad y Swyddog, am y credir y byddai’r cynnig wedi cael effaith ar amwynderau’r eiddo cyfagos yn groes i’r polisi cynllunio PCYFF 2.

 

7.2 FPL/2020/98 - Cais ôl-weithredol ar gyfer cadw gwaith peirianneg o greu llain galed at ddefnydd storio amaethyddol a defnydd datblygiad a ganiateir fel safle cist car ynghyd â chadw’r addasiadau a waned i’r fynedfa i gerbydau ar dir yng Nghae Prytherch, Llanfairpwll

 

Penderfynwyd –

 

·         Cadarnhau penderfyniad blaenorol y Pwyllgor i wrthod cadw gwaith peirianneg o greu llain galed ar y safle.

·         Caniatau cadw’r addasiadau a wnaed i’r fynedfa i gerbydau o ran lledu’r fynedfa.

·         Gwrthod cadw’r addasiadau a wnaed i’r fynedfa i gerbydau o ran gosod giât a ffens fetel ac argymell eu hamnewid am strwythur sy’n cyd-fynd â chae amaethyddol.

 

7.3 FPL/2021/38 - Cais llawn ar gyfer gosod 2 pod glampio ynghyd a chreu mynedfa newydd a datblygiadau cysylltiedig ar dir ger Gwel y Môr, Penrhosfeilw

 

Penderfynwyd cymeradwyo’r cais yn groes i argymhelliad y Swyddog gan yr ystyriwyd na fyddai’r cynnig yn arwain at ddatblygiad llety gwyliau anaddas ac ymwthiol yng nghefn gwlad ac na fyddai yn cael effaith ar yr eiddo preswyl cyfagos (Bu’r Cynghorydd Trefor Lloyd Hughes, MBE atal ei bleidlais).

 

 (Yn unol â gofynion Cyfansoddiad y Cyngor, gohiriwyd y cais yn awtomatig tan y cyfarfod nesaf er mwyn rhoi cyfle i Swyddogion baratoi adroddiad mewn perthynas â’r rhesymau a roddwyd am ganiatáu’r cais).

 

Dyddiad cyhoeddi: 02/06/2021

Dyddiad y penderfyniad: 02/06/2021

Penderfynwyd yn y Cyfarfod: 02/06/2021 - Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion

Dogfennau Cefnogol: