Manylion y penderfyniad

Gweddill y Ceisiadau

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad : Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion

Statws Penderfyniad : Argymhellion wedi cymeradwyo

Is AllweddolPenderfyniad?: Na

yn amodol ar gael ei alw i mewn?: Na

Penderfyniad:

12.1 FPL/2021/92 – Cais llawn i godi adeilad amaethyddol newydd ar gyfer storio ac ŵyna ar dir ger Graianbwll, Llanddaniel

 

Penderfynwyd cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad ac adroddiad y Swyddog gyda’r amodau a restrwyd yn yr adroddiad.

 

12.2 FPL/2021/147 – Cais llawn ar gyfer tynnu’r adeilad ystafell ddosbarth symudol presennol, lleoli adeilad ystafell ddosbarth symudol newydd, codi ffens ynghyd â gwaith tirlunio caled arall yn Ysgol Henblas, Llangristiolus

 

Penderfynwyd dirprwyo cymeradwyo’r cais i’r Swyddogion ar ddiwedd y cyfnod ymgynghori yn unol â’r argymhelliad a’r adroddiad gyda’r amodau cynlluniau a gynhwysir yn yr adroddiad ac yn amodol hefyd na chodir unrhyw faterion newydd cyn y daw’r cyfnod cyhoeddusrwydd i ben.

 

12.3 FPL/2021/86 – Cais ôl-weithredol ar gyfer addasiadau i’r fynedfa gerbydau bresennol, ail-adeiladu wal gerrig ar y terfyn ynghyd â chodi giât gysylltiedig yn The Old Abbey ac Abbey Lodge, Lôn Ravenspoint, Trearddur

 

Penderfynwyd cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad ac adroddiad y Swyddog gyda’r amodau cynllunio a nodir yn yr adroddiad.

 

12.4 FPL/2020/215 – Cais llawn ar gyfer codi 23 o dai newydd (yn cynnwys 4 o fflatiau) ynghyd â chreu dwy fynedfa newydd a datblygiad cysylltiedig ar dir ger Lôn Lwyd, Pentraeth

Penderfynwyd y dylid cynnal ymweliad safle rhithwir yn unol â chais yr Aelod Lleol am y rheswm a roddwyd.

12.5 HHP/2021/166 - Cais ôl-weithredol ar gyfer ail-leoli a chadw’r anecs ar dir tu cefn i 21 Stâd Ravenspoint, Trearddur

Penderfynwyd dirprwyo cymeradwyo’r cais i’r Swyddogion ar ddiwedd y cyfnod ymgynghori yn unol â’r argymhelliad a’r adroddiad gyda’r amodau cynllunio yn yr adroddiad ac ar yr amod hefyd na chodir unrhyw faterion newydd cyn y daw’r cyfnod cyhoeddusrwydd i ben.

12.6 FPL/2021/111 – Cais llawn ar gyfer newid defnydd tir amaethyddol yn safle cabannau gwyliau, gosod 30 adeilad caban gwyliau, codi adeilad derbynfa, gwaith peirianyddol i greu llyn, adeiladu lonydd preifat, adeiladu ardaloedd parcio, gwaith tirlunio meddal a chaled ynghyd â gwaith cysylltiedig yn Fferm Penmynydd, Caergeiliog

Penderfynwyd cynnal ymweliad safle rhithwir am y rheswm a roddwyd.

 

12.7 MAO/2021/21 – Mân newidiadau i gynllun sydd wedi’i ganiatáu yn flaenorol o dan ganiatâd cynllunio FPL/2018/4 er mwyn diwygio geiriad amod 8 (Dŵr budur yn unig i gysylltu â’r garthffos gyhoeddus) er mwyn galluogi dŵr wyneb i gysylltu â’r garthffos gyhoeddus yn Sŵn y Gwynt, Caergybi

Penderfynwyd cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad ac adroddiad y Swyddog.

 

12.8 FPL/2021/112 – Cais llawn ar gyfer codi ffensys diogelwch yn Ysgol Uwchradd Bodedern, Bodedern

Penderfynwyd cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad ac adroddiad y Swyddog gyda’r amodau yn yr adroddiad.

12.9 FPL/2020/234 – Cais llawn i godi warws cynhyrchu bwyd, estyniad i’r adeilad presennol er mwyn creu ardal halltu, codi tanc Gwaith Trin Elifion, tanc cydbwyso a strwythurau cysylltiedig (rhannol ôl-weithredol mewn perthynas â sylfeini), creu pyllau gwanhau, codi adeilad i gynnwys unedau DAF, addasu pwyntiau mynediad presennol ynghyd â newidiadau i’r parcio presennol, dad-fabwysiadu’r briffordd sydd eisoes wedi’i mabwysiadu, ynghyd â thirlunio a gwaith cysylltiedig yn 8 Stad Ddiwydiannol Mona, Mona

Penderfynwyd cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad ac adroddiad y Swyddog gyda’r amodau cynllunio yn yr adroddiad ac yn amodol hefyd ar dderbyn unrhyw ymatebion i’r ymgynghoriad sy’n weddill ac unrhyw amodau cynllunio ychwanegol yn deillio o hynny.

12.10 FPL/2019/251/EIA - Cais llawn ar gyfer codi uned dofednod maes (cynhyrchu wyau) ynghyd â storfa gwrtaith, biniau bwyd a gwaith cysylltiedig yng Nghae Mawr, Llannerchymedd

Penderfynwyd cynnal ymweliad safle rhithwir am y rhesymau a roddwyd.

Dyddiad cyhoeddi: 28/07/2021

Dyddiad y penderfyniad: 28/07/2021

Penderfynwyd yn y Cyfarfod: 28/07/2021 - Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion

Dogfennau Cefnogol: