Y sawl sy'n gwneud penderfyniad : Pwyllgor Gwaith
Statws Penderfyniad : Argymhellion wedi cymeradwyo
Is KeyPenderfyniad?: Na
yn amodol ar gael ei alw i mewn?: Na
Penderfynwyd –
· Nodi cyfrifiad Sylfaen y Dreth Gyngor gan y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau) a Swyddog Adran 151 fydd yn cael ei ddefnyddio gan Lywodraeth Cymru i gyfrifo’r Grant Cymorth Refeniw ar gyfer Cyngor Sir Ynys Môn am y flwyddyn ariannol 2022/23, sef 31,079.93 (Rhan E6 o Atodiad A yr adroddiad).
· Cymeradwyo’r cyfrifiad gan y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau) a Swyddog Adran 151 at ddibenion pennu Sylfaen y Dreth Gyngor ar gyfer yr ardal gyfan a rhannau ohoni am y flwyddyn 2022/23 (Rhan E5 o Atodiad A yr adroddiad)
· Yn unol â Deddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992 a Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Cyfrifo Sylfaen Treth Gyngor) (Cymru) 1995, fel y cawsant eu diwygio gan SI1999/2935, a Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Cyfrifo Sylfaen Treth Gyngor) a’r Dreth Gyngor (Dosbarthau Rhagnodedig ar Anheddau) (Cymru) (Diwygio) 2016, y cyfansymiau y mae Cyngor Sir Ynys Môn wedi eu cyfrifo fel sylfaen y dreth am y flwyddyn 2022/23 yw 32,042.00, ac fel y nodir yn nhabl 3 yr adroddiad ar gyfer y rhannau o’r ardal a restrir ynddo.
Dyddiad cyhoeddi: 29/11/2021
Dyddiad y penderfyniad: 29/11/2021
Penderfynwyd yn y Cyfarfod: 29/11/2021 - Pwyllgor Gwaith
Dogfennau Cefnogol: