Y sawl sy'n gwneud penderfyniad : Pwyllgor Gwaith
Statws Penderfyniad : Argymhellion wedi cymeradwyo
Is KeyPenderfyniad?: Na
yn amodol ar gael ei alw i mewn?: Na
Cyflwynodd y Cynghorydd Dafydd Rhys Thomas, Aelod Portffolio ar gyfer Busnes Corfforaethol, adroddiad y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Busnes y Cyngor)/Swyddog Monitro a oedd yn nodi’r materion sy’n codi mewn perthynas â’r ddarpariaeth bresennol yn sgil mabwysiadu Strategaeth Ddigidol newydd ar gyfer ysgolion Ynys Môn. Roedd yr adroddiad yn cynnig ffordd ymlaen i fynd i’r afael â’r materion ac yn gofyn am gymeradwyaeth a hawliau dirprwyo er mwyn gwireddu’r cynnig.
Gan eu bod wedi datgan diddordeb personol sy’n rhagfarnu yn y mater hwn, nid oedd Mr Rhys H. Hughes, Cyfarwyddwr Addysg, Sgiliau a Phobl Ifanc na’r Cynghorwyr R. Meirion Jones ac Ieuan Williams yn bresennol yn y cyfarfod pan drafodwyd y mater.
Penderfynwyd cymeradwyo argymhellion yr adroddiad fel ffordd ymlaen.
Dyddiad cyhoeddi: 13/12/2021
Dyddiad y penderfyniad: 13/12/2021
Penderfynwyd yn y Cyfarfod: 13/12/2021 - Pwyllgor Gwaith
Dogfennau Cefnogol: