Manylion y penderfyniad

Gweddill y Ceisiadau

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad : Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion

Statws Penderfyniad : Argymhellion wedi cymeradwyo

Is KeyPenderfyniad?: Na

yn amodol ar gael ei alw i mewn?: Na

Penderfyniad:

12.1 VAR/2022/36 – Cais o dan Adran 73 i ddiwygio amod (02) (caniatâd materion a gadwyd yn ôl) o ganiatâd cynllunio rhif OP/2019/6 (dymchwel hen weithle cemegol a chodi 7 uned fusnes) er mwyn caniatáu amser ychwanegol i gyflwyno’r cais materion a gadwyd yn ôl yn Hen Safle Peboc, Llangefni

 

Penderfynwyd cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad ac adroddiad y Swyddog, yn amodol ar yr amodau cynllunio yn yr adroddiad.

 

12.2 FPL/2022/87 – Cais llawn ar gyfer newid defnydd rhan o hen gae chwarae’r ysgol yn fan chwarae i blant yn Ysgol Gynradd Llangaffo, Llangaffo

 

Penderfynwyd cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad ac adroddiad y Swyddog ac yn amodol ar yr amod cynllunio yn yr adroddiad.

 

12.3 VAR/2022/3 – Cais o dan Adran 73A i ddiwygio amodau (05) (Cynllun Rheoli Tail), (08) (Cynllun Tirlunio), (10) (Strategaeth Lliniaru Goleuadau), (11) (Cynllun Rheoli Coetir), (12) (Cynllun Rheoli Amgylcheddol Adeiladu), (17) (Gwaith Archeolegol), ac (18) (Cynllun Rheoli Traffig Adeiladu) o gais cynllunio rhif FPL/2019/251/EIA (codi uned ddofednod) er mwyn caniatáu cyflwyno a chymeradwyo manylion ar ôl cychwyn gwaith datblygu yng Nghae Mawr, Llannerch-y-medd

 

Penderfynwyd cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad ac adroddiad y Swyddog ac yn amodol ar yr amodau cynllunio yn yr adroddiad.

 

12.4 FPL/2021/336 - Cais llawn ar gyfer addasu ac ehangu'r ganolfan iechyd, adeiladu mannau parcio newydd ynghyd â thirlunio meddal yng Nghanolfan Iechyd Llanfairpwll, Ffordd Penmynydd, Llanfairpwll

 

Penderfynwyd cynnal ymweliad safle rhithwir yn unol â chais yr Aelod Lleol ac am y rheswm a roddwyd.

 

12.5 FPL/2022/46 – Cais llawn ar gyfer adeiladu 12 annedd ynghyd â chreu ffordd fynediad fewnol ar dir ger Stad Bryn Glas, Brynsiencyn

 

Penderfynwyd cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad ac adroddiad y Swyddog, yn amodol ar yr amodau cynllunio yn yr adroddiad.

Dyddiad cyhoeddi: 06/07/2022

Dyddiad y penderfyniad: 06/07/2022

Penderfynwyd yn y Cyfarfod: 06/07/2022 - Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion

Dogfennau Cefnogol: