Y sawl sy'n gwneud penderfyniad : Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion
Statws Penderfyniad : Argymhellion wedi cymeradwyo
Is KeyPenderfyniad?: Na
yn amodol ar gael ei alw i mewn?: Na
12.1 FPL/2021/59 – Cais llawn ar gyfer codi 50 annedd preswyl, 12 fflat preswyl, adeiladu mynedfa a ffordd newydd i gerbydau, adeiladu gorsaf bwmpio dŵr budr ynghyd â gwaith tirlunio meddal a chaled ar dir ger Stad Maes Derwydd, Llangefni
PENDERFYNWYD cynnal ymweliad safle rhithiol yn unol â chais yr Aelod Lleol am y rhesymau a nodwyd.
12.2 FPL/2022/14 – Cais llawn ar gyfer dymchwel yr annedd a modurdy presennol a codi annedd newydd ynghyd ag addasu'r fynedfa bresennol yn
Green Bank, Ffordd Porth Llechog, Porth Llechog, Amlwch
PENDERFYNWYD cynnal ymweliad safle rhithiol yn unol â chais yr Aelod Lleol am y rhesymau a nodwyd.
12.3 FPL/2021/201/EIA – Cais llawn ar gyfer ailwampio / trwsio strwythur y morglawdd ynghyd â ffurfio man gwaith creu concrid dros dro ar gyfer adeiladu, creu a storio unedau concrid durol yn Morglawdd / Ynys Halen, Caergybi
PENDERFYNWYD cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog yn amodol ar yr amodau cynllunio yn yr adroddiad ysgrifenedig.
12.4 S106/2022/4 – Cais ar gyfer diwygio Cytundeb Adran 106 yn ymwneud a tai fforddiadwy o ganiatad cynllunio
27C23A ar dir ger Hen Ysgol Gynradd Llanfachraeth, Llanfachraeth.
PENDERFYNWYD gwrthod y cais yn groes i argymhelliad y Swyddog ar y sail bod y Pwyllgor o’r farn bod yr achos economaidd dros leihau’r ddarpariaeth tai fforddiadwy yn cael ei orbwyso gan yr angen economaidd am dai fforddiadwy.
Yn unol â gofynion Cyfansoddiad y Cyngor, gohiriwyd y cais yn awtomatig i'r cyfarfod nesaf er mwyn rhoi cyfle i Swyddogion baratoi
adroddiad mewn perthynas â'r rhesymau a roddwyd dros wrthod y cais.
12.5 FPL/2022/66 – Cais llawn ar gyfer newid defnydd tir i greu ardal barcio ceir yn Porth Wen, Llanbadrig
PENDERFYNWYD cynnal ymweliad safle rhithiol yn unol â chais yr Aelod Lleol am y rhesymau a nodwyd.
12.6 FPL/2022/23 Cais llawn ar gyfer adeiladu 2 dô dros yr iardiau presennol yn Bodhenlli, Cerrigceinwen
PENDERFYNWYD cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog yn amodol ar yr amodau cynllunio yn yr adroddiad ysgrifenedig.
12.7 VAR/2022/44 – Cais o dan Adran 73 i ddiwygio amod (33) (cynllun teithio) a amod (35) (priffyrdd a draenio) o ganiatad amlinellol 34C304K/1/EIA/ECON (Cais hybrid i greu canolfan beirianneg newydd, maes parcio, lle chwarae i blant a caniatâd cynllunio amlinellol ar gyfer datblygiad preswyl, gwesty a chyfleuster bwyd a diod ynghyd a lle parcio) er mwyn caniatau y gwybodaeth ar ol cychwyn gwaith ar y safle yn Coleg Menai, Llangefni
PENDERFYNWYD cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog yn amodol ar yr amodau cynllunio yn yr adroddiad ysgrifenedig.
12.8 FPL/2022/124 – Cais llawn i ddymchwel y gwesty hunanarlwyo presennol a chodi gwesty hunanarlwyo yn ei le ynghyd a datblygiad cysylltiedig yn Bryn Maelog, Ffordd Belan, Rhosneigr
PENDERFYNWYD cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog yn amodol ar yr amodau cynllunio yn yr adroddiad ysgrifenedig.
Dyddiad cyhoeddi: 07/09/2022
Dyddiad y penderfyniad: 07/09/2022
Penderfynwyd yn y Cyfarfod: 07/09/2022 - Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion
Dogfennau Cefnogol: