Y sawl sy'n gwneud penderfyniad : Pwyllgor Gwaith
Statws Penderfyniad : Argymhellion wedi cymeradwyo
Is KeyPenderfyniad?: Na
yn amodol ar gael ei alw i mewn?: Na
Cyflwynwyd adroddiad y Pennaeth Rheoleiddio a Datblygu Economaidd mewn perthynas â sefydlu Tîm Polisi Cynllunio newydd ar gyfer awdurdod cynllunio Ynys Môn i’w ystyried gan y Pwyllgor Gwaith.
Dywedodd yr Aelod Portffolio Cynllunio, Gwarchod y Cyhoedd a Newid Hinsawdd bod angen sefydlu strwythur addas ar gyfer y Tîm newydd i sicrhau bod ei ddyletswyddau cynllunio polisi statudol yn cael eu cyflawni’n effeithiol, effeithlon a chadarn. Amlygodd y prif ystyriaethau a’r cyllid refeniw ychwanegol sydd ei angen i sefydlu a gweithredu Tîm Polisi Cynllunio ar gyfer Ynys Môn. |
PENDERFYNWYD:-
· Awdurdodi rhyddhau £69,632 o gyllid refeniw blynyddol ychwanegol, i’w rannu 50/50 rhwng balansau cyffredinol y Cyngor a chyllideb refeniw bresennol y Swyddogaeth Gynllunio, sefydlu a gweithredu Tîm Polisi Cynllunio newydd ar gyfer Ynys Môn.
· Dirprwyo awdurdod i'r Aelod Portffolio, mewn ymgynghoriad â'r Arweinydd a'r Prif Weithredwr, i awdurdodi penderfyniadau pellach mewn perthynas â sefydlu'r Tîm Polisi Cynllunio newydd.
Dyddiad cyhoeddi: 27/09/2022
Dyddiad y penderfyniad: 27/09/2022
Penderfynwyd yn y Cyfarfod: 27/09/2022 - Pwyllgor Gwaith
Dogfennau Cefnogol: