Y sawl sy'n gwneud penderfyniad : Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion
Statws Penderfyniad : Argymhellion wedi cymeradwyo
Is AllweddolPenderfyniad?: Na
yn amodol ar gael ei alw i mewn?: Na
7.1 HHP/2022/46 – Cais llawn ar gyfer dymchwel, addasu ac ehangu yn Tan yr Allt Bach, Llanddona.
Penderfynwyd ail ymweld â’r safle am y rheswm a roddwyd.
7.2 VAR/2022/48 - Cais o dan Adran 73 i ddiwygio amod (04) o ganiatâd cynllunio rhif 45C260B (Cais llawn i newid defnydd yr adeilad presennol o A1 (mân-werthu) i ddefnydd cymysg A1 ac A3 (mân-werthu a bwyd a diod) er mwyn newid yr oriau agor presennol yn Madryn House, Pen y Dref, Niwbwrch.
Penderfynwyd gwrthod y cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog am y rhesymau a nodwyd yn yr adroddiad ysgrifenedig.
7.3 HHP/2022/171- Cais llawn ar gyfer addasu ac ehangu hefo balconis Juliet yn Awel y Bryn, Trigfa, Moelfre.
Penderfynwyd gwrthod y cais yn groes i argymhelliad y Swyddog oherwydd ystyriwyd bod y cais yn groes i Bolisi PCYFF2.
Yn unol â gofynion y Cyfansoddiad bydd y cais yn cael ei ohirio’n awtomatig i'r cyfarfod nesaf er mwyn rhoi cyfle i Swyddogion ymateb i’r rhesymau a roddwyd dros wrthod y cais
7.4 FPL/2022/66 – Cais llawn ar gyfer newid defnydd tir i greu ardal barcio ceir yn Porth Wen, Llanbadrig.
Penderfynwyd cadarnhau penderfyniad blaenorol y Pwyllgor i gymeradwyo’r cais yn groes i argymhelliad y Swyddog am y rhesymau a roddwyd ac awdurdodi’r Swyddogion i osod amodau cynllunio ar y caniatâd fel y bo’n briodol
Dyddiad cyhoeddi: 02/11/2022
Dyddiad y penderfyniad: 02/11/2022
Penderfynwyd yn y Cyfarfod: 02/11/2022 - Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion
Dogfennau Cefnogol: