Y sawl sy'n gwneud penderfyniad : Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion
Statws Penderfyniad : Argymhellion wedi cymeradwyo
Is KeyPenderfyniad?: Na
yn amodol ar gael ei alw i mewn?: Na
12.1 DIS/2022/68 – Cais i ryddhau amod (07) (cynllun arwyddion) o ganiatâd cynllunio FPL/202/65 (cadw maes parcio HGV a gwaith cysylltiedig am gyfnod dros dro o 12 mis) yn Plot 9 (rhan dwyreiniol), Parc Cybi, Caergybi.
Penderfynwyd cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog a’r adroddiad.
12.2 FPL/2022/189 – Cais ôl-weithredol i gadw defnydd fflat yn Bilash, Dew Street, Porthaethwy.
Penderfynwyd ymweld â’r safle yn unol â chais yr Aelod Lleol am y rheswm a roddwyd.
12.3 FPL/2022/53 - Cais llawn ar gyfer codi 22 annedd marchnad agored a 1 annedd fforddiadwy, addasu'r fynedfa bresennol, creu ffordd fynediad fewnol yn ogystal â gwaith cysylltiedig ar dir ger Cae Braenar, Caergybi.
Penderfynwyd ymweld â’r safle am y rhesymau a roddwyd.
12.4 HHP/2022/230 – Cais llawn ar gyfer addasu ac ehangu yn Dinas Bach, 5 Ystâd y Fron, Aberffraw.
Penderfynwyd ymweld â’r safle yn unol â chais yr Aelod Lleol am y rheswm a roddwyd.
12.5 VAR/2022/41 - Cais o dan Adran 73 i ddiwygio amod (09) (draenio dŵr wyneb), (13) (cymeradwyo lle i barcio cerbydau a cheir), a (14) (yn unol â chynlluniau i'w cymeradwyo) o ganiatâd cynllunio rhif 46C188G (ailddatblygu'r safle presennol ynghyd â chodi hyd at 6 o unedau) er mwyn caniatáu cyflwyno cynllun draenio dŵr wyneb, man troi cerbydau a maes parcio, ynghyd ag yr ail-leoli a dyluniad diwygiedig yr anheddau arfaethedig yn 1 Blue Water Close, Trearddur.
Penderfynwyd ymweld â’r safle yn unol â chais yr Aelod Lleol am y rhesymau a roddwyd.
12.6 DIS/2022/63 – Cais i ryddhau amod (05)(tirwedd) (08)(arwyddion) (16)(asesiad risg lliniaru) o ganiatâd cynllunio FPL/2021/337 (cais llawn ar gyfer adeiladu Cyfleuster Ffiniau Mewndirol (IBF) yn hen safle Roadking, Parc Cybi, Caergybi.
Penderfynwyd gohirio’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog am y rheswm a roddwyd.
12.7 FPL/2022/225 – Cais llawn am estyniad i'r adeilad amaethyddol lles presennol yn Cae Mawr, Trefor, Caergybi.
Penderfynwyd cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog ac yn amodol ar yr amodau yn yr adroddiad.
12.8 FPL/2022/124 – Cais llawn ar gyfer newid defnydd, addasu ac ehangu adeilad allanol presennol i fod yn annedd menter gwledig ynghyd â gosod system trin carthffosiaeth newydd yn Eirianallt Goch Farm, Carmel, Llanerchymedd.
Penderfynwyd ymweld â’r safle yn unol â chais yr Aelod Lleol am y rheswm a roddwyd.
Dyddiad cyhoeddi: 02/11/2022
Dyddiad y penderfyniad: 02/11/2022
Penderfynwyd yn y Cyfarfod: 02/11/2022 - Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion
Dogfennau Cefnogol: