Y sawl sy'n gwneud penderfyniad : Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion
Statws Penderfyniad : Argymhellion wedi cymeradwyo
Is KeyPenderfyniad?: Na
yn amodol ar gael ei alw i mewn?: Na
Cyflwynwyd cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 2 Tachwedd 2022 a chadarnhawyd eu bod yn gywir, yn amodol ar y newidiadau a ganlyn:-
· Cais 7.3 – Awel y Bryn, Trigfa, Moelfre – Dylid dileu’r paragraff olaf yn natganiad Mr Peter J Hogan.
· Cyfeiriodd y Cynghorydd Jeff Evans at y materion a gododd mewn perthynas â chais 12.3 - Cae Braenar, Penrhos, Caergybi gan nodi nad oedd ei sylwadau wedi eu hadlewyrchu yn y cofnodion yn cynnwys ei ddymuniad i ohirio’r cais, y datganiad amhriodol a wnaed gan y Swyddog Cynllunio wrth gyfeirio at gyfarfod o’r Pwyllgor Gwaith a gynhaliwyd ar 24 Ionawr, 2022, a’r ffaith bod tudalen 50 yn yr adroddiad yn cyfeirio at godi 22 tŷ marchnad agored ac 1 tŷ fforddiadwy ond bod tudalen 51 yn cyfeirio at godi 23 tŷ fforddiadwy.
Dyddiad cyhoeddi: 07/12/2022
Dyddiad y penderfyniad: 07/12/2022
Penderfynwyd yn y Cyfarfod: 07/12/2022 - Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion
Dogfennau Cefnogol: